Mae hi’n bwysig bod eich plentyn yn parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd a chymryd mantais ar y nifer o fanteision yn sgil bod yn ddysgwr dwyieithog.
Mae hi’n bwysig bod eich plentyn yn parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd a chymryd mantais ar y nifer o fanteision yn sgil bod yn ddysgwr dwyieithog.
Gall unrhyw blentyn ddilyn llwybr esmwyth i addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol uwchradd.
Mae addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gael o fewn pellter rhesymol i bob cartref yn Sir Ddinbych.
Byddwn yn darparu cludiant ysgol am ddim i’ch plentyn deithio i’ch ysgol agosaf sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg os ydych yn byw dros ddwy filltir i ffwrdd.
Mae plant sydd sydd â dwy iaith yn dueddol o berfformio’n well mewn profion ac arholiadau.
Mae’n allweddol bod pobl ifanc yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol gynradd er mwyn bod yr un mor hyderus yn eu Cymraeg â’r Saesneg.
Mae Cymraeg yn ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.