Amdanom Ni

Amdanom ni...

Hanes y cwmni

Fe benderfynodd dosbarth blwyddyn 5 a 6 Mrs Janet Roberts eu bod nhw am wneud rhywbeth i’w wethu yn y Ffair Dolig yr ysgol. Ar ôl hel syniadau fe benderfynom mai syniad Harri Studt oedd y gorau sef gwneud coeden dolig allan o hen gylchgronau. Roedd y syniad yma yn ateb ein Meini Prawf Llwyddiant sef

  • Mae’r darn crefft yn edrych yn chwaethus
  • Mae’r darn crefft yn hawdd i’w wneud
  • Mae’r darn crefft yn amgylcheddol dda.

Fe gafodd pawb yn y dosbarth swydd penodol i’w wneud – rhai yn plygu cylchgronau, rhai yn gludo, rhai yn addurno, rhai yn gwneud fidios yw atodi fel neges a rhai yn ngofal y marchnata ar werthu.

Rydym wedi penderfynu galw’r cwmni yn Coed Dolig y Winllan ac rydym wedi llunio logo effeithiol i gyd fynd.

Mae rhai o’r dosbarth wedi bod yn brysur yn creu y wefan yma sydd yn rhoi bob math o wybodaeth a hanes am y cwmni.