Adran
Crynodeb o hyd at 250 gair
1. Cyd-destun a chynllunio
2. Dulliau o gynnal ymchwiliad maes
3. Cyflwyno’r canfyddiadau â data drwy gyfrwng amrywiaeth o dechnegau
4. Dadansoddi a dehongli canlyniadau
5. Casgliadau
6. Gwerthuso
Gofynion cyflwyno; cyfeirnodau, atodiadau, strwythur
Cynnwys
Crynodeb o’r ymchwiliad, a’r cwestiwn ymchwil a’r cyswllt â’r fanyleb wedi’u datgan yn glir
Y cefndir i’r mater neu’r cwestiwn ymchwil unigol; fframwaith cysyniadol, gan gynnwys cefndir damcaniaethol; asesu risg a materion moesegol a ategir gan lenyddiaeth a deunydd cefndir (Y lleoliad wedi’i ddatgan i roi’r cyd-destun)
Disgrifiad o’r dulliau a ddefnyddiwyd i arsylwi, mesur a chofnodi ffenomenau yn y maes wedi’u cymhwyso at y dulliau o gasglu data a gysylltir â chwestiwn ymchwil clir a phriodol; y rôl yr ymgymerwyd â hi o ran casglu data (unigol a / neu grŵp) gyda chyfiawnhad
Cyfathrebu data / gwybodaeth maes (cynradd) ac eilaidd a gasglwyd drwy gyfrwng technegau cyflwyno priodol, gan ganiatáu i waith dadansoddi addas gael ei wneud, gan ddefnyddio sgiliau meintiol ac ansoddol
Dadansoddi, dehongli / cyfiawnhau canlyniadau yn sgil y data / gwybodaeth a gasglwyd; technegau cyflwyno data
Llunio casgliadau sydd â thystiolaeth dda, syntheseiddio canlyniadau, wedi’u llywio gan y cefndir damcaniaethol sy’n sail i’r gwaith ymchwil a nodir yn y cyflwyniad
Sylwadau myfyrio cryno, beirniadol ynghylch pob cyfnod yn yr ymchwiliad cyfan er mwyn gwerthfawrogi cryfderau a chyfyngiadau’r data maes (cynradd) ac eilaidd, cywirdeb, graddau’r dibynadwyedd a / neu wallau neu gamddefnydd o ddata, tuedd, gwerthfawrogi safbwyntiau a buddiannau rhanddeiliaid, y dulliau a ddefnyddiwyd, canlyniadau a chasgliadau a luniwyd; awgrymiadau ynghylch gwelliannau pellach a / neu waith ymchwil pellach
Llyfryddiaeth ynghylch gwybodaeth eilaidd ac atodiadau perthnasol wedi’u cynnwys. Mae canllawiau ar gyfeirnodau, nifer y geiriau ac atodiadau i’w cael yn Adran 3.2, Trefniadau ar gyfer asesu di-arholiad