Trosglwyddo i Flwyddyn 7
Ysgol Morgan Llwyd
| Gwybodaeth i Rieni a Disgyblion Blwyddyn 6 sy'n cychwyn yn Ysgol Morgan Llwyd fis Medi, 2025 |
CROESO! (Cliciwch ar y saeth am wybodaeth!)
Helo...a chroeso cynnes IAWN i chi!
Mae symud o'r cynradd i Ysgol Morgan Llwyd yn gam pwysig a chyffrous, ond gall fod yn gyfnod gofidus hefyd.
RYDYN NI YMA I HELPU!
Er mwyn sicrhau trosglwyddo hapus a hyderus, trefnwn raglen o weithgareddau sy'n caniatáu i ddisgyblion Blwyddyn 6 ddod i adnabod yr ysgol, ein hathrawon a disgyblion o ysgolion cynradd eraill, a hynny cyn iddynt gychwyn Blwyddyn 7.
Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu mwy am drosglwyddo o'r ysgol gynradd i Ysgol Morgan Llwyd!
PWYSIG! Bydd y Sir yn ebostio llythyrau efo gwybodaeth am system dalu cinio ysgol ParentPay yn ystod gwyliau'r haf. Gall unrhywun sy'n cael trafferth gosod cyfrif newydd neu sydd â chwestiwn gysylltu â'r Sir ar 01978315644 neu schlmeals@wrexham.gov.uk
COFIWCH! Os mae gennych chi gwestiwn, anfonwch neges ebost atom i bocspost@ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk