Cwrs
Gloywi Athrawon
Rydych chi fel athrawon yn chwarae rhan allweddol wrth addysgu a meithrin ein disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac hyderus.
O fewn y cwrs hwn ceir chwe Uned Ddysgu ar dy Liwt dy Hun a fydd yn eich cynorthwyo i fod yn hyderus eich bod yn trosglwyddo'r iaith orau posib i'r disgyblion. Yn ogystal â'r ymarferion a geir o fewn yr unedau ceir Llyfryn Ymarfer ar wahân.
I gydfynd â'r unedau dysgu ceir Canllaw Cyflym. Mae dwy ran i'r canllaw, sef trosolwg o'r Unedau Dysgu ar dy Liwt dy Hun a Banc Sylwadau Adborth ac Adroddiadau.
Mae'r adran Adnoddau Defnyddiol yn cynnwys rhai llyfrau defnyddiol yn ogystal â dolenni i adnoddau arlein.