Cyflwyniad
Cyflwyniad
Croeso i wefan Caffael Iaith y GCA
Yn sgil y pandemig a’i heriau, penderfynwyd ystyried caffael iaith a dulliau trochi o’r newydd fel bod gennym well dealltwriaeth o sut i fynd ati i gefnogi adferiad hyder, defnydd a sgiliau iaith dysgwyr. Dechreuwyd ar gyfnod cyffrous o gydweithio â’n hysgolion rhwydwaith dysgu gyda’r nod o fynd o dan groen datblygiad iaith ymhellach, rhannu arferion cyfredol, adnabod bylchau a datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr a fyddai’n sail i drafodaethau proffesiynol ehangach.
Hyderwn y bydd y wefan hon, sydd yn benllanw ar y cydweithio, o gymorth i ysgolion a chlystyrau wrth iddynt barhau i ystyried eu darpariaeth ar gyfer llythrennedd, ac agweddau ar gynnydd yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru. Gall hefyd fod o gymorth i egin ganolfannau trochi sydd yn cael eu sefyldu fesul awdurdod lleol.
Mae yma drysorfa o wybodaeth, o ddeunyddiau darllen ac ymchwil. Rhennir enghreifftiau o arferion da mewn cynllunio bwriadus ar gyfer datblygiad iaith ar lefel ysgol, clwstwr, ac ar draws lleoliadau gwahanol. Mae yma enghreifftiau o flaengareddau ysgol, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol penodol. Rhoddir ystyriaeth i addysgeg a methodoleg dysgu iaith. Ystyrir pwysigrwydd defnydd iaith mewn sefyllfaoedd anffurfiol er mwyn atgyfnerthu defnydd geirfa a phatrymau mewn modd hwyliog.
Diolchwn yn ddiffuant i ymarferwyr o’r ysgolion canlynol am eu rhan yn natblygiad y wefan a’r adnoddau cysylltiedig: Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, Ysgol Gymraeg Casnewydd, Ysgol Gymraeg Y Fenni, Ysgol Gymraeg Y Ffin.
Porwch a mwynhewch!
Elen Roberts
Prif Bartner y Cwricwlwm (Arweinydd Strategol y Gymraeg ac ILlCh)
Taught? Caught?
Proses yw Caffael Iaith ... proses sy'n cynnwys cyfnodau a chamau cynnydd. Yn y cyflwyniad hwn, sy'n seiliedig ar ffrwyth ymchwil gan ysgolheigion blaenllaw megis Colin Baker a Steven Krashen, ceir trosolwg o'r cyfnodau a'r camau sy'n rhan o'r broses a chyflwyniad hygyrch i wahanol ddulliau o ddarparu adborth i ddysgwyr sydd ar eu taith caffael iaith.
Cynllunio ar gyfer Caffael Iaith
Dau o awgrymiadau Estyn er mwyn sicrhau addysg trochi effeithiol ydy:
Cynllunio ar gyfer dilyniant a pharhad, a
Mapio geirfa a phatrymau cystrawennol
Er ystyriaeth, ceir enghreifftiau o gynllunio ieithyddol mewn gwahanol gyd-destunau isod. Crëwyd y cynlluniau hyn er mwyn diwallau anghenion ieithyddol y lleoliad(au) penodol a nodir. Ni argymhellir bod lleoliadau eraill yn mabwysiadu'r cynlluniau fel y'u cyflwynir yma ond gellir eu defnyddio i ysgogi trafodaeth a all arwain at lunio map sy'n briodol i ddysgwyr eich lleoliad chi.
Fel yr esbonir uchod, seilir darpariaeth Trochi Ysgol Gymraeg Y Ffin ac Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ar gynllun Trochi a ddatblygwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd. Atgyfnerthir y pecyn Trochi gan adnoddau a gynhyrchwyd gan Dîm y Gymraeg Consortiwm Canolbarth y De. Cysylltwch am fwy o wybodaeth am y cynllun.
Cliciwch ar y ddelwedd er mwyn gweld sut mae un clwstwr wedi cydweithio er mwyn cysoni'r cystrawennau ar gyfer gwahanol gyd-destunau a gyflwynir i ddysgwyr ysgolion cynradd y clwstwr mewn pedwar cam. (D.S. Nid at gamau cynnydd Cwricwlwm i Gymru y cyfeirir yma .)
Gan dynnu oddi ar ymchwil ac ystod o strategaethau a drafodir yn y rhaglen DP Working with Words a ffynonellau eraill, dyma sut aeth un ysgol ati i gynllunio uned o waith yn seiliedig ar y stori Mali a’r Môr Stormus, Malachy Doyle, (cyfieithiad Mary Jones, Gwasg Graffeg, 2018). Cliciwch ar glawr y llyfr i weld cynnwys yr adnodd.
