Cynhaliwyd Mabolgampau y Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2.
Roedd yn hyfryd gweld pawb yn barod i gystadlu a hynny yn gefnogol ac annogol o'u gilydd. Diolch i bawb fu'n trefnu.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 fore buddiol a hynod ddiddorol wrth ymweld â Siambr y Cyngor Sir. Cawsom groeso cynnes gan Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor a'i gyd-aelodau, a roddodd amser i rannu gwybodaeth werthfawr am eu gwaith.
Yn dilyn y croeso, cafwyd cyflwyniad i bwrpas a swyddogaeth y siambr, gan helpu'r disgyblion i ddeall sut y caiff penderfyniadau pwysig eu gwneud er budd y gymuned. Wedyn, cafwyd cyfle i'r plant ofyn cwestiynau aeddfed a threfnus iawn, gan ddangos eu chwilfrydedd a'u dealltwriaeth gynyddol o faterion lleol.
Roedd yn brofiad arbennig iawn i'n disgyblion ac yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddemocratiaeth a gwaith y cyngor mewn ffordd ymarferol a diddorol. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor a'r aelodau am eu croeso cynnes a'u hamser.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 3 a 4 brofiad arbennig yn wrth gymryd rhan mewn sesiynau cerddoriaeth PBuzz. Bu'r plant yn dysgu sut i chwythu'r offeryn yn gywir a sut i greu amrywiaeth o seiniau a thonau.
Roedd y sesiynau yn hynod o ddifyr ac addysgiadol, a mwynhaodd y disgyblion bob munud o'r profiad. Roedd yn hyfryd gweld eu brwdfrydedd wrth ddatblygu sgiliau cerddorol newydd a magu hyder wrth berfformio.
Diolch yn fawr iawn i Mrs Kate Gwilliam am gynnal y sesiynau gwerthfawr hyn. Roedd y profiad yn un i'w gofio, ac mae'r disgyblion wedi mwynhau'n arw.
Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy cerddoriaeth cyffrous gan ddefnyddio Garage Band dan ofal Mr Bari Gwilliam. Yn ystod y sesiwn, dysgodd y plant sut i ddefnyddio'r dechnoleg i greu a recordio eu cerddoriaeth eu hunain, gan arbrofi gyda gwahanol offerynnau a synau.
Roedd y gweithdy yn brofiad gwerthfawr a chreadigol a roddodd gyfle i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau cerddorol a digidol mewn ffordd hwyliog ac ymarferol. Mwynhaodd pawb y sesiwn yn fawr iawn, a hoffem ddiolch yn ddiffuant i Mr Bari Gwilliam am rannu ei arbenigedd a'i frwdfrydedd gyda'r disgyblion.
Roedd yn bleser mawr croesawu ein darpar rieni a'r plant fydd yn ymuno â Dosbarth Meithrin Pabo ym mis Medi. Cafwyd cyfle gwych i gyfarfod â'i gilydd a dysgu mwy am fywyd yn yr ysgol.
Yn dilyn gair cynnes o groeso gan Mrs Meinir Roberts, y Pennaeth, cyflwynodd Mrs Sarah Roberts, athrawes y dosbarth, fwrlwm a chyffro Dosbarth Pabo i'r rhieni. Rhannodd wybodaeth am y profiadau cyfoethog a diddorol y bydd y plant yn eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â'r cyfleoedd niferus i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a'u hannibyniaeth.
Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu'r plant i ddechrau ar y bennod gyffrous hon o'u taith addysgol ym mis Medi. Croeso cynnes i chi gyd!
Treuliodd disgyblion Blwyddyn 6 ddeuddydd llawn hwyl a phrofiadau newydd yn Ysgol Gyfun Llangefni, gan gael blas ar yr hyn sydd i'w ddod wrth ddechrau'r ysgol uwchradd ym mis Medi.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, cwrdd ag aelodau o staff a dod yn fwy cyfarwydd â'r ysgol a'i chyfleusterau. Roedd y profiad yn help mawr i feithrin hyder a chyffro wrth baratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu taith addysgol.
Mwynhaodd pawb yn fawr iawn ac mae'r disgyblion yn edrych ymlaen at ddychwelyd ym mis Medi i ddechrau'r bennod newydd gyffrous hon.
