Dymuniadau gorau i'r disgyblion sy'n cystadlu yn y Cyflwyniad Theatrig a'r Côr. Diolch yn fawr iawn i Mrs Catrin Jones Hughes fu'n hyfforddi'r cyflwyniad a Mrs Grês Pritchard fu'n hyfforddi'r Côr. Dymuniadau gorau i Gruffudd Siôn sy'n cystadlu ar yr Alaw Werin a'r Unawd Piano.
Diolch i Mr Pritchard am ei gefnogaeth, ac i'r rhieni am eu cefnogaeth ar hyd y daith eisteddfodol. Profiadau arbennig i'r plant.
Bydd y ddwy gystadleuaeth yn cael eu cynnal yn y Pafiliwn Gwyrdd, dydd Iau, Mai 28.
Dewch i gefnogi ar y maes, neu beth am wylio ar y teledu!
Cafodd disgyblion Blwyddyn 3 a 4 ddeuddydd cofiadwy iawn wrth ymweld â Moelfre fel rhan o’u thema ar y Môr. Dechreuodd y diwrnod gyda cherdded ar hyd rhan o lwybr yr arfordir, gan fwynhau’r golygfeydd trawiadol a’r amgylchedd naturiol.
Cafwyd saib ym Mhorth Helaeth, lle bu’r plant yn cymryd rhan mewn her adeiladu tyrau gan ddefnyddio cerrig y traeth. Her hwyliog yn annog cydweithio a meddwl yn greadigol.
Ymlaen wedyn i Gwylfan Moelfre, lle cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am ddiogelwch ar y traeth ac yn y môr. Roedd cael gweld tu fewn i orsaf Bâd Achub Moelfre a gweld y gwch yn brofiad. I gwblhau’r ymweliad, bu’r plant yn mwynhau helfa drysor gyffrous.
Hoffem ddiolch yn fawr i Anti Val yng Nghapel Carmel am ei chroeso cynnes ac am ganiatáu i ni ddefnyddio ysgoldy’r capel i fwyta cinio. Diolch hefyd i Mrs McGilvary, Mrs Taylor, Mrs Redvers Jones a Mrs Moore am eu cymorth wrth gludo’r disgyblion yn ddiogel ar y bysus mini.
Yn ddi-os, roedd hwn yn gychwyn arbennig i’r thema, gan roi profiadau gwerthfawr i’r plant.
Fel rhan o’u thema ar fyd natur, bu disgyblion Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 yn archwilio arwyddion natur ar hyd llwybr 'Traed Bach' sy'n amgylchynu Uned Graig Fawr.
Defnyddiodd y plant eu synhwyrau i sylwi ar y byd o’u cwmpas, gan wrando, arogli, gweld a theimlo nodweddion amrywiol yr amgylchedd naturiol. Roedd hwn yn brofiad gwerth chweil a helpodd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth a’u gwerthfawrogiad o fyd natur.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Cawsom wrando ar stori Pedr gyda chymorth gan blant o ddosbarth Cwyfan a dosbarth Maethlu.
Bu criw o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu yng nghystadleuaeth Rygbi Tag a drefnwyd gan Môn Actif yn Llangefni. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am eu perfformiad a’u hymddygiad gwych drwy gydol y dydd.
Rydym yn hynod falch o Ani, a dderbyniodd fedal am fod y chwaraewraig orau yn y gystadleuaeth—camp arbennig iawn!
Diolch o galon i Mr Jones am eu hyfforddi, ac i Mrs McGilvary am ei chefnogaeth werthfawr ar y diwrnod.
Croesawyd Mr Huw Tegid Roberts atom i Graig Fawr i annerch y plant drwy gyfrwng stori ysbrydoledig iawn. Cyflwynodd freichled arbennig gyda phob rhan yn wahanol, gan arwain at drafodaeth am amrywiaeth a hunaniaeth. Aeth ymlaen i ddangos lluniau o wahanol flodau ac anifeiliaid i bwysleisio’r neges. Ei brif neges oedd ein hatgoffa fod pawb yn wahanol, a bod hynny’n gwbl berffaith—yn wir, mae ein gwahaniaethau yn ein gwneud yn arbennig.
Roedd yn hyfryd hefyd cael croesawu disgyblion Blwyddyn 2 atom i’r gwasanaeth, gan gychwyn ar y broses bontio o Graig Fach i Graig Fawr mewn ffordd gynnes a chroesawgar.
