Ar fore Mercher, bu staff a disgyblion yr ysgol yn dangos parch ac urddas wrth gymryd eiliad i gofio'r milwyr a'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac aberthu dros eraill.
Diolch yn fawr i aelodau'r Cyngor Ysgol am drefnu a chynnal amrywiaeth o weithgareddau hwyliog er mwyn codi arian tuag at elusen Plant Mewn Angen. Cafodd y disgyblion lawer o hwyl wrth gymryd rhan, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i godi £970 tuag at yr elusen.
Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 5 am gyflwyno gwasanaeth diddorol yn rhannu hanes a chefndir yr elusen. Diolch i Miss Laura Millican am ei drefnu.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u haelioni, ac yn enwedig i Mrs Manon Jones am ei gwaith caled yn arwain a chefnogi criw'r Cyngor Ysgol. Roedd yn ymdrech tîm arbennig a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i'r achos teilwng hwn.
Cafodd Mr Hood, Ani ac aelodau o'r Cyngor Ysgol brofiad arbennig wrth sgwrsio'n fyw ar raglen Lisa Gwilym. Yn gyntaf, bu Lisa yn sgwrsio gyda Mr Hood. Yna, cafodd Ani ei chyfle hi i gymryd y meicroffon gan sgwrsio am ei diddordebau, yng nghwmni ei ffrindiau, wrth iddynt gyfri lawr at yr eiliad gyffrous o "ganu'r gloch".
Diolch i Mrs Manon Jones am drefnu.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd focs Nadolig ar gyfer plant llai ffodus.
Diolch hefyd i griw y Cyngor Eco am helpu Mr Hood a Mrs Redvers Jones i gludo'r bocsys i fyny i'r Ysgol Gyfun.
Mae'n braf meddwl y bydd pob bocs yn dod â gwên a llawenydd i blentyn dros gyfnod y Nadolig. Diolch o galon i bawb am eich caredigrwydd a'ch haelioni.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Cawsom wrando ar stori Joseff a'i frodyr gyda chymorth gan blant o ddosbarth Pedr a dosbarth Eilian.
Bu criw o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth Athletau Dan Do, a drefnwyd gan Môn Actif ym Mhlas Arthur, Llangefni. Cafwyd prynhawn hynod lwyddiannus, gyda'r ysgol yn cipio'r 3ydd safle! Llongyfarchiadau mawr i bawb am eu hymdrechion a'u brwdfrydedd.
Diolch yn fawr i Mr Jones am gefnogi'r disgyblion ac i Mrs McGilvary am yrru'r bws mini.
Croesawyd PC Tamzin i'r ysgol yn ddiweddar i gynnal gweithdai diddorol ac addysgol gyda disgyblion Blynyddoedd 5 a 6. Cafodd y plant gyfle gwerthfawr i ddysgu am bwysigrwydd cadw'n ddiogel, gwneud dewisiadau doeth, a deall rôl yr heddlu yn y gymuned. Bu'r disgyblion yn gwrando'n astud ac yn cymryd rhan yn frwdfrydig yn y gweithgareddau a'r trafodaethau. Diolchwn iddi am ei hamser a'i chefnogaeth barhaus i'n hysgol.
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â pharcio ym maes parcio staff Uned Graig Fawr er mwyn osgoi'r perygl o daro unrhyw geir neu blant sy'n croesi'r maes parcio. Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth i helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Rydw i’n hoffi…? Dwi’n hoffi ....
Dydw i ddim yn hoffi ....
Her
Mae’n well gen i… na ....
Testun trafod:
Fy hoff le yn y byd yw…
Cân Gymraeg: Papur Wal - Llyn Llawenydd
Idiom / Dihareb Gymraeg: Mynd dros ben llestri
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
06/11/26
06/11/26
13/11/26
13/11/26
17/11/26 - Ffair Nadolig 3:30pm - 6pm - Graig Fawr
02/12/26 - Sioe Nadolig Blwyddyn 1 a 2 - 1:30pm a 6pm - Graig Fawr
08/12/26 - Sioe Nadolig Blwyddyn 3 a 4 -1:30pm a 6pm - Graig Fawr
08/12/26 - Blwyddyn 1 a 2 - sioe Nadolig, Pontio Bangor
09/12/26 - Sioe Nadolig Blwyddyn 5 a 6 - 1:30pm a 6pm - Graig Fawr
10/12/26 - Cinio Nadolig yr ysgol
11/12/26 - Cyngerdd Offerynnol - 9:15am - Graig Fawr
14/12/26 - Sioe Nadolig Meithrin a Derbyn - 1:30pm a 6pm - Graig Fach
16/12/26 - Graig Fawr - Venue Cymru
18/12/26 - diwrnod olaf y tymor
04/01/27 - Yr ysgol yn ail-agor
Bydd disgyblion Uned Graig Fawr yn cael y cyfle i ymweld â Venue Cymru i wylio'r panto poblogaidd Sleeping Beauty.