Rydym yn falch o rannu bod yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus yn cael un o’r pecynnau gardd bywyd gwyllt AM DDIM gan Bartneriaeth Natur Lleol Ynys Môn a Chadwch Gymru’n Daclus. Mae'r Cyngor Eco o dan arweiniad Miss Nicola Jones a Mr Jonathan Jones wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar.
Diolch hefyd i Mr Alwyn Jones (tad Miss Jones) fu'n brysur iawn yn cario a llenwi'r gwlau blodau gyda phridd.
Y GRAIG YN HOME BARGAINS
Diolch i Mrs Moore a nifer fawr o'r disgyblion yn Graig Fawr am roi o'u hamser i liwio calonnau i helpu siop 'Home Bargains' i addurno'r siop ar gyfer dathlu Diwrnod Santes Dwynwen.
Gêm bêl droed gyfeillgar
Aeth criw o fechgyn Blwyddyn 5 a 6 draw am Gaergybi a chael gêm bêl droed gyfeillgar yn erbyn bechgyn Blwyddyn 5 Ysgol Gymraeg Morswyn. Diolch i Mr Gwilym am hyfforddi'r bechgyn.
Agor y Llyfr.
Hyfryd oedd croesawu ein cyfeillion 'Agor y Llyfr' draw i gynnal gwasanaeth gyda'r ddwy uned; Graig Fach a Graig Fawr. Y stori ar gychwyn y flwyddyn newydd oedd Iesu yn y Deml gyda disgyblion o ddosbarthiadau Cwyfan ac Edwen yn darllen ac actio.
Rydym fel ysgol yn ddiolchgar iawn iddynt am ddod atom yn fisol, ac mae pawb - yn ddisgyblion a staff ym mwynhau'r gwasanaethau yn fawr iawn.
Dyma batrwm iaith i'w ymarfer:
Beth sy'n bod?
Mae ....... a .... gen i
Oes gen ti annwyd?
Oes gen ti beswch?
Oes mae ........ gen i. / Nag oes, does dim..... arnaf i
Testun trafod:
Pan fyddai'n gwylio'r teledu, does dim yn well gen ni 'na .......
Cân Gymraeg Mellt: Diwrnod arall
Idiom Gymraeg: Codi calon
Mae presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig i ni yma yn y Graig.
Ceisiwch eich gorau i sicrhau fod eich plentyn / plant yn bresennol bob dydd.
Os y byddwch angen adrodd ar absenoldeb, gallwch:
ffonio'r ysgol a gadael neges
anfon neges SeeSaw i'r athro dosbarth
anfon neges SeeSaw i staff y Swyddfa
Gofynnir i chwi wneud hyn cyn 9.30yb os gwelwch yn dda.
30/01/26
30/01/26
06/02/26
06/02/26
07/02/26 - Eisteddfod Offerynnol yr Urdd - Ysgol y Graig.
11/02/26 - Gwers Nofio 6 - Blwyddyn 3 a 4
12/02/26 - Gêm bêl-droed gyfeillgar yn Ysgol Gymraeg Morswyn, Blwyddyn 5 a 6
16/02/26 - 20/02/26 - Hanner tymor
23/02/26 - HMS (dim ysgol)
24/02/26 - ysgol yn ail-agor yn dilyn yr Hanner tymor
24/02/26 - Sesiwn Bwyta'n gall, Cynilo'n well - 1pm - 2.30pm
25/02/26 - Gwers Nofio 7 - Blwyddyn 3 a 4
27/02/26 - Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi - Stryd Fawr Llangefni - i gychwyn am 10am. (Blwyddyn 5 a 6)
28/02/26 - Eisteddfod Cylch Cefni - Ysgol Gyfun Llangefni
Os yw eich plentyn yn dod a bocs bwyd o adref fel arfer i ginio, ac yn dymuno cael cinio Dydd Gŵyl Dewi, yna anfonwch neges SeeSaw i Mr Pritchard os gwelwch yn dda.
Sesiynau Pipyn, Ystafell Gymunedol Graig Fawr
yn cychwyn Mawrth 3ydd am 2pm. Plant yn ymuno â'r rhieni am 3pm.
Caban Llangefni 9.30am - 11.30am
27 Ionawr, 2026 am 6 wythnos 10.00am - 11.00am
i blant Meithrin i Flwyddyn 2