Llongyfarchiadau mawr i griw dosbarth y Nyth gyda Mrs Moore. Daeth y disgyblion yn gyntaf drwy Gymru gyfan gyda'u gwaith Celf! Cyflwynwyd medal Aur iddynt yn yr Eisteddfod ar y dydd Sadwrn cyntaf.
Roeddem yn hynod falch o berfformiadau ein disgyblion fu'n cystadlu yn y Cyflwyniad Theatrig a’r Côr. Diolch o galon i Mrs Catrin Jones Hughes am hyfforddi’r cyflwyniad Theatrig, ac i Mrs Grês Pritchard am hyfforddi'r côr. Hyfryd oedd gweld Gruffudd Siôn yn cystadlu ar yr Alaw Werin a’r unawd Piano.
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl amser, ymroddiad ac egni sydd wedi sicrhau bod cymaint o’n disgyblion wedi cael y cyfle i gystadlu.
Diolch yn fawr i Mr Pritchard am ei gefnogaeth barhaus, ac i’r rhieni am eu cefnogaeth ar hyd y daith eisteddfodol. Mae’r profiadau hyn yn rhai gwerthfawr a chofiadwy iawn i’r plant.
Diolch i Mrs Manon Jones am drefnu bod criw o blant yr ysgol yn cymryd rhan yn y gyfres Stwnsh Sadwrn a ffilmwyd yn Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn. Profiad hwyliog iawn iddynt!
Bu Uned Graig Fawr yn mwynhau diwrnod hyfryd yn Sŵ Caer. Roedd y tywydd yn berffaith a nifer fawr o’r anifeiliaid allan i’w gweld, gan wneud y profiad yn un arbennig iawn i bawb. Cafodd y disgyblion ddiwrnod llawn hwyl, dysgu a phrofiadau newydd. Diolch yn fawr i bawb fu’n trefnu’r ymweliad ac i’r staff am sicrhau diwrnod llwyddiannus a chofiadwy.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Cawsom wrando ar stori'r Pentecost gyda chymorth gan blant o ddosbarthiadau Cwyfan a Pedr a dosbarth Edwen.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Beth sydd i ginio heddiw?
I ginio heddiw mae yna…
Her
I ginio fory mae yna…
Testun trafod:
Amser rhydd yn yr awyr agored neu yn y tŷ?
Cân Gymraeg Ti neud fi symud - Band Pres Llareggub & Aleighcia Scott
Idiom Gymraeg: Â’i ben yn ei blu
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
05/06/26
05/06/26
12/06/26
12/06/26
15/06/26 – Mabolgampau Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 – 1:30pm
16/06/26 – Mabolgampau Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 - (os bydd hi’n bwrw glaw ar 15/06) - 1:30pm
17/06/26 – Mabolgampau Pabo - 10am a 2pm
18/06/26 - Mabolgampau Blynyddoedd 5 a 6 - 1:30pm
19/06/26 - Mabolgampau Blynyddoedd 5 a 6 (os y bydd hi'n bwrw glaw ar 18/06) - 1:30pm
22/06/26 – Mabolgampau Pabo (os y bydd hi'n bwrw glaw ar 17/06) - 10am a 2pm
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.