Cafodd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 ddiwrnod arbennig iawn wrth ymweld â Fferm Bodlas fel rhan o’u gwaith thema. Mwynhaodd y plant y cyfle i ymweld â'r fferm a chasglu pwmpenni. Byddant yn eu defnyddio i greu cawl blasus yn yr ysgol.
Roedd ymddygiad y disgyblion yn rhagorol drwy gydol y daith.
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at wneud y profiad hwn yn un mor llwyddiannus, pleserus a chofiadwy i’r plant.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Cawsom wrando ar stori Joseff gyda chymorth gan blant o ddosbarth Edern a dosbarth Edwen.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 brynhawn gwych wrth fynychu Gŵyl Gyfeiriannu Garreglwyd. Roedd y disgyblion wedi mwynhau’r heriau amrywiol, datblygu eu sgiliau cyfeiriannu a'r cyfle i weithio’n effeithiol fel tîm yn yr awyr agored.
Roedd yn brofiad gwerthfawr a phleserus i bawb, a'r disgyblion wedi cynrychioli’r ysgol yn arbennig o dda.
Diolch yn fawr i Mr Frazer, Miss McGrath a Mrs Moore am fynd gyda’r disgyblion a chefnogi’r ymweliad.
Bu Alaw a Gwennan yn cynrychioli’r ysgol yng nghyfarfod cyntaf Cyngor Ysgolion Dalgylch Cefni. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i gyfarfod â chynrychiolwyr o ysgolion eraill y dalgylch, rhannu syniadau a dechrau cynllunio ar gyfer blwyddyn arall o gydweithio llwyddiannus.
Edrychwn ymlaen at weld y prosiectau a’r gweithgareddau cyffrous a fydd yn deillio o’r bartneriaeth arbennig hon dros y misoedd nesaf. Da iawn i Alaw a Gwennan am gynrychioli’r ysgol mor wych.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 sesiynau diddorol a gwerthfawr yn canolbwyntio ar ddatblygu gwytnwch, hunanwerth a lles emosiynol. Trafodwyd ffyrdd o reoli emosiynau, ymdopi â heriau bob dydd a magu hyder ynddynt eu hunain. Dysgodd y disgyblion hefyd ble y gallant droi am gymorth a chefnogaeth os ydynt yn poeni am eu hiechyd meddwl neu eu lles.
Roedd y sesiynau yn hynod o fuddiol, gan obeithio helpu'r disgyblion i feithrin sgiliau pwysig ar gyfer yr ysgol ac ar gyfer bywyd. Diolch i Mrs Griffiths am drefnu'r sesiynau.
Dydd Gwener, Hydref 16 daeth y disgyblion i’r ysgol wedi gwisgo coch i anfon neges glir a chadarn fod dim lle i hiliaeth yn Ysgol y Graig. Roedd yn braf gweld cymaint yn cymryd rhan a dangos eu cefnogaeth i greu ysgol lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu ac yn perthyn.
Drwy’r gweithgareddau a’r trafodaethau yn ystod y dydd, bu’r plant yn dysgu am bwysigrwydd derbyn a dathlu ein gwahaniaethau, a sut y gallwn i gyd chwarae rhan mewn gwneud ein hysgol yn gymuned garedig a chynhwysol.
Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6 am arwain gwasanaethau Diolchgarwch i weddill yr ysgol. Roedd y gwasanaethau yn gyfle gwerthfawr i’r plant rannu negeseuon am ddiolchgarwch, caredigrwydd a gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym. Diolch yn fawr i'r staff am eu paratoi.
Yn dilyn eu hymweliad â Fferm Bodlas, bu disgyblion Blwyddyn 1 a 2 yn brysur yn paratoi cawl pwmpen blasus gan ddefnyddio’r pwmpenni a gasglwyd yn ystod y daith. Cafodd trigolion Hafan Cefni eu gwahodd i fwynhau’r cawl ac i fwynhau'r disgyblion yn canu caneuon ac yn adrodd stori drwy ddull Pie Corbett, gan ddefnyddio symudiadau i ddod â’r stori’n fyw. Roedd eu cyflwyniad, “Sioe Goginio”, yn llwyddiant mawr, a thrigolion Hafan Cefni wir wedi mwynhau’r cawl a’r adloniant. Roedd yn braf gweld y plant yn sgwrsio gyda hwy ar ddiwedd y perfformiad. Heb os, daeth y prynhawn â chymaint o lawenydd i’r trigolion.
Diolch yn fawr i holl staff Blwyddyn 1 a 2 am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth sicrhau profiadau mor werthfawr ac arbennig i’n disgyblion. Gwych iawn pawb!
Daeth Sian Evans o Cwtch i roi cyflwyniad difyr a phwysig iawn i flynyddoedd Blwyddyn 5 a 6 am wahanol berthnasoedd a phwysigrwydd trin pob rhyw gyda pharch a thegwch.
Diolch yn fawr iawn i Miss Millican am drefnu ar gyfer ein disgyblion.
Bu criw genethod disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu yng nghystadleuaeth pêl-droed a drefnwyd gan yr Urdd ym Mhlas Arthur, Llangefni. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am eu perfformiad a’u hymddygiad gwych drwy gydol y dydd. Bu'r tîm yn anlwcus iawn o fethu allan ar gyrraedd y rownd derfynol unwaith eto. Llongyfarchiadau i Ysgol Borth, enillwyr y gystadleuaeth. Diolch i Mr Jones am eu hyfforddi, i Mrs McGilvary am gefnogi ac i Mrs Redvers Jones am ddreifio'r bws mini.
Ni chaniateir cŵn ar safle'r ysgol o gwbl. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch pawb.
Hoffem hefyd ofyn yn garedig i rieni a disgyblion sicrhau bod plant yn dod oddi ar eu beiciau a'u sgwteri wrth ddod drwy giatiau'r ysgol.
Dylid cerdded gyda'r beic neu'r sgwter ar safle'r ysgol er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel, yn enwedig yn ystod amseroedd prysur y bore a diwedd y dydd.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth barhaus.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Beth wyt ti am wneud dros yr hanner tymor?
Dros yr hanner tymor rydw i am…
Her
Rydw i’n gobeithio mynd/ gwneud...
Edrychaf ymlaen at…
Testun trafod:
Ar ddiwrnod gwlyb does dim yn well na…
Cân Gymraeg Dadleoli- Diwrnodau Haf
Idiom Gymraeg: Rhoi’r ffidl yn y to
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
16/10/26
16/10/26
23/10/26
23/10/26
26/11/26 - 30/11/26 - Gwyliau Hanner tymor
02/11/26 – Ysgol ar gau
03/11/26 - Ysgol yn ail-agor
13/11/26 - Diwrnod Plant Mewn Angen (mwy o wybodaeth i ddilyn)
17/11/26 - Ffair Nadolig 3:15pm - 6pm (Uned Graig Fawr)