Cliciwch y botwm isod i gael gwybodaeth am y lleoliad, parcio, arlwyo, cod gwisg a mwy.
8.45yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
9.50yb Cyflwyniad i Ddiwrnod Un
Sian Lloyd, Cyflwynydd a newyddiadurwr (Cadeirydd y Gynhaddled)
Swît Powys
10.10yb Siaradwr allweddol: Sut olwg sydd ar Gymru gyda chydlyniant cymdeithasol?
Emeka Forbes, Pennaeth Chydlyniant, /together
Swît Powys
10.40yb Sesiwn Panel: Sut fedrwn ni hybu newid cadarnhaol a chydnerthedd yn ein cymunedau yn wyneb heriau i gydlyniant cymdeithasol?
Swît Powys
Mewn sgwrs gyda:
11.10yb Egwyl Coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
11.50yp Gweithdai
1. Creu Lle a Chyflymder – a allant fynd law yn llaw?
Jen Heal, Comisiwn Dylunio Cymru
Yn y gweithdy cyfranogol hwn, bydd Comisiwn Dylunio Cymru yn ymchwilio’r cyfleoedd, heriau a manteision dull creu at dai a sut y gall hyn ffitio mewn i raglen gyflymach o gyflenwi tai. Byddwn yn rhoi sylw i bwysigrwydd cynnwys ystyriaethau creu lle o’r dechrau cyntaf mewn datblygiad i osgoi oedi diangen, sicrhau gwerth hir a diwallu anghenion preswylwyr y dyfodol.
2. Hwb Sero Net
Kate Jenkins, Energy Saving Trust a Julian Brooks, Good Homes Alliance
Bydd y sesiwn yma yn rhoi diweddariad ar yr Hwb Sero Net a rhoi cyfle i chi rannu eich awgrymiadau ar gyfer gwella. Bydd yn cyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu a chydweithio ar draws sectorau yn ogystal â rhannu arfer gorau ac arferion heb fod cystal.
3. Cydweithio rhwng iechyd a thai
Dan Bowers ac Owain Jones, Prifysgol De Cymru
Yn y gweithdy hwn bydd Prifysgol De Cymru yn rhannu eu gwaith gyda Linc Cymru (Grŵp Pobl) ar ailintegreiddio tenantiaid gofal ychwanegol yn dilyn Covid a thrafod y 5 blaenoriaeth allweddol ar gyfer ymchwil mewn iechyd a thai a ddaeth i’r amlwg o ddigwyddiad consensws diweddar gyda ffocws ar dai:
Ffynnu fel swyddogaeth eich cymuned a thai
Dangos tystiolaeth fod tai yn rhagflaenu deilliannau iechyd
Derbyn technoleg mewn tai cymdeithasol – yn arbennig o amgylch ôl-osod
Meddwl systemau, dod â thai ac iechyd ynghyd e.e. cynghrair tai iach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Addasiadau – anghenion ffisegol yn awr ac yn y dyfodol
Byddwch hefyd yn clywed am yr hyfforddiant y maent wedi ei ddatblygu i helpu cydweithwyr tai a sut y gall cymdeithasau tai gael mynediad i’r sgiliau ymchwil sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru.
4. Trafod tai: eich helpu i ddod yn well am gyfathrebu
Natalie Tate, Talking about Homes, JRF
Mae’r ffordd y siaradwn am dai yn bwysig os ydym eisiau i bobl gefnogi ein datrysiadau.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn bryderus am brinder cartrefi gweddus a fforddiadwy ac yn cefnogi’r syniad eang fod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi. Eto rydym yn wynebu gwrthwynebiad pan gyflwynir yr achos yn uniongyrchol i gymunedau gael eu hadeiladu yn eu hardaloedd eu hunain.
