CYMWYSTERAU YNG NGHYMRU
QUALIFICATIONS IN WALES
CYMWYSTERAU YNG NGHYMRU
QUALIFICATIONS IN WALES
Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd ar y ffordd i bob person ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys TGAU, yn ogystal â chymwysterau TAAU newydd, cymwysterau Sylfaen a chymwysterau'r Gyfres Sgiliau.
Mae'r TGAU newydd yn cael eu cyflwyno mewn dwy don, un ym mis Medi 2025 a’r llall ym mis Medi 2026. Mae’r TAAU, y cymwysterau Sylfaen, a'r Gyfres Sgiliau yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2027.
Bydd dysgwyr sydd ym mlwyddyn 9 eleni yn dilyn cymwysterau addasedig ar gyfer y pynciau canlynol:
Addysg Grefyddol, Celf a Dylunio, Cerddoriaeth, Daearyddiaeth, Drama, Hanes, Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg a Rhifedd, a Sbaeneg.
Caiff yr addasiadau i'r cymwysterau yma eu hesbonio yn y fideos pynciol ar y wefan hon.
Am wybodaeth bellach am yr addasiadau i gymwysterau dysgwyr 14-16 dilynwch y dolenni isod i wefannau Cymwysterau Cymru a CBAC
New National Qualifications are coming for all 14 to 16 year-olds in Wales.
National Qualifications include GCSEs, as well as new VCSEs, Foundation qualifications and Skills Suite qualifications.
The new GCSEs are being introduced in two waves in September 2025 and September 2026. VCSEs, Foundation qualifications and the Skills Suite are being introduced in September 2027.
Current year 9 learners will follow reformed qualifications in the following subjects:
Religious Education, Art and Design, Music, Geography, Drama, History, Welsh Language and Literature, English Language and Literature, Mathematics and Numeracy, and Spanish.
The adaptations to these qualifications are explained in the subject videos on this site.
For further information regarding the changes to qualifications for 14-16 learners follow the below links to the Qualification Wales and WJEC websites.