Diolch o galon i bawb am eich cefnogaeth, eich caredigrwydd a’ch ymdrechion arbennig; yn ddisgyblion, rhieni a staff. Rydym wedi llwyddo i gyrraedd ein targed ariannol tuag at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Mae’r ymateb wedi bod yn ysbrydoledig ac yn dyst i gryfder ein cymuned ysgol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.
Blwyddyn 2 sy'n derbyn gwersi nofio erbyn hyn, ac yn mwynhau yn arw! Gofynnwn yn garedig i bawb dalu am y bws drwy Schoolgateway.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 daith tridiau arbennig i Lerpwl, yn llawn hwyl a phrofiadau cofiadwy. Dechreuodd y daith gyda mordaith ar Afon Merswy ac ymweliad ag Amgueddfa Lerpwl, cyn mwynhau Quirky Quarters a’r rithiau optegol difyr. Yn y nos, cafwyd swper blasus ac ymweliad â’r sinema i wylio Super Mario. Roedd yr ail ddiwrnod yr un mor brysur gydag ymweliadau â The Beatles Story, taith fws addysgol o gwmpas y ddinas, Amgueddfa’r Byd, a sesiwn fowlio llawn cystadleuaeth yn Lane 7. Gorffennwyd y daith gyda thaith hynod ddiddorol o Stadiwm Anfield. Hoffem ddiolch yn fawr i Mrs Manon Jones a’r staff am drefnu a chefnogi’r daith, ac yn arbennig iawn i’r plant am eu hymddygiad rhagorol drwy gydol yr ymweliad.
Mae athrawon o Ysgol Gyfun Llangefni wedi bod yn cydweithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 fel rhan o’r gweithgareddau pontio. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y cyfnod nesaf er mwyn paratoi’r disgyblion ar gyfer mis Medi.
Bu tîm bechgyn Blwyddyn 3 a 4 yn cystadlu yng nghystadleuaeth pêl-droed ym Mhlas Arthur. Diolch i Mr Jones a Miss Bennett am gefnogi'r tîm.
Bu'r tîm genethod yn chwarae gêm bêl-droed gyfeillgar yn erbyn tîm Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Gymraeg Morswyn. Diolch i Mr Gwilym a Mrs McGilvary am gefnogi'r tîm.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Cawsom wrando ar stori Sacheus gyda chymorth gan blant o ddosbarth Cybi a dosbarth Edwen.
Bu PC Tamzin yn ymweld â disgyblion Graig Fach yn ddiweddar i drafod a thynnu sylw at “bobl sy’n gallu ein helpu ni”. Roedd y cyflwyniad yn un gwerthfawr ac addysgiadol, ac mwynhaodd y disgyblion y sesiwn yn fawr iawn.
Teithiodd disgyblion Blwyddyn 5 i Talacre, Y Fflint i Pentre Peryglon. Profiad unigryw sy’n cynnig cyfle gwerthfawr i ddysgu am ddiogelwch mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Mae’r ganolfan wedi’i dylunio fel set ffilm, lle cafodd y disgyblion deithio drwy amrywiaeth o leoliadau megis y cartref, y traeth, cefn gwlad a’r fferm yn dysgu am wahanol risgiau, sut i gadw’n ddiogel mewn sefyllfaoedd bob dydd, ac yn bwysicaf oll, mwynhau’r profiad wrth ddysgu.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Fy hoff beth i yw.... / Fy nghas beth i yw ....
Mae pen-blwydd (enw) yn mis.....
Her
Mae hwn llawn cystal â ....
Dydy hwn ddim cystal â ....
Testun trafod:
Pe bawn i'n anweledig....
Cân Gymraeg Lliwiau llon - Al Lewis
Idiom Gymraeg: Dŵr dan bont
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
17/04/26
17/04/26
24/04/26
24/04/26
04/05/26 - Calan Mai - dim ysgol
05/05/26 - Ysgol yn ail-agor
07/05 + 08/05 - Blwyddyn 4 - trip Glan-llyn
19/05/26 - Eisteddfod Graig Fach
22/05/26 - Ysgol yn cau am wyliau Sulgwyn
28/05/26 - Côr, Cyflwyniad Theatrig a Gruffudd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn yn Mona.
01/06/26 - Ysgol yn ail-agor
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
Cadarnhau a thalu drwy Schoolgateway.
Gallwch dalu fesul tipyn.
i blant Meithrin i Flwyddyn 2