Cliciwch y botwm isod i gael gwybodaeth am y lleoliad, parcio, arlwyo, cod gwisg a mwy.
8.30yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
8.45yb Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCC 2025
9.45yb Croeso gan y Cadeirydd - Sian Lloyd
9.55yb Araith agoriadol - Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru
10.15yb Prif araith: Jayne Bryant AS, Ysgifennydd y Cabinet dros Lywodraeth
10.40yb Sesiwn Panel - Safbwyntiau ar greu lle: O arfer lleol i flaenoriaeth genedlaethol
Sut mae symud creu lle o “braf i’w gael” i flaenoriaeth genedlaethol greiddiol? Mae’r sesiwn yn ymchwilio’r hyn mae’n ei gymryd go iawn i adeiladu cymunedau ffyniannus. Daethom ag arweinwyr ynghyd sy’n gweithredu ar bob lefel o adfywio i ymchwilio sut i gysylltu:
Strategaeth Ranbarthol: Mike Brough (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) ar y weledigaeth ar gyfer twf economaidd a buddsoddiad graddfa fawr.
Gweithredu Cymunedol: Adam Kennerley (DTA Cymru) ar rymuso adfywio “o’r gwaelod i fyny” a pherchnogaeth gymunedol.
Cyflenwi Tai: Sian Diaz (Lovell) ar gyflenwi prosiectau maint canolig i fawr, yn cynnwys o fewn y sector cymdeithasau tai
Gan adeiladu ar y safbwyntiau ymarferol hyn, bydd y panel wedyn y troi at y dyfodol. Mae hon yn drafodaeth hollbwysig ar y polisïau model, y modelau cyllido a’r partneriaethau strategol rydym eu hangen gan Lywodraeth nesaf Cymru i wneud creu lle yn wirioneddol yn realaeth i bawb.
11.20yb Lluniaeth, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
11.44yb Lansio HIVE UK
Andrew van Doorn, Prif Weithredwr, HACT
11.55yb Sesiwn Panel - Tai ar Draws Cenhedloedd y Deyrnas Unedig: Polisi, Grym a Newid
Mae Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn ail-lunio blaenoriaethau yn San Steffan, gallai newidiadau gwleidyddol yng Nghymru a’r Alban ddal i ailddiffinio uchelgeisiau tai, maes a ddatganolwyd.
Gyda chyllidebau yn dyn, galw cynyddol am dai ac ansicrwydd gwleidyddol, bydd y sesiwn yma yn ymchwilio sut mae’r sector tai ym mhob cenedl yn addasu, dylanwadu ac arwain drwy newid.
Mewn sgwrs gyda:
Kate Henderson, NHF
Richard Meade, SFHA
Seamus Leheny, NIFHA
12.40yp Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
1.40yp Gweithdai
Arwain drwy newid: Trin tensiynau arweinyddiaeth mewn cyfnodau anodd
Y Lab
Mewn hinsawdd o newid gweithredol sylweddol a chyfyngiadau ar adnoddau, mae pwysau enfawr ar dimau arweinyddiaeth. Gall hyn yn aml arwain at densiynau mewnol sy’n tynnu ffocws o’r genhadaeth greiddiol. Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn a gynlluniwyd fel fforwm gyda hwylusydd ar gyfer trafodaeth onest, byddwn yn ymchwilio strategaethau ymarferol ar gyfer llywio’r heriau hyn, trin sgyrsiau anodd mewn modd cynhyrchiol a sicrhau y gall eich tîm arweinyddiaeth symud ymlaen yn gydnaws a chydnerth pan mae’n cyfrif fwyaf.
Jemma MacLean, Insight HRC
Safbwynt ffres: Profiad tai myfyrwyr
Yr Hyb Dysgu
A ydym o ddifri yn diwallu anghenion y genhedlaeth nesaf? Mae’r sesiwn hanfodol yma yn cynnig safbwynt uniongyrchol a hanfodol ar yr hyn sydd ar feddwl myfyrwyr. Bydd yn gyfle i glywed o lygad y ffynnon am y realaeth tai sy’n wynebu myfyrwyr heddiw – o fforddiadwyedd a’r argyfwng costau byw i safonau gwael ac ansicrwydd. Mae hwn yn gyfle hanfodol i ddeall pryderon a dyheadau pobl ifanc yng Nghymru ac ymchwilio sut y gall cymdeithasau tai ymgysylltu’n well â a darparu datrysiadau ar gyfer y rhan allweddol hon o’n sylfaen tenantiaid a chydweithwyr.
Deio Owen, NUS Cymru
Grym bwyd: Partneriaeth Bwyd Da
Theatr Wyddoniaeth
Mae ansicrwydd bwyd yn her hollbwysig ar gyfer ein tenantiaid ac mae cymdeithasau tai mewn sefyllfa unigryw i helpu. Bydd y sesiwn yn edrych ar rym partneriaethau strategol i fynd i’r afael ar raddfa fawr â thlodi bwyd. Cawn gipolwg ar gynllun “Bwyd Da”, partneriaeth menter gymdeithasol rhwng Cyngor Sir y Fflint, Can Cook ac un o’n haelodau, Clwyd Alyn. Cewch glywed sut mae’r model blaengar hwn yn cyflenwi degau o filoedd o brydau bwyd i breswylwyr, cefnogi staff cymdeithasau tai, mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a defnyddio bwyd fel cyfrwng i adeiladu cymunedau iachach a mwy cydnerth.
