Hyfryd oedd gweld ymdrech arbennig gan y plant (a'r staff) wrth i ni ddathlu diwrnod y llyfr unwaith eto eleni.
Diolch yn fawr iawn i chi fel rhieni am eich cefnogaeth yn sicrhau gwisgoedd arbennig i'r plant.
Agor y Llyfr.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Y stori y mis hwn oedd 'y Canwriad trist' gyda disgyblion o ddosbarthiadau Maethlu a Pedr yn darllen ac actio.
Diolch yn fawr am ddod atom unwaith eto.
Eisteddfod Cylch Cefni
Cynhaliwyd Eisteddfod Cylch Cefni ddydd Sadwrn, Chwefror 28 yn Ysgol Gyfun Llangefni gyda chystadlu brwd o'r ysgol o ganu i lefaru, o ddawnsio i actio, roedd hi mor braf gweld glas y Graig ar y llwyfan.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i'r canlynol fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Sir yr Urdd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, Mawrth 21.
Gwenno ac Ani, dawnsio unigol, Llywarch, llefaru Blwyddyn 3 a 4, Gruffudd, Alaw Werin ac unawd Piano a'r Côr.
Diolch o galon i chi y rhieni am eich cefnogaeth barhaus drwy gydol y dydd – mae eich anogaeth yn golygu cymaint i ni.
A diolch arbennig i holl blant y Graig am fod mor wych drwy’r dydd; roeddech yn glod i’ch ysgol. 👏
Gwersi beics
Mae dosbarthiadau Blwyddyn 5 a 6 yn parhau i dderbyn gwersi beics gyda Ceri Williams.
Mae'n gyfle i'r disgyblion ail-atgoffa eu hunain o'r rheolau a'r sgiliau wrth feicio a chadw yn ddiogel ar y ffordd fawr.
Cinio Gŵyl Dewi
Diolch yn fawr iawn i staff y gegin am baratoi cinio bendigedig i'r plant yn ystod ein wythnos 'Cymru Cŵl'. Roedd pawb wedi mwynhau.
Cystadleuaethau Pêl-droed
Bu bechgyn a genethod Blwyddyn 5 a 6 yn brysur yn cystadlu mewn gwahanol gystadlaethau pêl-droed. Diolch i Mr Gwilym am hyfforddi ac i Mrs McGilvary am ddreifio'r bws mini a chefnogi'r timau.
Cyngor Eco
Bu'r Cyngor Eco yn brysur yn gwirfoddoli yn codi ysbwriel yn y dref. Braf gweld ein to ifanc yn ystyried llygredd ysbwriel. Diolch i Mrs Redvers Jones a Mr Williams am gefnogi'r criw.
Cyngor Ysgol Dalgylch Llangefni
Yn dilyn gorymdaith yn y dref, a chyfle i ddathlu diwrnod ein Nawddsant, aeth aelodau Cyngor Ysgol Dalgylch Llangefni gyda Mr Pritchard a Mrs Land, Ysgol Corn Hir i feirniadu ymdrech arbennig y busnesau yn addurno'r ffenestri.
Cyflwynwyd tystysgrif o 'ddiolch' i bob busnes. Yn unfrydol, teimlai'r disgyblion mai ffenestr siop Cain oedd yn derbyn y wobr gyntaf am addurno.
Diolch i Josh ac Isla am gynrychioli'r Graig.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Ble es ti ddoe / dros y penwythnos?
Es i…
Her
Beth yw dy wyliau delfrydol?
Yn ddelfrydol, byddwn i’n hoffi….
Testun trafod:
Dywedwch stori am ennill rhywbeth.
Cân Gymraeg Gwilym a Hana Lili- Cyn bo hir
Idiom Gymraeg: Siarad trwy ei het
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
06/03/26
06/03/26
13/03/26
13/03/26
16/03/26 - Noson rieni Graig Fach 3:15pm - 6pm
17/03/26 - Noson rieni Graig Fawr 3:15pm - 6pm
18/03/26 - Gwers nofio 9 Bl. 3 a 4
20/03/26 - Diwrnod olaf i ddod a chyfraniadau siocled ar gyfer Raffl Siocled y Pasg.
21/03/26 - Eisteddfod Sir yr Urdd, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
23/03/26 - TEMPEST - tynnu lluniau teuluoedd o 8am ymlaen
24/03/26 - TEMPEST - tynnu lluniau unigolion o 9am ymlaen
25/03/26 - Gwers nofio 10 Bl. 3 a 4
27/03/26 - Ysgol yn cau am wyliau'r Pasg
Gwyliau Pasg - 30/03/26 - 12/04/26
Sesiynau Pipyn, Ystafell Gymunedol Graig Fawr
yn cychwyn Mawrth 3ydd am 2pm. Plant yn ymuno â'r rhieni am 3pm.
Caban Llangefni 9.30am - 11.30am
27 Ionawr, 2026 am 6 wythnos 10.00am - 11.00am
i blant Meithrin i Flwyddyn 2