Fel rhan o ddigwyddiadau Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau, cafodd yr ysgol wahoddiad i ymweld â Hafan Cefni. O ganlyniad, aeth disgyblion Blwyddyn 2, sydd eisoes wedi ymweld o’r blaen, yno i dreulio’r bore yn canu, sgwrsio ac ymgysylltu â’r trigolion, gan fwynhau’r profiad yn fawr iawn.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i drigolion Hafan Cefni am eu croeso cynnes unwaith eto i blant Y Graig. Hoffem hefyd ddiolch i Anti Brenda, y Rheolwraig, am ddarparu diod a bisgedi bendigedig, ac i Aaron Morris o Fenter Môn am gydlynu’r digwyddiad.
Edrychwn ymlaen yn fawr at ddychwelyd eto yn fuan iawn!
Cynhaliodd yr ysgol amrywiaeth o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o gadw’n iach a hyrwyddo lles corfforol a meddyliol y disgyblion. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys sesiynau ymarfer corff hwyliog, trafodaethau dosbarth am fwyta’n iach, a chyfleoedd i’r plant drafod pwysigrwydd cadw’n actif a gofalu am eu hiechyd meddwl.
Bu’r wythnos yn brofiad cadarnhaol iawn i’r disgyblion, gan eu hannog i feddwl am y dewisiadau iach y gallant eu gwneud bob dydd, gartref ac yn yr ysgol. Diolch i Miss Millican am drefnu.
Treuliodd disgyblion Blwyddyn 4 ddeuddydd cofiadwy yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, lle cawsant brofiadau bendigedig llawn hwyl ac antur. Yn ystod y daith, mwynhaodd y plant amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys dringo’r wal ddringo, cwrs rhaffau, canŵio ar y llyn, saethyddiaeth, adeiladu tân a gwelltgrefft, yn ogystal â disgo hwyliog gyda’r nos.
Wrth gwrs, cafodd pawb hefyd gyfle i fwynhau’r bwyd blasus yng Nglan‑llyn, a gyfrannodd yn fawr at y profiad cadarnhaol i gyd. Roedd y daith yn gyfle gwych i’r disgyblion ddatblygu hyder, sgiliau gweithio fel tîm ac annibyniaeth, gan greu atgofion a fydd yn para am amser hir.
Bu’r plant yn ymdwyn yn arbennig drwy gydol y daith ac yn glod mawr i’r ysgol, gan dderbyn canmoliaeth am eu hymddygiad, eu parch at eraill a’u hagwedd gadarnhaol.
Hoffem estyn diolch o galon i Miss Jones, Miss Griffiths, Miss Hussey a Mr Pritchard am roi o’u hamser ac am eu cefnogaeth barhaus i sicrhau bod y plant wedi mwynhau profiad bythgofiadwy.
Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion a’r grwpiau canlynol am eu llwyddiant mewn cystadlaethau creadigol yn ddiweddar yn y rownd lleol.
Casi – 1af am greu pyped
Casi - 1af am waith Serameg.
Casi – 1af a Mali – 3ydd yn y categori Gwaith 3D ar gyfer Blwyddyn 3 a 4
Criw y Nyth, o dan arweiniad Mrs Moore – 1af yn y categori Gwaith 3D (Blwyddyn 6 ac iau, ADY)
🥇Llongyfarchiadau gwresog i Griw y Nyth sydd wedi derbyn y wobr gyntaf yn genedlaethol. Rydym yn hynod falch ohonynt. 👏
Blwyddyn 2 sy'n derbyn gwersi nofio erbyn hyn, ac yn mwynhau yn arw! Gofynnwn yn garedig i bawb dalu am y bws drwy Schoolgateway.
Mae athrawon o Ysgol Gyfun Llangefni wedi bod yn cydweithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 fel rhan o’r gweithgareddau pontio. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y cyfnod nesaf er mwyn paratoi’r disgyblion ar gyfer mis Medi.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Beth wyt ti’n gallu gwneud?
Dwi’n gallu… Dydw i ddim yn gallu…
Her
Rydw i’n mwynhau…oherwydd
Hoffwn i wella…
Testun trafod:
Beth petai dim tymhorau yng Nghymru?
Cân Gymraeg Dom a Lloyd- Calon y Ddraig
Idiom Gymraeg: Deuparth gwaith yw ei ddechrau
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
01/05/26
01/05/26
08/05/26
08/05/26
11/05/26 - Dosbarth Eilian yn Moelfre
12/05/26 - Dosbarth Mechell yn Moelfre
13/05/26 - Dosbarth Maelog yn Moelfre
19/05/26 - Eisteddfod Graig Fach
22/05/26 - Ysgol yn cau am wyliau Sulgwyn
28/05/26 - Côr, Cyflwyniad Theatrig a Gruffudd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn yn Mona.
01/06/26 - Ysgol yn ail-agor
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
i blant Meithrin i Flwyddyn 2