Croeso nol i bawb, gobeithio i chi fwynhau'r haf!
Mae’n bleser gennym estyn croeso cynnes i’n Pennaeth newydd, Mr Dewi Hood. Edrychwn ymlaen, fel cymuned ysgol gyfan o ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni, at bennod newydd yn natblygiad yr ysgol o dan ei arweiniad medrus a’i ymrwymiad i sicrhau’r gorau i blant y Graig.
Croeso i'r plant meithrin a’r disgyblion newydd sydd yn dechrau yn yr ysgol eleni. Mae calendr digwyddiadau wedi cael ei rannu gyda chi. Os nad ydych wedi derbyn un, gellir cael un yn nerbynfeydd y ddwy uned. Cofiwch i ddarllen rhan ‘dyddiadur’ yn y cylchlythyr am unrhyw ddyddiad ar gyfer digwyddiadau eraill y byddwn y neu cynnal.
Os fydd eich plentyn yn sâl ac yn methu mynychu’r ysgol gofynnwn yn garedig i chi ein hysbysu yn y bore drwy anfon neges Seesaw i Angela Bennett neu Dawn Owen. Mae modd i ffonio a gadael neges ar y peiriant ateb. Os ydych yn cael anhawster cael mynediad i Seesaw, cysylltwch gyda’r ysgol. Os na fyddwn yn clywed gennych, yn unol â pholisi’r ysgol, byddwn yn eich ffonio cyn diwedd y dydd.
Bob pythefnos byddwn yn rhannu y Cylchlythyr atoch drwy Seesaw. Yn y cylchlythyr rydym yn dathlu llwyddiannau ac yn sôn am faterion/ digwyddiadau ysgol gyfan.
Edrychwn ymlaen at flwyddyn gyffrous arall yn ysgol Y Graig.
Mae Blwyddyn 5 a 6 wedi cychwyn ar eu gwersi nofio yn rhan o'u gwersi Addysg Gorfforol ym Mhlas Arthur. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth ddatblygu eu sgiliau nofio a’u hyder yn y dŵr.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Ga i…os gwelwch yn dda?
(lyfr, pensil, ddiod, fynd i'r toiled)
Her
Oes modd i mi gael…os gwelwch yn dda?
A fyddai’n bosib…?
Testun trafod:
Pe bai gen i dri dymuniad…
Cân Gymraeg Catalunta-Gwilym
Idiom Gymraeg: Heb siw na miw
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
04/09/26
04/09/26
11/09/26
11/09/26
15/09/26 - Diwrnod Shwmae, Su’mae (hyrwyddo cychwyn sgwrs yn y Gymraeg)
16/09/26 - Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr (gwisgo coch neu felyn)
06/10/26 - Noson rieni 3:25pm - 6pm
13/10/26 - Noson agored Ysgol Gyfun Llangefni
16/10/26 - Gwisgo Coch yn erbyn hiliaeth