Roeddem fel ysgol am ddathlu pen-blwydd ein harwr Mr Urdd! Cafodd pawb y cyfle i wisgo unai Coch, Gwyn neu Wyrdd.
Dymuniadau gorau am lawer blwyddyn arall i Mr Urdd oddi wrth ddisgyblion a staff Ysgol y Graig 🎉
HAFAN CEFNI
Cerdyn diolch gan blant Blwyddyn 2 i drigolion Hafan Cefni.
Cafodd Blwyddyn 2 wahoddiad i ymweld â thrigolion hyfryd â Hafan Cefni fis Rhagfyr. Cafwyd croeso cynnes iawn gan bawb yno, ac roedd yn bleser cael y cyfle i ganu iddynt.
Aethpwyd a llythyr 'diolch' i fynegi ein gwerthfawrogiad am y croeso arbennig a’r profiad bendigedig a gafwyd.
Mae'r ddau ddosbarth yn gobeithio yn fawr y cawn ddychwelyd yno yn y dyfodol agos i barhau i feithrin y cysylltiad arbennig hwn.
Llongyfarchiadau!
Rydym fel ysgol yn llongyfarch Mrs Elain Thomas a Mr Simon Thomas ar enedigaeth Gruff John.
Hefyd, llongyfarchwn Mrs Lisa Thomas a Mr Aled Thomas ar enedigaeth Bedwyr Fôn.
Pob dymuniad gorau i'r ddau deulu.
Croeso!
Rydym yn croesawu Miss Lois Jones a Mr Kelvin Frazer i’r ysgol fel athrawon.
Bydd Miss Jones yn dysgu yn y dosbarth Eilian, tra bod Mr Pritchard yn Ddirprwy Bennaeth dros dro.
Bydd Mr Frazer yn dysgu yn y dosbarth Ffinan tra fod Mrs Lisa Thomas ar gyfnod mamolaeth.
Agor y Llyfr.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Y stori ar gychwyn y flwyddyn newydd oedd Iesu yn y Deml gyda disgyblion o ddosbarthiadau Cwyfan ac Edwen yn darllen ac actio.
Rydym fel ysgol yn ddiolchgar iawn iddynt am ddod atom yn fisol, ac mae pawb - yn ddisgyblion a staff ym mwynhau'r gwasanaethau yn fawr iawn.
Aeth criw o blant o'r Adan Iau i gystadlu yng nghystadleuaeth nofio wedi ei threfnu gan Môn Actif. Roedd pawb wedi rhoi o'u gorau. Da iawn chi!
Diolch i Mr Gwilym am drefnu a chefnogi'r disgyblion.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Sut wyt ti? / Sut ydych chi?
Iawn diolch / Da iawn diolch
Her
Rydw i ar ben y byd oherwydd....
Rydw i'n hapus fel y gôg heddiw oherwydd...
Rydw i wedi cael llond bol heddiw oherwydd....
Testun trafod:
Fy hoff gêm i’w chwarae yn y car yw…
Cân Gymraeg Y Cledrau, Cerdda fi i lawr i’r traeth
Idiom Gymraeg: Rhaid cropian cyn cerdded.
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
16/01/26
16/01/26
23/01/26
23/01/26
26/01/26 - Dyddiad cau ar gyfer cystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd, 2026. Anfonwch enw eich plentyn i Mr Pritchard. (Rhaid bod yn aelod o'r Urdd.)
26/01/26 - Cinio Santes Dwynwen
28/01/26, - Gwers Nofio 4 - Blwyddyn 3 a 4
28/01/26 - Cyfnewid dillad - Ystafell Gymunedol, Graig Fawr 2pm - 4pm
04/02/26 - Gwers Nofio 5 - Blwyddyn 3 a 4
05/02/26 - Cystadleuaeth Pêl-rwyd Blwyddyn 5 a 6
07/02/26 - Eisteddfod Offerynnol yr Urdd - Ysgol y Graig.
27 Ionawr, 2026 am 6 wythnos 10.00am - 11.00am
i blant Meithrin i Flwyddyn 2