Ar ran holl staff presennol a chyn-aelodau staff a disgyblion Ysgol y Graig sydd wedi gweithio o dan arweinyddiaeth Mrs Meinir Roberts, hoffem ddiolch yn ddiffuant iddi am ei hymroddiad, ei gweledigaeth a’i chefnogaeth dros y deng mlynedd.
Dymunwn ymddeoliad hir, iach a hapus iawn iddi, yn llawn cyfleoedd i ymlacio, mwynhau amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.
Diolch am bopeth, a phob dymuniad da.
Cynhaliwyd Eisteddfod Graig Fawr ar 10 Gorffennaf, gyda phawb yn cystadlu’n frwd drwy gydol y dydd. Diolch yn fawr i Linda’r Hafod am feirniadu’r cystadlaethau llwyfan ac i Elin Mai Jones o Ysgol Gyfun Llangefni am feirniadu’r gwaith llenyddol.
Llongyfarchiadau gwresog i Gwenno, a ddaeth yn gyntaf gan ennill cadair fach i’w chadw am byth. Mae hyn yn llwyddiant arbennig gan ei bod wedi ennill yr adran lenyddol am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Yn ail oedd Mia Lynne ac yn drydydd Josh. Da iawn i bawb am eu hymdrechion a’u llwyddiannau.
Dathlwyd agoriad swyddogol Uned Graig Fach gan Weinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS. Cafodd groeso cynnes gan blant Blwyddyn 2, a berfformiodd gân arbennig cyn i Mrs Roberts, y Pennaeth, ei chroesawu’n swyddogol. Yna cafodd daith o amgylch yr adeilad gan Erin Beca a Gwion, a fu’n llysgenhadon gwych i’r ysgol. Roedd yn achlysur balch a chofiadwy i’r ysgol gyfan.
Cafodd plant Uned Graig Fach amser gwych yn mwynhau Jambori’r Haf yng nghwmni Ben Dant a Catrin Angharad. Bu’r plant yn canu caneuon haf cyfarwydd, dawnsio, cymryd rhan mewn gemau gwirion a chael cyfle i chwarae offerynnau a dysgu ychydig o arwyddo Makaton.
Roedd yr awyrgylch yn llawn hwyl a sbri, a mwynhaodd y plant ganu i gyfeiliant byw a thraciau cerddorol. Roedd yn brofiad difyr a bywiog iawn, a chafodd pawb yn Uned Graig Fach amser gwych.
Cafwyd seremoni ffarwelio arbennig i ddymuno’r gorau i blant Blwyddyn 2 wrth iddynt baratoi i adael Uned Graig Fach a symud ymlaen i Uned Graig Fawr ym mis Medi. Roedd yn gyfle i ddathlu eu cyflawniadau a’u taith dros y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn gwybod y bydd staff Uned Graig Fach yn colli’r plant yn fawr, ond edrychwn ymlaen at eu gweld yn parhau i ffynnu yn eu cyfnod nesaf yn yr ysgol. Diolch yn fawr i Miss Pari a Miss Williams am eu gwaith wrth baratoi’r seremoni a sicrhau ei bod yn achlysur arbennig a chofiadwy i bawb.
Pob lwc i chi gyd yn Uned Graig Fawr!
Cafwyd seremoni arbennig i ddymuno’n dda i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ddiwedd eu taith yma gyda ni yn Ysgol y Graig. Bu’n gyfle i fyfyrio ar eu hamser yn yr ysgol a dathlu’r llu o lwyddiannau a phrofiadau sydd wedi dod i’w rhan dros y blynyddoedd.
Rydym yn hynod falch o bob un ohonynt ac o’r cynnydd y maent wedi’i wneud yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol gynradd. Diolch yn fawr i staff Adran Blwyddyn 5 a 6 am baratoi’r seremoni a sicrhau achlysur cofiadwy i’r disgyblion a’u teuluoedd.
Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i’r disgyblion wrth iddynt gychwyn ar bennod newydd yn yr ysgol uwchradd. Pob lwc i chi gyd!
Cynhaliwyd ein Cyngerdd Offerynnol yr Haf, gan roi cyfle i'r holl ddisgyblion sy'n derbyn gwersi offerynnol berfformio o flaen eu rhieni oedd wrth eu boddau yn mwynhau'r perfformiadau. Roedd yn braf iawn gweld y cynnydd a'r datblygiad a wnaed gan y plant dros y flwyddyn.
Diolch yn fawr i Mr Ioan Hughes a Mrs Marie Smith am eu hymroddiad a'u gwaith caled wrth gefnogi'r disgyblion drwy gydol y flwyddyn a gwneud y cyngerdd yn gymaint o lwyddiant.
Rydym yn hynod falch o lwyddiant ein prosiect ailgylchu mewn partneriaeth â Chanolfan Ailgylchu Penhesgyn. Hyd yn hyn, rydym wedi achub ac ailddefnyddio 620kg o eitemau a fyddai fel arall wedi mynd i safle tirlenwi. O sgwteri a beiciau i lyfrau, offer garddio a LEGO, mae'r eitemau hyn wedi cael ail fywyd gan ddod â budd a mwynhad i'n disgyblion.
Hoffem ddiolch o galon i holl staff Canolfan Ailgylchu Penhesgyn am eu cefnogaeth barhaus ac am fod mor bleserus i gydweithio â nhw drwy gydol y prosiect. Diolch arbennig i Lee Jones a Bob Parry am eu gwaith caled, eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y prosiect. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr bopeth y maent wedi'i wneud i'n helpu i wneud y fenter hon yn gymaint o lwyddiant.
Bu i'r Cyngor Eco dderbyn gwobr platinwm Ysgolion Eco yr wythnos hon. Diolch i holl aelodau'r Cyngor Eco ac aelodau'r ysgol yn ehangach am gefnogi'r ysgol i dderbyn y llwyddiant yma. Diolch yn ogystal i Esyllt am ddod draw i feirniadu'r gwaith ac am yr achrediad arbennig hwn. Diolch i Mr Jonathan Jones a Miss Nicola Jones am eu gwaith yn paratoi tuag at yr achrediad.
Ar ddiwedd blwyddyn addysgol, carem fel ysgol ddiolch yn fawr iawn i chwi fel rhieni am eich cefnogaeth ar hyd y flwyddyn addysgol.
Gwyliau haf hapus i bawb oddi wrth holl staff Ysgol y Graig.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Fy hoff atgof eleni yw ____________ .
Her
oherwydd ___________________ .
Testun trafod:
Mae Gwyddoniaeth yn bwysicach na Chelf
Cân Gymraeg Edward H Dafis - Breuddwyd Roc a Rôl
Idiom Gymraeg: Gorau po gyntaf
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
10/07/26
10/07/26
17/07/26
17/07/26
01/09/26 - HMS - yr ysgol wedi cau
02/09/26 - yr ysgol yn ail agor
Dyddiadau HMS y flwyddyn - dyma'r dyddiau y bydd yr ysgol wedi cau.
11/11/26
04/05/27
11/06/27