Eisteddfod Theatr a'r Eisteddfod Sir
Cynhaliwyd Eisteddfod Theatr nos Fawrth, Mawrth 17 yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Llongyfarchiadau gwresog i'r criw oedd yn y 'Cyflwyniad Theatrig'. Cafwyd beirniadaeth hynod ganmoladwy.
Dydd Sadwrn, Mawrth 21, eto yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, fe gynhaliwyd Eisteddfod Sir yr Urdd.
Llongyfarchiadau i'r Côr, Gruffudd yn cystadlu a derbyn yr ail wobr yn y gystadleuaeth Unawd Alaw Werin, a Llywarch yn derbyn y drydedd wobr yn y gystadleuaeth Llefaru Blwyddyn 3 a 4.
Bydd criw y Cyflwyniad Theatrig, y Côr a Gruffudd sy'n cystadlu ar yr Unawd Alaw Werin a'r unawd Piano yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yn Mona, mis Mai gan gynrychioli Ysgol y Graig.
Dymuniadau gorau i bob un, a diolch i'r unigolion fu'n brysur yn hyfforddi a chefnogi'r disgyblion.
Diolch o galon i chi y rhieni am eich cefnogaeth barhaus – mae eich anogaeth yn golygu cymaint i ni.
A diolch arbennig i holl blant y Graig am fod mor wych; rydych yn glod i’r Graig.
Llyfrgell Llangefni
Cafodd Blwyddyn 2 ymweliad bendigedig â’r Llyfrgell ar y 3ydd o Fawrth. Treuliwyd amser hyfryd yn gwrando ar straeon, canu, a dysgu am sut mae’r Llyfrgell yn gweithio. Cafodd y plant hwyl garw a chymryd rhan mewn helfa drysor gyffrous. Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr iawn!
Diolch i Eirian a staff y Llyfrgell am y croeso cynnes.
Mae Miss Nicola Jones a Mr Jonathan Jones ynghyd a chriw Eco yr ysgol wedi bod yn hynod brysur yn cynorthywo i gynllunio a datblygu'r ardd. Erbyn hyn mae pwll wedi greu ar gyfer creaduriaid i fyw ynddo. Adeiladwyd sied newydd, a mae choed a phlanhigion wedi eu plannu.
Creu pwll i greaduriaid fyw ynddo.
Creu pwll i greaduriaid fyw ynddo.
Coed wedi eu plannu
Coed wedi eu plannu
Derbyniodd ddosbarth Eilian weithdy Gwyddonol gan gwmni 'Sbarduno'.
Bu'r disgyblion yn creu lamp Lafa bob un!
Yna, cawsant ddysgu cân gyda Rich o Menter Môn am liwiau'r enfys.
Diolch o galon i Awen o Sbarduno a Rich am fore rhyfeddol liwgar a cherddorol!
Agor y Llyfr.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. A ninnau ar drothwy'r Pasg, amserol iawn oedd i ni gael y stori gyda disgyblion o ddosbarthiadau Eilian a Pedr yn darllen ac actio.
Diolch yn fawr am ddod atom unwaith eto.
Byd Pêl-droed.
Bu tîm bechgyn Blwyddyn 4 yn chwarae gêm bêl-droed gyfeillgar yn erbyn tîm Blwyddyn 4 Ysgol Gymraeg Morswyn. Diolch i Mr Gwilym a Mr Jones am gefnogi'r tîm.
Bu tîm o fechgyn a genethod yn cystadlu yng nghystadleuaeth 'Primary 5's' ym Mhlas Arthur, ddydd Mercher, Mawrth 25. Diolch i Mr. Gwilym a Mrs McGilvary am gefnogi'r timau.
Ogi, Ogi, Ogi - Byd Rygbi
Bu criw o enethod Blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu yn nghystadleuaeth Rygbi Tag yr Urdd. Llongyfarchiadau i'r tîm am ddod yn ail mewn cystadleuaeth arbennig.
Diolch i Mr Jones am eu hyfforddi ac i Mrs McGilvary am ddreifio'r bws mini.
Criced
Mae dosbarthiadau Blwyddyn 5 a 6 yn derbyn gwersi Criced ar hyn o bryd, ac yn mwynhau dysgu sut i chwarae'r gêm.
Diolch i Mr Dyfrig Jones, Swyddog Cyfranogiad Criced, Criced Cymru am hyfforddi'r disgyblion.
Ar derfyn yr hyfforddiant, bydd y disgyblion yn cael gêm griced.
Fel diweddglo i'r thema 'Dathliadau' bu dosbarthiadau Blwyddyn 2 (Pedr a Cwyfan) yn brysur yn paratoi tuag at briodas ffug Meredydd ac Erin. Roedd pawb yn ddigon o sioe a wedi edrych ymlaen yn arw at y diwrnod mawr!
Cynhaliwyd y briodas yn Eglwys Cyngar Sant, a'r brecwast priodas yn neuadd Graig Fach. Diolch i'r plant am gynorthwyo i baratoi'r wledd.
Diolch o galon i'r Parchedig Selwyn Griffith am ei amser, ac i DJ Endaf o Ganolfan Addysg y Bont am ddod fel DJ i bawb cael disgo i ddathlu.
Diolch yn fawr i holl staff Blwyddyn 2 am drefnu'r digwyddiad.
Bu i ni ddathlu Dydd Trwyn Coch a Dydd Syndrom Downs ddydd Gwener, Mawrth 20.
I nodi’r diwrnodau arbennig hyn, roedd croeso i'r plant:
Wisgo trwyn coch (os oes ganddynt un), Gwisgo sanau od i ddathlu ein bod ni gyd yn wahanol a gwisgo dillad lliwgar.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Pryd mae pen-blwydd......? (enw)
Mae pen-blwydd (enw) yn mis.....
Her
Pryd gafodd o ei eni? / Pryd gafodd hi ei geni?
Fe gafodd o ei eni ym (blwyddyn) / Cafodd hi ei geni ym (blwyddyn)
Testun trafod:
Byddwn yn hoffi adeiladu....
Cân Gymraeg Croeso i Gymru - Tara Bandito
Idiom Gymraeg: Taro'r hoelen ar ei phen
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
20/03/26
20/03/26
27/03/26
27/03/26
Gwyliau Pasg - 30/03/26 - 12/04/26
13/04/26 - Ysgol yn ail-agor
15/04, 16/04, 17/04 - Trip Blwyddyn 6 i Lerpwl
23/04/26 - Blwyddyn 5 a rhai o Flwyddyn 6, Pentre Peryglon, Talacre
04/05/26 - Calan Mai - dim ysgol
05/05/26 - Ysgol yn ail-agor
07/05 + 08/05 - Blwyddyn 4 - trip Glan-llyn
22/05/26 - Ysgol yn cau am wyliau Sulgwyn
28/05/26 - Côr, Cyflwyniad Theatrig a Gruffudd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn yn Mona.
01/06/26 - Ysgol yn ail-agor
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
i blant Meithrin i Flwyddyn 2