Cynllunio Pwrpasol - Dylunio'r Cwricwlwm 3
Egwyddorion Cynnydd
Dylai cynnydd mewn dysgu bob amser fod wrth wraidd y broses o gynllunio’r cwricwlwm yn hytrach na dechrau gyda thema ac addasu'r dysgu i gydweddu â hi. Wrth ddewis cynnwys cwricwlwm, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd i lywio eu dull gweithredu o ran cynnydd. Tra bod disgrifiadau dysgu yn mynegi ffordd y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn dysgu o ran datganiadau penodol o’r hyn sy’n bwysig, mae'r egwyddorion cynnydd yn mynegi'r egwyddorion ehangach o ran yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu yn y Maes yn ei gyfanrwydd. Fel y cyfryw, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion hyn i lywio'r holl ddysgu i gefnogi cynnydd. Wrth ystyried disgrifiadau dysgu neu gyd-destun, testun neu brofiad penodol, mae'r egwyddorion cynnydd yn helpu ymarferwyr i ddeall sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn modd mwy soffistigedig neu ddwfn. Dylai ymarferwyr hefyd gydnabod y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd ar wahanol gyflymderau
Tasg Clwstwr
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Egwyddorion Cynnydd - Bilingual
Iechyd a Lles
Iechyd a Lles.
Egwyddorion Cynnydd - Bilingual
Y Dyniaethau
Y Dyniaethau
Egwyddorion Cynnydd - Bilingual
Mathemateg a Rhifedd
Mathemateg a Rhifedd
Egwyddorion Cynnydd - Bilingual
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Egwyddorion Cynnydd - Bilingual
Y Celfyddydau Mynegiannol
Y Celfyddydau Mynegiannol
Egwyddorion Cynnydd - Bilingual
Egwyddorion Cynnydd
Egwyddorion Cynnydd - Egwyddorion Cyffredinol
Egwyddorion Cynnydd - MDaPH
Cynllunio Pwrpasol
Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru - Asesu a Dilyniant
Adnodd Dysgu Proffesiynol Hunangyfeiriedig
Adnodd Dysgu Proffesiynol Hunangyfeiriedig - Asesu a Dilyniant
Mae Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru wedi datblygu adnodd Dysgu Proffesiynol hunangyfeiriedig ar-lein i gefnogi ysgolion a lleoliadau wrth ddatblygu eu trefniadau asesu yn unol â'r canllawiau asesu fel y gwelir yn y Cwricwlwm i Gymru. I gael mynediad i'r adnodd dysgu proffesiynol, cliciwch yma.