Mae cynnig proffesiynol CSC yn fersiwn symlach ac mae'n canolbwyntio ar bum prif faes sef Ecwiti a Lles, Taith Cwricwlwm Cymru, Datblygu'r Gweithlu, Addysgeg a Dysgu Digidol. Mae'r cynnig yn parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i'r holl staff, o gynorthwywyr addysgu sydd am ennill cymhwyster Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, i raglen ddatblygu ar gyfer penaethiaid strategol. Mae'r cynnig wedi'i addasu i ganiatáu ar gyfer cyflwyno digidol ar ffurf sesiynau byw, cyflwyniadau gweminar, a recordiadau o sesiynau byw. Mae hyn yn sicrhau hyblygrwydd fel y gallwch chi, fel ymarferwyr, gyrchu Dysgu Proffesiynol ar adeg sy'n addas i chi a'ch ysgol.
CCC’s professional offer is a streamlined version and concentrates on five main areas namely Equity and Wellbeing, Curriculum for Wales Journey, Developing the Workforce, Pedagogy and Digital Learning. The offer continues to provide professional learning opportunities for all staff, from teaching assistants wanting to achieve Higher Level Teaching Assistants qualification, to a developmental programme for strategic heads. The offer has been adapted to allow for digital delivery in the form of live sessions, webinar presentations, and recordings of live sessions. This ensures flexibility so that you, as practitioners, can access Professional Learning at a time that suits both you and your school.