Llythrennedd
Llythrennedd
Athrawon cynradd disgyblion hŷn ac athrawon uwchradd pob pwnc.
Mae’r hyfforddiant diwrnod cyfan yn addas ar gyfer unrhyw athro sydd am ddatblygu ei ddulliau addysgu darllen yn yr ystafell ddosbarth a chael mewnwelediad pellach a chyngor ymarferol ar sut i:
· ddewis testunau heriol
· ymgorffori a defnyddio strategaethau darllen perthnasol yn eu dosbarth
· cyflwyno ac addysgu testun yn effeithiol
· cwestiynu'n effeithiol wrth ddarllen
Bydd y sesiynau hyn yn cynnig cydbwysedd clir o theori, arfer ac enghreifftiau cyfredol o ysgolion ar draws rhanbarth Partneriaeth. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi ysgolion i gwrdd â'r heriau o gydlynu datblygiad cynyddol sgiliau darllen ar draws gwahanol bynciau.
Manylion y Digwyddiad
Y Llwyfan – 26 Tachwedd – Cyfrwng
Saesneg
https://forms.gle/eiqc2ioWH5RgoMDHA
Y Llwyfan – 3 Rhagfyr - cyfrwng Cymraeg
https://forms.gle/dPFk8yuf5pE6YvcG9
Cynulleidfa darged: Arweinwyr Llythrennedd Ysgolion Uwchradd
Mae sgil trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cyrchu gwybodaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i gael mynediad at ehangder cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd y mae’n ei gynnig, gan eu harfogi â’r sgiliau gydol oes i wireddu’r pedwar diben.
Mae llythrennedd yn ganolog i bob ystafell ddosbarth effeithiol ac mae’n chwarae rhan annatod wrth alluogi dysgwyr i ymgorffori’r pedwar diben a gwella eu cyfleoedd bywyd. Felly, mae angen rhwydwaith ar ysgolion Partneriaeth sy’n hwyluso’r gwaith o gydgysylltu ac ysgogi gwella llythrennedd ar draws ysgolion uwchradd.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn rhoi strategaethau a syniadau i arweinwyr llythrennedd uwchradd i ddatblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm a gwella ansawdd addysgu llythrennedd.
Mae diwrnod un yn nhymor yr hydref yn cael ei gynnig drwy'r cynnig PL rhanbarthol ar Addysgu Uwch-fedrau Darllen. Yn ystod tymor y gwanwyn bydd ymarferwyr yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd grwpiau bach ar-lein i gydweithio ac adolygu. Bydd cyfarfod wyneb yn wyneb yn nhymor yr haf. Bydd ymarferwyr ar draws y tri digwyddiad yn cydweithio ag eraill, gan rannu arfer dda i sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd perthnasol a phriodol mewn pynciau sy’n gyfoethog mewn llythrennedd.
Bydd pob arweinydd yn cael cyfle i rannu arfer effeithiol ynghylch strategaethau hybu llythrennedd o ansawdd uchel.
Bydd pob arweinydd yn cael y negeseuon diweddaraf am ddatblygiad llythrennedd effeithiol, a gaiff eu llywio gan ymchwil gyfredol a syniadau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd gan bob arweinydd ddealltwriaeth well o'u rolau wrth yrru a gwella llythrennedd yn eu lleoliadau.
Bydd pob arweinydd yn defnyddio'r adnoddau a'r negeseuon o'r cyfarfodydd hyn i wella ansawdd addysgu a dysgu llythrennedd yn eu lleoliadau.
Pan fydd yn briodol, bydd pob arweinydd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd i fonitro ac arfarnu safonau llythrennedd a chynllunio ar gyfer gwelliannau.
Bydd pob arweinydd yn cael cyfleoedd i rwydweithio ag arweinwyr llythrennedd eraill ar draws rhanbarth Partneriaeth.
16 Mehefin 2025 – Ystafell Gynadledda, Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/E9HazuzpUwdzHGWt8