Dewch yn well am gyfathrebu drwy ymuno â Natalie Tate i gasglu canllawiau ymarferol a chyngor da i’ch helpu i:
Sefydlu tir cyffredin a rhoi rheswm i bobl am falio
Ennill calonau a meddyliau drwy ddagos pam fod angen cartrefi newydd
Rhannu gweledigaeth am fanteision cartrefi gwirioneddol fforddiadwy a chymunedau cryf
12.50yp Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
2.00yp Sesiwn Panel: Sgiliau Gwyrdd
Mewn sgwrs gyda:
2.45yp Gweithdai
1. Newid Ymddygiad: Trawsnewid ymarferion caffael i sicrhau diwygio caffael
Jackie Leonard (CHIC) a Carl Thomas (Llywodraeth Cymru)
Nod y gweithdy hwn yw cael gwared â’r chwedlau a’r camsyniadau am gaffael sector cyhoeddus a datgelu ei rym gwrioneddol fel ysgogiad strategol ar gyfer sicrhau gwerth a chynyddu deilliannau llesiant eithaf ar gyfer ein cymunedau yng Nghymru.
Byddwn yn dechrau drwy fynd i’r afael â rhai o’r camsyniadau cyffredin am gaffael, yn cynnwys pam fod “caffael” yn aml yn teimlo fel rhywbeth sy’n rhwystro yn hytrach na galluogi. Byddwn wedyn yn dychmygu anrhefn byd heb gaffael. Yn olaf byddwn yn trafod sut y gall caffael cymdeithasol gyfrifol ddatgloi werth drwy ostwng rhwystrau ar gyfer busnesau bach a chanolig, cynyddu creu swyddi lleol, hyrwyddo cynaliadwyedd a gwaith teg a hyrwyddo cynhwysiant diwylliannol.
2. Hwb Sero Net (ail gyfle)
Kate Jenkins, Energy Saving Trust a Julian Brooks, Good Homes Alliance
Bydd y sesiwn yma yn rhoi diweddariad ar yr Hwb Sero Net a rhoi cyfle i chi rannu eich awgrymiadau ar gyfer gwella. Bydd yn cyfnerthu pwysigrwydd cydweithredu a chydweithio ar draws sectorau yn ogystal â rhannu arfer gorau ac arferion heb fod cystal.
3. Twf er Daioni a Tyfu a Ffynnu Blaenau Gwent
Claire Snook (SamKat), Andrew Myatt (Tai Calon), Rachel Lovell (Cymoedd i Arfordir)
Dewch i glywed y diweddaraf am y prosiectau arloesol hwn am ddefnydd tir, ymgysylltu â’r gymuned a chynaliadwyedd.
4. Cydweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy: Ennyn diddordeb tenantiaid mewn ôl-osod a datgarboneiddio
Liz Jones, Cynon Taf Community Housing Group
Holly Ingram, Blue Stag
Sut mae cyfathrebu datgarboneiddio?
O pam fod angen i ni wneud hynny, i beth mae tenantiaid eisiau ei wybod, byddwn yn ymchwilio pethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud seiliedig ar ymchwil i’ch helpu i gyfathrebu gwaith ôl-osod a datgarboneiddio gyda’ch tenantiaid.
4.10yp Siaradwr allweddol: Sut y caiff cymdeithas ei hadeiladu, y pobl y mae’n eu gadael ar ôl a’r hyn y gallwn wneud am hynny
Dr Faiza Shaheen, Cymrawd Polisi Nodedig, Sefydliad Rhyngwladol ar Anghydraddoldeb (III), Ysgol Economeg Llundain
4.40yp Diwedd Diwrnod 1 – Sylwadau’r Cadeirydd
5.00yp Derbyniad diodydd, gyda swper i ddilyn
8.45yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
9.30yb Croeso gan y Cadeirydd
Sian Lloyd, Cyflwynydd a newyddiadurwr (Cadeirydd y Gynhaddled)
9.40yb Mewn sgwrs gyda Lee Waters As: Sylwadau a’r hyn a ddysgwyd o’r Tasglu Cartrefi Fforddiadwy
Ym mis Tachwedd 2024 sefydlodd Jane Bryant AS, Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, y Tasglu Cartrefi Fforddiadwy i gyflymu cyflenwi cartrefi o fewn rhaglen adeiladu bresennol y Llywodraeth a gwneud argymhellion i symleiddio cyflenwi mwy o gartrefi ar rent cymdeithasol yn yr hirdymor.