Meithrin Llafaredd: Siarbennig!
Yn y fideo hwn, mae Carys Glyn yn cyflwyno cynllun Siarbennig. Carys fu'n gyfrifol am ddatblygu'r ddarpariaeth yn yr ysgol. Mae'n ymateb i'r cwestiynau canlynol:
Pam cyflwyno Siarbennig?
Sut est ti ati i gynllunio’r pecyn?
Beth yw cynnwys y pecyn?
Beth yw effaith y ddarpariaeth ar ddysgwyr yr ysgol?
Camau nesaf? Addasu? Ehangu?
Pa gyngor byddet ti’n ei roi i ysgol sydd am gyflwyo’r pecyn?
Llwyfan Llafar
Mewn ymateb i bryder ymarferwyr addysgol am safon iaith lafar eu disgyblion yn dilyn Covid-19, mae Tîm Cymraeg Consortiwm Canolbarth y De wedi paratoi rhaglen y Llwyfan Llafar. Bwriad y rhaglen yw cynnig ambell syniad i godi proffil llafaredd ysgol gyfan a rhoi hyder i ddisgyblion ddarganfod eu llais unwaith eto. Mae’r pecyn yn cefnogi llafaredd er mwyn cyflwyno a hynny o ddechrau CC1 hyd at ddechrau CC4. Cydnabyddir â diolch ganiatad Consortiwm Canolbarth y De i gynnwys yr adnodd hwn yn ein pecyn.
Drilio Disglair
Cynyrchwyd y deunyddiau cynhwysfawr hyn gan ymarferwyr o awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Cydnabyddir yn ddiolchgar eu caniatad i gynnwys y deunyddiau yn y pecyn hwn.
Mae'r pecyn yn cynnwys cynllun drilio ar gyfer blynyddoedd gwahanol (Meithrin a Derbyn), Bl. 1-2, Bl. 3-4 a Bl. 5-6. Yn ogystal â chynnig cynllun drilio sy'n gydlynus ac yn cynnwys her cynyddol yn y patrymau a gyflwynir, ceir yma weithgareddau hwyliog a chaneuon sy'n hyrwyddo'r nodwedd ieithyddol dan sylw.
Deunyddiau Atgyfnerthu Iaith
Adnabuwyd prif anghenion ieithyddol dysgwyr trwy gyfrwng holiadur i ddetholiad o ymarferwyr mewn lleoliadau gwahanol ar draws y rhanbarth. Gwelir yr anghenion a adnabuwyd isod.
A'r dulliau roedd dysgwyr yn eu ffafrio er mwyn meithrin cywirdeb iaith oedd
gemau bwrdd;
gemau rhyngweithiol;
phenillion / caneuon.
Ym mhob un o'r ffolderi isod, ceir amrywiaeth o weithgareddau sy'n cefnogi'r angen ieithyddol penodol sydd dan sylw. Cofiwch wirio pecyn Drilio Disglair isod ar gyfer penillion / caneuon hefyd.
Hwyl y Tu Fas ... a'r Tu Mewn
A thynnu ar awgrymiadau Estyn er mwyn sicrhau addysg trochi effeithiol eto, argymhellir:
Canu, chwarae gemau a chymell chwarae rôl;
Darparu gweithgareddau mewn modd hwyliog gyda chyflymder bywiog; a
Blaenoriaethu medru gwrando a siarad, yna darllen ac ysgrifennu.
Yn yr adran hon, cewch drysorfa o weithgareddau hwyliog er mwyn cefnogi'r broses caffael iaith. Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y gweithgareddau a gallwch chi gyrchu'r adnoddau y cyfeirir atyn nhw (a rhagor) trwy'r ddolen isod.
Cynllunio i gadarnhau’r cystrawennau a gweithgareddau i gefnogi caffael iaith
Recordiad
Detholiad o Ddeunyddiau Cyfair
Gallwch gyrchu'r adroddiad yn llawn trwy glicio ar y ddelwedd.
Sut mae lleoliadau ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu dysgwyr
Cyhoeddwyd Mawrth 2021
Yn y ddarlith hon, mae'r Athro Enlli Môn Thomas yn cyflwyno amryw o fodelau trochi, effeithiau posibl Covid-19 ar gaffael iaith ac yn rhannu cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol i'n helpu i sicrhau bod ein darpariaeth Trochi a Chaffael Iaith mor effeithiol ag y gall fod.
Dulliau Addysgu Dwyieithog:
cyfeirlyfr cyflym i addysgwyr
Yr Athro Enlli Môn Thomas
Dafydd Apolloni
Nia Mererid Parry
Cyhoeddwyd 2018