Croeso nol i bawb, gobeithio i chi fwynhau'r Nadolig a'r eira! Croeso i gylchlythyr newyddion yr ysgol.
Bydd y cylchlythyr yn cydnabod llwyddiannau a rhannu gwybodaeth ysgol gyfan gyda chwi fel rhieni.
Bydd y cyswllt a’r cylchlythyr ar wefan yr ysgol.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at dymor prysur a chyffrous!
Roedd hi'n hyfryd i groesawu rhieni a theuluoedd estynedig i’r ysgol i wylio sioeau Nadolig yr adrannau. Cawsom wledd o ganu, actio a dawnsio ac roedd naws Nadoligaidd hyfryd yn neuadd yr ysgol. Diolch i chi fel rhieni am eich cefnogaeth barhaus ac am ddarparu’r gwisgoedd gwych. Diolch hefyd i’r staff arbennig sydd gennym ni yma yn Ysgol y Graig am eu holl waith caled yn paratoi’r disgyblion ar gyfer y sioeau.
Rhiant Lywodraethwr
Diolch i bawb wnaeth ymgeisio am rôl rhiant lywodraethwr yn Ysgol y Graig. Llongyfarchiadau i Gareth Pawson sydd wedi ei ethol fel rhiant lywodraethwr newydd yr ysgol. Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag ef a gweddill y llywodraethwyr unwaith eto'r tymor yma.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Mi fyddaf i yn…
Her
Edrychaf ymlaen at…
Fy hoff beth i yn y byd ydy…
Testun trafod:
Fy adduned blwyddyn newydd ydy....
Cân Gymraeg Buddug - Unfan
Idiom Gymraeg: Y drwg yn y caws
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
09/01/26
09/01/26
14/01/26 - Gwers Nofio 2 - Blwyddyn 3 a 4
14/01/26 - Cyfnewid dillad - Ystafell Gymunedol, Graig Fawr 2pm - 4pm
16/01/26 - Gala Nofio, Plas Arthur
23/01/26 - Dathlu pen-blwydd 50 yr Urdd - gwisgo Coch, Gwyn neu Wyrdd - talu £1 tuag at Eisteddfod yr Urdd, 2026 - talu drwy Gateway.
26/01/26 - Dyddiad cau ar gyfer cystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd, 2026. Anfonwch enw eich plentyn i Mr Pritchard. (Rhaid bod yn aelod o'r Urdd.)