Bydd Lee Waters AS, cyn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac arweinydd y Tasglu, yn ymuno â ni i drafod y canfyddiadau ac argymhellion a’r hyn a olygant i gymdeithasau tai.
2.00yp Sesiwn Panel
Mewn sgwrs gyda:
10.40yb Egwyl Coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
11.10yb Gweithdai
1. Dau Sector: Un Weledigaeth: Adeiladu Mwy, yn Gyflymach ac yn Well Gyda’n Gilydd
Caroline O'Flaherty, Hugh James a Sian Diaz, Lovell
Bydd y sesiwn yma yn ymchwilio lle gall tai preifat a thai cymdeithasol alinio ar gyfer budd y ddau sector a’r hyn y gall y ddau ddysgu gan ei gilydd.
Bydd Caroline O’Flaherty, Partner a Phennaeth Tîm Tai Cymdeithasol Hugh James yn dod â straeon yn fyw o reng flaen datblygu mewn sgwrs gyda Sian Diaz, Cyfarwyddwr Datblygu Rhanbarthol Lovell. Bydd Caroline yn trafod ei safbwynt unigryw gyda Sian ar ôl gweithio i gymdeithasau tai ac adeiladwyr tai, gan archwilio safleoedd mwy i sicrhau y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion a lle mae’r heriau wrth gydweithio ar safleoedd yn nhermau cyllid a sicrhau maint.
Ble dylai’r ffocws fod er mwyn cyrraedd y “man melys” sy’n gweithio i LCC a hefyd adeiladwyr tai i gyflawni beth fyddai’r naill a’r llall yn ei alw’n llwyddiant?
Bydd Caroline a Sian yn trafod yr heriau a wynebwyd ar gynlluniau fel Plasdŵr, cynllun ar y cyd rhwng Pobl ac Edenstone, ac yn ymchwilio barn Lovell ar weithio partneriaeth, y farchnad gyfredol a chyllid Llywodraeth Cymru.
2. Defnyddio Caffael ar gyfer Datgarboneiddio a Gwerth Cymdeithasol mewn Tai Cymdeithasol yng Nghymru
Tom Wilkinson a Andrew Thomas, Barcud Shared Services
Mae caffael yn arf hanfodol ar gyfer hybu datgarboneiddio a sicrhau gwerth cymdeithasol ar draws sector tai cymdeithasol Cymru. Yn y sesiwn yma bydd Barcud Shared Services yn ymchwilio sut y gall cymdeithasau tai ddefnyddio caffael yn strategol i gyrraedd targedau Sero Net, cefnogi economïau lleol ac ysgogi buddion ehangach i’r gymuned. Bydd hefyd yn edrych sut mae Deddf Caffael 2023 yn cefnogi’r uchelgeisiau hyn, gan gynnig mwy o hyblygrwydd a mandadau cliriach i roi blaenoriaeth i ddeilliannau cymdeithasol ac amgylcheddol.
3. Taith Trivallis i drawsnewid y model rheoli tai ac adeiladu ‘tîm o amgylch y tenant’
Kieron Montague, Trivallis
4. Tai Ffres: llwybr tai arloesol, amgen ar gyfer pobl ifanc
Amanda Oliver, United Welsh
Mae Tai Ffres yn wasanaeth tai gan United Welsh a Llamau lle caiff pobl ifanc gynnig cartref gwirioneddol fforddiadwy, gyda chymorth os ydynt eisiau hynny. Mae hwn yn wasanaeth pwrpasol ac arloesol ar gyfer y rhai nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau digartrefedd neu lle na fyddai gwasanaethau llety â chymorth traddodiadol yn briodol.
Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu am:
Y cynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru a barn pobl ifanc ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ar ddigartrefedd.
Gwreiddiau a gweithrediad Tai Ffres.
Sylwadau a gasglwyd gan Brifysgol Caerdydd gan bobl ifanc ar effaith y gwasanaethau a gafodd Tai Ffres
Sut y defnyddir dirnadaeth i ddatblygu a theilwra gwasanaethau ymhellach.
1.10yp Siaradwr allweddol: Chwalu Rhwystrau, Adeiladu Dyfodol – Ymagwedd System Gyfan at Roi Diwedd ar Ddigartrefedd
Amy Varle
Mae Amy yn eiriolydd anhygoel o wybodus a brwdfrydig dros bobl ddigartref, ar ôl bod yn ddigartref ei hun pan oedd yn ei harddegau.
Yn dilyn ei hymchwil i opsiynau tai amgen a thechnegau arloesol a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r byd, dechreuodd Amy eirioli’n angerddol dros ymagwedd ‘Tai yn Gyntaf’ tuag at ddigartrefedd yng Nghymru. Wedi’i noddi gan yr NHF, wedyn cyhoeddodd ddogfen strategaeth fanwl ‘Social Property Investment: Pioneering Strategies for 21st Century Homelessness Prevention and Response’, gan ei rhannu gyda gwneuthurwyr polisi allweddol yn cynnwys y Prif Weinidog a chael sylw cadarnhaol gan eiriolwyr blaenllaw digartrefedd a cyfiawnder cymdeithasol tebyg i’r Big Issue ac Amnest Rhyngwladol.
Hyd yma, mae Amy wedi darparu datrysiadau digartrefedd yn uniongyrchol i dros 1,000 o unigolion ac arbedion o £25 miliwn yn dilyn gwerthusiad peilot yn 20/21.
13.50yp Gweithdai
1. Carcharorion yn adeiladu cartrefi(PBH)
Sophie Baker
Jason Bassett, Dragonheart Homes
Mae PBH yn rhaglen flaengar sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n dod â’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ynghyd i ryddhau tir i ddarparu cartrefi cynaliadwy fforddiadwy, safon uchel a charbon isel, gan hefyd gynnig cyfleoedd gwaith i garcharorion i’w galluogi i droi eu bywydau o amgylch a gostwng aildroseddu.
Yn y gweithdy yma bydd Sophie Baker, rheolwr Rhaglen PBH, yn trafod sut mae’n gweithio a sut y gall eich sefydliad gymryd rhan, p’un ai ydych yn y sector cyhoeddus, yn dirfeddiannwr sydd yn dymuno cyflenwi tai neu’n adeiladwr tai sydd â diddordeb mewn gweithio gyda charcharorion.
2. Mynd i’r afael â gorlenwi drwy drawsnewid atigau
Mike Reardon, LoftPro, a Eli Foxwell, Tai Taff
Gan sylweddoli fod gorlenwi yn broblem allweddol yn eu cartrefi, dechreuodd Taf Tai ar raglen trawsnewid atigau gyda Loft Pro yn ddiweddar i wella ansawdd bywyd ar gyfer eu tenantiaid a hefyd alluogi teuluoedd i barhau i fyw’n lleol.
Dewch i glywed am brofiadau Tai Taf a Loft Pro ar y prosiect hwn, yn cynnwys blaenoriaethau, canlyniadau a’r gwersi a ddysgwyd.
3. Llety Diwylliannol Briodol - There and Back Again
Rhiannon Jones a Sonia Dixon
Mae There and Back Again yn gwmni budd cymunedol sydd â rôl gyda Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Sipsiwn a Theithwyr. Bydd y sesiwn yn rhoi sgwrs agored ac onest am anghenion a phrofiadau’r grŵp hwn a ymyleiddiwyd yn ogystal â gwaith parhaus gyda Tai Pawb i beilota llety mwy priodol.
15.00yp Siaradwr allweddol: Colin Jackson
15.40yp Casgliadau’r Cadeirydd a chau