Mae'n bwysig i ddatblygu a chryfhau sgiliau mudol man cyn gallu dal offer i wneud marciau a ffurfio'n hyderus. /
It's important to develop and strengthen fine motor skills before being able to hold an pencil to make marks and form confidently.
Ydych chi’n gallu ymarfer defnyddio siswrn i gryfhau cyhyrau yn eich dwylo? Torrwch ar hyd llinell fel yn y llun gyferbyn. /
Can you practise using scissors to strengthen the muscles in your hands? Cut along a line as seen in the image opposite.
Ydych chi’n gallu ymarfer eich sgiliau edafu? Edafwch leiniau / tiwbiau pasta a.y.b.. ar linyn, neu edafwch linyn mewn ac allan o dyllau. /
Can you practise your threading skills? Thread beads / pasta tubes etc. onto string, or thread string in and out of holes.
Ydych chi’n gallu datblygu eich sgiliau mudol man drwy ymarfer a chryfhau cyhyrau wrth binsio? Pinsiwch ‘bubble wrap’, pinsiwch gyda gefeiliau bach, pegiau, pippets a.y.b. /
Can you develop your fine motor skills by practising and strengthening your muscles by pinching? Pinch bubble wrap, pinch with tweezer, pegs, pippets etc.
Ydych chi'n gallu datblygu eich sgiliau mudol man wrth ddefnyddio toes? /
Can you develop your fine motor skills by using playdough?
Ydych chi’n gallu datblygu eich sgiliau mudol man drwy geisio codi darnau bach? E.e. Defnyddiwch gownteri, arian, cerrig bach ayyb.
Can you develop your fine motor skills by trying to pick up some items? E.g. use counters, money or small stones etc.
Ydych chi’n gallu datblygu eich sgiliau mudol man drwy ymestyn bandiau elastig o gwmpas gwrthrych? /
Can you develop your fine motor skills by stretching elastic bands around an item?