Bu cyffro mawr yn yr ysgol yr wythnos hon wrth i ddisgyblion Blwyddyn 6 gyflwyno eu hareithiau ar gyfer rolau Capteiniaid ac Is-gapteiniaid y Tai ar gyfer blwyddyn ysgol 2026-2027. Roedd pawb a ymgeisiodd yn dangos hyder, aeddfedrwydd ac ymrwymiad wrth rannu eu syniadau gyda'u cyd-ddisgyblion.
Yn dilyn yr areithiau, cafodd pob aelod o'r tai y cyfle i fwrw eu pleidlais. Roedd yn hyfryd gweld ein disgyblion yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn gwneud eu dewisiadau'n ofalus. Hoffem longyfarch pob ymgeisydd am eu dewrder a'u hymdrechion, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n Capteiniaid ac Is-gapteiniaid newydd wrth iddynt ymgymryd â'u cyfrifoldebau dros y flwyddyn i ddod.
Gruff a Gwenno
Savannah a Jack
Alaw a Ben
Rosie ac Elis
Macey ac Eli
Gruff a Gwennan
Bu criw o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu yng nghystadleuaeth pêl-droed a drefnwyd gan yr Urdd ym Mhlas Arthur, Llangefni. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am eu perfformiad a’u hymddygiad gwych drwy gydol y dydd. Bu'r tîm yn anlwcus iawn o fethu allan ar gyrraedd y rownd derfynol. Llongyfarchiadau i Ysgol Corn Hir, enillwyr y gystadleuaeth. Diolch i Mr Jones a Mr Frazer am hyfforddi ac i Mrs Redvers Jones am ddreifio'r bws mini.
Croesawyd PC Tamzin i'r ysgol yn ddiweddar i gynnal gweithdai diddorol ac addysgol gyda disgyblion Blynyddoedd 3 a 4. Cafodd y plant gyfle gwerthfawr i ddysgu am bwysigrwydd cadw'n ddiogel, gwneud dewisiadau doeth, a deall rôl yr heddlu yn y gymuned. Bu'r disgyblion yn gwrando'n astud ac yn cymryd rhan yn frwdfrydig yn y gweithgareddau a'r trafodaethau. Diolchwn iddi am ei hamser a'i chefnogaeth barhaus i'n hysgol.
Hoffem ddiolch yn fawr i'r holl rieni a oedd yn gallu mynychu'r Noson Rieni yn ddiweddar. Roedd yn gyfle gwerthfawr i gyfarfod athro / athrawes eich plentyn a chael gwybod os yw eich plentyn wedi setlo yn y dosbarth newydd. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus ac yn ddiolchgar am y cydweithio cadarn sy'n helpu ein disgyblion i ffynnu.
Er mwyn helpu i leihau lledaeniad heintiau a diogelu iechyd a lles ein cymuned ysgol, gofynnwn yn garedig i rieni a gofalwyr beidio ag anfon eu plentyn i'r ysgol os ydynt yn chwydu neu'n dioddef o ddolur rhydd.
Yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, dylai plant aros gartref am o leiaf 48 awr ar ôl y tro diwethaf iddynt chwydu neu gael dolur rhydd cyn dychwelyd i'r ysgol.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth barhaus wrth ein helpu i gadw'r ysgol yn amgylchedd diogel, iach a chroesawgar i bawb.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Rydw i’n hoffi…? Dwi’n hoffi ....
Dydw i ddim yn hoffi ....
Her
Mae’n well gen i… na ....
Testun trafod:
Fy hoff le yn y byd yw…
Cân Gymraeg: Papur Wal - Llyn Llawenydd
Idiom / Dihareb Gymraeg: Mynd dros ben llestri
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
02/10/26
02/10/26
09/10/26
09/10/26
12/10/26 - Gŵyl Gyfeiriannu Blwyddyn 6
13/10/26 - Noson agored Ysgol Gyfun Llangefni
16/10/26 - Gwisgo Coch yn erbyn hiliaeth
Bydd disgyblion Uned Graig Fawr yn cael y cyfle i ymweld â Venue Cymru i wylio'r panto poblogaidd Sleeping Beauty. Talu am y daith drwy SchoolGateway. Gofynnwn yn garedig i bob taliad gael ei gwblhau erbyn 16 Hydref.