Cafodd y disgyblion gyfle i dreulio bore yn eu dosbarthiadau newydd er mwyn cyfarfod â'u hathrawon a chael blas ar y flwyddyn sydd o'u blaenau. Mwynhaodd pawb yn fawr.
Cyfarfu aelodau cynghorau ysgol yr ysgolion cynradd lleol yn Ysgol Corn Hir, dan arweiniad Mrs Land, i drafod a gwerthuso gweithgareddau'r flwyddyn. Roedd yn gyfle gwerthfawr i'r disgyblion rannu syniadau, myfyrio ar eu llwyddiannau a chydweithio gyda disgyblion o ysgolion eraill.
Roedd yn braf croesawu'r Fan Lyfrgell i'r ysgol. Cafodd y disgyblion i gyd y cyfle i fynd i ddewis llyfrau newydd i'w mwynhau yn ystod cyfnodau darllen yn yr ysgol. Roedd amrywiaeth eang o lyfrau i'w dewis o ddiddordeb iddynt.
Cafodd criw o ddisgyblion Blwyddyn 6 gyfle gwych i gymryd rhan yn rhaglen Swim Safe ym Mae Trearddur. Yn ystod y sesiwn, dysgodd y plant sgiliau pwysig i'w helpu i gadw'n ddiogel mewn amgylcheddau dŵr agored, gan fagu hyder a gwybodaeth werthfawr.
Diolch yn fawr i Mrs Manon Jones am drefnu'r profiad, ac i Mrs McGilvary am ei chefnogaeth drwy'r dydd.
Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Trawsgwlad Ynys Môn yn Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd y disgyblion yn glod i'r ysgol, gan ddangos ymroddiad, dyfalbarhad ac ysbryd chwarae teg drwy gydol y rasys. Rydym yn falch iawn o'u hymdrechion. Da iawn bawb!
Hoffem estyn ein diolch diffuant i Miss Yvonne Jones, sydd wedi bod yn athrawes lanw yn yr ysgol ers bron i dair blynedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu'n gyfrifol am Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yr ysgol, gan weithio'n hynod o galed i gefnogi ein disgyblion, ein teuluoedd a'r staff.
Mae ei hymroddiad, ei gofal a'i phroffesiynoldeb wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i fywyd yr ysgol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am ei gwaith diflino dros y cyfnod.
Mae'n bleser mawr gennym groesawu Mrs Rhian Griffiths yn ôl i'r ysgol yn dilyn ei chyfnod mamolaeth. Bydd Mrs Griffiths yn dychwelyd i'w rôl fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant, gan chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cymorth a chefnogaeth i'n disgyblion, ein teuluoedd a'n staff.
Edrychwn ymlaen at gael budd o'i harbenigedd, ei hymroddiad a'i phrofiad wrth iddi ailafael yn ei dyletswyddau, a dymunwn groeso cynnes iawn iddi.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Ga i fynd i’r parc?
Cei/Na chei
Her
Gawn ni fynd i’r parc?
Cewch/Na chewch
Testun trafod:
Dyfeisiwch flâs hufen-iâ newydd
Cân Gymraeg Haf i ti - Dadleoli
Idiom Gymraeg: Gwell hwyr na hwyrach
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
19/06/26
19/06/26
26/06/26
26/06/26
30/06/26 – Trip Uned Graig Fach i Manorafon
01/07/26 - 03/07/26 - Blwyddyn 5 yn Llangrannog
01/07/26 - Mabolgampau Blwyddyn 3 a 4 1:30pm
06/07/26 - Cystadleuaeth Pêl droed 7 bob ochr
06/07/26 - Adroddiadau diwedd y flwyddyn yn cael eu rhannu (copi papur)
07/07/26 - Mabolgampau Blwyddyn 5 a 6
07/07/26 - Prynhawn agored 3:15pm - 6pm - cyfle i ddod i weld gwaith eich plentyn
10/07/26 - Eisteddfod Uned Graig Fawr
14/07/26 - Jambori Ben Dant a Catrin Angharad - Uned Graig Fach
15/07/26 - Seremoni ffarwelio Blwyddyn 2 a 6
16/07/26 - Cyngerdd Offerynnol 9:15am - Uned Graig Fawr
17/07/26 - yr ysgol yn cau am wyliau'r Haf
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.