Codwyd ymwybyddiaeth y disgyblion o ddiogelwch wrth ddefnyddio’r we, Chwefror 10, drwy amrywiaeth o drafodaethau ac weithgareddau dosbarth.
Bu pob dosbarth yn cymryd rhan mewn tasgau a sgyrsiau pwrpasol i’w hatgoffa o bwysigrwydd bod yn ofalus ac ymwybodol wrth ryngweithio ar-lein. Fe wnaeth y gweithgareddau helpu’r plant i adnabod sefyllfaoedd peryglus posibl ac i ddeall sut i gadw’u hunain yn ddiogel.
Hoffem ddiolch yn arbennig i PC Jasmin am ymweld â’r ysgol ac am gyfrannu’n werthfawr at y gweithgareddau. Rhoddodd hi gyngor clir ac addas i’r disgyblion, gan atgyfnerthu’r negeseuon diogelwch mewn ffordd sy’n hawdd iddynt ei deall.
Dydd Miwsig Cymru
Cawsom ddathlu dydd Miwsig Cymru drwy wrando ar amrywiol artistiaid cerddorol o Gymru yn canu. Bu'r dosbarthiadau yn cwblhau gwahanol weithgareddau, cyn cael disgo ddiwedd y dydd.
Agor y Llyfr.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Y stori y mis hwn oedd 'Ffrindiau arbennig Iesu' gyda disgyblion o ddosbarthiadau Pedr a Ffinan yn darllen ac actio.
Diolch yn fawr am ddod atom unwaith eto.
Milfeddygon Blwyddyn 2
Cafodd Blwyddyn 2 ymweliad arbennig gan Mirain a Kate o’r filfeddygfa wrth iddyn nhw ddysgu am y fferm. Cawsom gyfle i wrando ar guriad calon Twm y ci ac, yn fwy cyffrous fyth, rhoi “llawdriniaeth” iddo!
Dysgodd y plant lawer iawn am anifeiliaid y fferm ac am waith pwysig y milfeddygon yn gofalu amdanynt.
Diolch yn fawr iawn i Mirain a Kate am wneud y sesiwn mor ddiddorol.
Eisteddfod Offerynnol yr Urdd – Ynys Môn
Cynhaliwyd Eisteddfod Offerynnol yr Urdd Ynys Môn yn Ysgol y Graig, gyda nifer fawr o’n disgyblion yn cymryd rhan mewn cystadlaethau unigol, unai ar y piano neu gydag offeryn pres.
Llongyfarchiadau mawr i fand Y Graig, a enillodd drydydd mewn cystadleuaeth hynod o gystadleuol – canlyniad gwych sy’n adlewyrchu eu hymroddiad a’u gwaith caled.
Diolch o galon i Mr Ioan Hughes am ei waith diflino wrth hyfforddi’r offerynwyr pres a’r band. Diolch hefyd i'r holl rieni am eu cefnogaeth.
Cystadleuaeth Pêl rwyd yr Urdd
Bu criw o'r ysgol yn cystadlu yng nghystadleuaeth Pêl rwyd yr Urdd yng nghanolfan Brailsford ym Mangor. Chwaraeoedd y tîm yn dda iawn. Diolch i Mr Jonathan Jones am hyfforddi'r tîm, ac i Mrs McGilvary am ddreifio'r bws mini.
Gwersi beics
Mae dosbarthiadau Blwyddyn 5 a 6 yn derbyn gwersi beics gyda Ceri Williams. Mae'n gyfle i'r disgyblion ail-atgoffa eu hunain o'r rheolau a'r sgiliau wrth feicio a chadw yn ddiogel ar y ffordd fawr.
Cystadleuaeth Pêl-droed Môn Actif
Bu dau dîm yn cystadlu yng nghystadleuaeth pêl-droed Môn Actif yn ddiweddar. Cafodd y disgyblion hwyl dda yn y gystadleuaeth. Diolch i Mr Gwilym am hyfforddi'r disgyblion.
Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi
Bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn gorymdeithio gyda gweddill ysgolion y Dalgylch i ddathlu ein Nawddsant. Yn dilyn yr orymdaith, aeth pawb i fwynhau jambori yn neuadd yr Ysgol Gyfun.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Pryd mae pen-blwydd...?
Mae pen-blwydd....ym mis .......
Her
Pryd gafodd o ei eni? Pryd gafodd hi ei geni?
Cafodd ei eni yn..(blwyddyn) / Cafodd ei geni yn (blwyddyn)
Testun trafod:
Byddwn i'n hoffi adeiladu....
Cân Gymraeg Dadleoli: Dalia mlaen
Idiom Gymraeg: Bwrw hen wragedd a ffyn
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
13/02/26
13/02/26
27/02/26
27/02/26
28/02/26 - Eisteddfod Cylch Cefni - Ysgol Gyfun Llangefni
02/03/26 - Diwrnod gwisgo Coch, Gwyn a Gwyrdd (elw at Eisteddfod yr Urdd, 2026)
05/03/26 - Diwrnod y llyfr - gwisgo fel cymeriad o lyfr
06/03/26 - Cystadleuaeth Pêl-droed Merched Bl. 5 a 6
10/03/26 - Cystadleuaeth Pêl-droed yr Urdd Bl. 5 a 6
16/03/26 - Noson rieni Graig Fach 3:15pm - 6pm
17/03/26 - Noson rieni Graig Fawr 3:15pm - 6pm
18/03/26 - Gwers nofio 9 Bl. 3 a 4
21/03/26 - Eisteddfod Sir yr Urdd, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
23/03/26 - TEMPEST - tynnu lluniau teuluoedd o 8am ymlaen
24/03/26 - TEMPEST - tynnu lluniau unigolion o 9am ymlaen
25/03/26 - Gwers nofio 10 Bl. 3 a 4
27/03/26 - Ysgol yn cau am wyliau'r Pasg
Gwyliau Pasg - 30/03/26 - 12/04/26
Os yw eich plentyn yn dod a bocs bwyd o adref fel arfer i ginio, ac yn dymuno cael cinio Dydd Gŵyl Dewi, yna anfonwch neges SeeSaw i Mr Pritchard os gwelwch yn dda.
Sesiynau Pipyn, Ystafell Gymunedol Graig Fawr
yn cychwyn Mawrth 3ydd am 2pm. Plant yn ymuno â'r rhieni am 3pm.
Caban Llangefni 9.30am - 11.30am
27 Ionawr, 2026 am 6 wythnos 10.00am - 11.00am
i blant Meithrin i Flwyddyn 2