Cafodd disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 ymweliad diddorol iawn yn ddiweddar gan gwmni Dŵr Cymru. Bu’r sesiwn yn gyfle gwerthfawr i ddysgu mwy am bwysigrwydd dŵr, sut mae’n cael ei drin, a’n cyfrifoldeb ni i’w ddefnyddio’n ofalus.
Trwy weithgareddau rhyngweithiol a thrafodaethau difyr, cafodd y plant well dealltwriaeth o sut mae dŵr yn teithio o’r ffynhonnell i’n cartrefi, yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd os nad ydym yn gofalu am y cyflenwad.
Roedd y sesiwn yn addysgiadol ac yn ysbrydoledig, gan gefnogi eu dysgu o fewn y thema ac yn annog agwedd gyfrifol tuag at ddefnydd dŵr yn y dyfodol.
Cafodd plant Graig Fach gyfnod arbennig iawn yn dathlu eu doniau a’u Cymreictod yn ystod Eisteddfod Graig Fach eleni. Bu brwdfrydedd mawr wrth i bawb chwarae eu rhan a mwynhau’r profiad.
Rhoddwyd y cyfle i'r disgyblion gystadlu mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, gan sicrhau bod cyfle i bob plentyn gymryd rhan a disgleirio yn eu ffordd eu hunain.
Diolch o galon i’r staff am eu gwaith caled yn hyfforddi, paratoi ac annog y disgyblion, ac i’r rhieni am eu cefnogaeth barhaus wrth annog y plant i gwblhau tasgau adref. Heb y cydweithio hwn, ni fyddai’r Eisteddfod mor llwyddiannus.
Roedd yn wir yn ddathliad bendigedig o’n hiaith, ein diwylliant a dawn ein disgyblion.
Yn dilyn cyfres o sesiynau hyfforddi llwyddiannus o dan arweiniad Mr Dyfrig Jones, cafodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 gyfle i gymryd rhan mewn gemau criced cyfeillgar. Roedd y profiad yn gyfle gwych i’r plant roi eu sgiliau newydd ar waith mewn amgylchiadau cystadleuol ond hwyliog.
Dangosodd y disgyblion ysbryd tîm rhagorol, ymrwymiad a brwdfrydedd, ac roedd yn amlwg bod y sesiynau hyfforddi wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hyder a’u gallu. Roedd yn bleser gweld pawb yn mwynhau ac yn cefnogi ei gilydd drwy gydol y gemau.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 sesiynau gwerthfawr iawn yn ddiweddar gyda PC Tamzin, yn canolbwyntio ar ddiogelwch o ran alcohol a chyffuriau.
Trwy drafodaethau a gweithgareddau addas, cafodd y disgyblion well dealltwriaeth o’r risgiau sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau, ynghyd â’r pwysigrwydd o wneud dewisiadau diogel a chyfrifol.
Roedd y sesiynau yn addysgiadol ac yn hynod bwysig wrth gefnogi lles a diogelwch y plant wrth iddynt barhau i dyfu a datblygu.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Mae hi’n_____ heddiw. (Tywydd - heulog, cynnes, gwyntog, glawiog, gwlyb)
Her
Fe fydd hi’n …yfory
Roedd hi’n …ddoe
Testun trafod:
Beth am rannu jôc doniol?
Cân Gymraeg Angel Hotel - Superted
Idiom Gymraeg: Does dim dwywaith amdani
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
15/05/26
15/05/26
22/05/26
22/05/26
22/05/26 – Ysgol yn cau ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn
28/05/26 – Y Côr, y Cyflwyniad Theatrig a Gruffudd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Môn
01/06/26 – Yr ysgol yn ail agor
04/06/26 – Trip Uned Graig Fawr i Sŵ Caer
11/06/26 – Mabolgampau Blynyddoedd 3 a 4 – 1:30pm
12/06/26 – Mabolgampau Blynyddoedd 3 a 4 (os bydd hi’n bwrw glaw ar 11/06) – 1:30pm
15/06/26 – Mabolgampau Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 – 1:30pm
16/06/26 – Mabolgampau Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 - (os bydd hi’n bwrw glaw ar 15/06) - 1:30pm
17/06/26 – Mabolgampau Pabo - 10am a 2pm
18/06/26 - Mabolgampau Blynyddoedd 5 a 6 - 1:30pm
19/06/26 - Mabolgampau Blynyddoedd 5 a 6 (os y bydd hi'n bwrw glaw ar 18/06) - 1:30pm
22/06/26 – Mabolgampau Pabo (os y bydd hi'n bwrw glaw ar 17/06) - 10am a 2pm
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
i blant Meithrin i Flwyddyn 2