Defnyddir y system rifau i gynrychioli a chymharu’r perthnasau rhwng rhifau a meintiau.
Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythurau’r perthnasau rhwng rhifau, meintiau a chydberthnasau.
Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasau sy’n ymwneud â phriodweddau siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol.
Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.