ysgol godre'r berwyn

Nod Ysgol Godre'r Berwyn yw i greu ysgol sy’n rhoi plant yn gyntaf, yn parchu ac ymestyn pob unigolyn i’w lawn botensial. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddatblygu pobl ifanc egwyddorol, mentrus ac uchelgeisiol sydd yn rhoi o’u gorau pob amser.

Amcanwn i roi’r addysg orau bosib i bob disgybl a chreu ysgol hapus ble mae bawb, yn blant ac oedolion, yn gwneud eu gorau bob amser, yn frwdfrydig, yn gofalu am ei gilydd ac yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle a phrofiad i ddysgu ac i gyfoethogi eu profiadau.

Tudalen 54 - http://www.ysgolgodrerberwyn.cymru/index_htm_files/Prosbectws%202021-22.pdf

https://twitter.com/Godrer_Berwyn

ysgol llanfyllin

Ysgol Llanfyllin ydy’r ail ysgol pob oed yn Mhowys. Cafodd ei sefydlu ym Medi 2020 ar ôl cyfuno Ysgol Gynradd Llanfyllin ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Mae’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ar gyfer disgyblion 4 -18 oed ar safleoedd yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.

Mae’r ysgol wedi’i seilio ar ein 5 egwyddor sylfaenol:

  • Canolfan flaengar, arloesol a chynhwysol ar gyfer dysgu gydol oes

  • Ysgol newydd sydd â sicrwydd ansawdd a gwella ysgol yn greiddiol iddi

  • Ysgol newydd â chwricwlwm newydd

  • Ysgol newydd sydd wedi ymrwymo i hybu a datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Ac yn bwysicaf oll,

  • Ysgol hapus gyda’r syniad o ‘Deulu’ yn ganolog.

Mae sefydlu’r ysgol wedi dod ar amser cyffrous i’r cyngor wrth iddo ddechrau cyflawni’r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, strategaeth 10 mlynedd uchelgeisiol i wella’r ddarpariaeth addysgol a hawliau dysgwyr y sir.

Ysgol Llanfyllin ac e-sgol - https://youtu.be/PmWGQCSjOog?t=218

https://twitter.com/llanfyllin

julie fletcher - ysgol y strade

kojo hazel - treorchy comprehensive school

meredudd jones - ysgol maes-y-gwendraeth

Gwefan Ysgol Maes-y-Gwendraeth - https://sites.google.com/hwbcymru.net/maesygwendraeth

Sianel YouTube Yr Ysgol Ddigidol - https://www.youtube.com/c/YrYsgolDdigidol/videos

Amdano'r fideos - (Hyfforddiant a syniadau ar ddefnyddio sgiliau digidol gan Meredudd Jones - athro uwchradd yn Ysgol Maes y Gwendraeth, Sir Gâr. Mae'r fideos wedi cael eu creu gyda chefnogaeth yr ysgol, ond dydw i ddim yn siarad ar ran yr ysgol, ac fy marn personol innau yw cynnwys y sianel - nid safbwynt swyddogol yr ysgol. Mae mwyafrif helaeth y fideos yn canolbwyntio ar adnoddau sydd ar gael i staff a disgyblion Cymru trwy blatfform Hwb).

hwb - peter thomas / michelle brake

Mae Hwb, y Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol, yn gartref i gasgliad cenedlaethol o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru. Datblygwyd Hwb yn unol â’r egwyddorion allweddol canlynol:

  • cefnogi dull cenedlaethol o gynllunio a gweithredu

  • ei gwneud yn bosibl rhannu sgiliau, dulliau ac adnoddau rhwng athrawon yng Nghymru

  • cefnogi addysgu a dysgu drwy’r Gymraeg a'r Saesneg

  • cynnig offer ac adnoddau cyfartal am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth gan athrawon a dysgwyr yng Nghymru.

Mae Hwb yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ac athrawon gael mynediad i adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw bryd, ac o amrywiaeth o ddyfeisiau. Mae hefyd yn darparu adnoddau i helpu athrawon i greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain.

https://hwb.gov.wales/