Ed Hughes, ClwydAlyn
Llwybr i’r Bwrdd: Model wedi’i brofi ar gyfer sector mwy amrywiol
Prif Lwyfan
Mae llywodraethiant da yn mynnu fod ein byrddau yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Mae’r sesiwn yma’n edrych yn fanwl ar raglen llwyddiannus a chydweithiol “Llwybr i’r Bwrdd” a luniwyd y benodol i gefnogi a darparu unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig i ddod yn "barod ar gyfer bwrdd”. Bydd cyfle i glywed o lygad y ffynnon am sut mae’r bartneriaeth hon a gaiff ei harwain gan y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn darparu hyfforddiant wedi ei strwythuro, mentoriaeth ac arsylwi ar y byd go iawn i ddatblygu arweinwyr newydd. Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd ag ymroddiad i sicrhau amrywiaeth mewn arweinyddiaeth, mynd i’r afael â than-gynrychiolaeth ac adeiladu strwythur llywodraethu gwirioneddol gynhwysol ar gyfer y dyfodol.
Afshan Iqbal, CCHA
2.40yp Lluniaeth, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
3.05yp Gweithdai
Beth mae ein tenantiaid yn ei ddweud wrthym? Briffiad gan TPAS Cymru
Y Lab
Beth yw pryderon byd go iawn, blaenoriaethau a phrofiadau tenantiaid ledled Cymru heddiw? Caiff y sesiwn hollbwysig hon ei harwain gan TPAS Cymru a bydd yn rhannu trosolwg cynhwysfawr o’r tueddiadau allweddol, adborth a’r materion a glywant ar lawr gwlad.
Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cael darlun clir o safbwynt y tenant i lywio darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.
David Wilton, TPAS Cymru
Cyrraedd dyfodol gwyrddach: Dull gweithredu seiliedig ar ddeilliannau
Yr Hyb Dysgu
Rydym i gyd yn rhannu’r nod o ddyfodol gwyrddach, ond sut mae cyrraedd yno yn effeithiol a fforddiadwy? Mae’r sesiwn yma yn herio dulliau traddodiadol o ôl-osod, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar fodel seiliedig ar ganlyniadau. Ymunwch â ni i ymchwilio sut y gall cynllunio ac ariannu rhaglenni o amgylch deilliannau clir a mesuradwy – tebyg i well iechyd, biliau is a gostwng carbon – ddatgloi buddsoddiad newydd a sicrhau fod ein prosiectau yn sicrhau gwerth real a pharhaus i denantiaid.
James Williams, Sero
Rheoli newid sefydliadol
Theatr Wyddoniaeth
Mae newid sefydliadol yn anochel – ond mae rheoli hynny yn effeithlon tra’n parhau i gydymffurfio gyda chyfraith cyflogaeth sy’n esblygu yn her gynyddol i arweinwyr tai yng Nghymru.
Yn y sesiwn yma, bydd cyfreithiwr cyflogaeth profiadol yn trafod y datblygiadau cyfreithiol diweddaraf sy’n llywio gwaith adnoddau dynol, o ailstrwythuro gweithlu a dileu swyddi i weithio hybrid a chysylltiadau â chyflogeion. Bydd y sesiwn yn ymchwilio sut y gall uwch arweinwyr a thimau adnoddau dynol lywio eu ffordd yn hyderus drwy’r newidiadau hyn ac yn gyfreithlon, gan ddiogelu integriti sefydliad a llesiant staff.
Drwy enghreifftiau ymarferol a gwybodaeth gyfreithiol, caiff cynrychiolwyr ddealltwriaeth gliriach o:
Ystyriaethau cyfreithiol wrth weithredu newid sefydliadol neu ailstrwythuro
Rheoli risg gan gadw tegwch, tryloywder ac ymddiriedaeth
Adeiladu dull rhagweithiol a chadarn yn gyfreithiol at reoli pobl
Mae’r sesiwn hon yn hanfodol ar gyfer gyfarwyddwyr adnoddau dynol, prif weithredwyr ac uwch randdeiliaid sydd â rôl allweddol mewn llunio newid sefydliadol a sicrhau cydymffurfiaeth mewn tirlun polisi sy’n esblygu.
Louise Price, Hugh James
Deallusrwydd artiffisial gyda diben: Galluogi trawsnewid tai
Prif Lwyfan
Mae deallusrwydd artiffisial yma ond beth mae’n ei olygu go iawn ar gyfer cymdeithasau tai Cymru? Bydd y sesiwn yma yn torri trwy’r sŵn i roi canllawiau clir ar brofiad ymarferol cymdeithas fawr yn Lloegr. Byddwn yn dechrau drwy egluro deallusrwydd artiffisial: beth yw’r gwahanol fathau, a beth sy’n bolisi realistig ar ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer ein sector? Byddwn wedyn yn ymchwilio cynllun ymarferol o achosion:
Nawr: Beth fedrwn ni ei wneud heddiw gyda, er enghraifft, sgyrsfotiau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio cyfathrebu tenantiaid?
Tymor Canol: Sut fedrwn ni ddefnyddio dadansoddeg rhagfynegol ar gyfer atgyweiriadau, lleithder a chymorth tenantiaeth?
Hirdymor: Sut olwg fydd ar ‘gymdeithas tai y dyfodol’ mewn 10 mlynedd? Golwg ar sut y gall dyfodol tai deallus yn canolbwyntio ar bobl edrych a sut mae adeiladu’r fframwaith moesegol i gyrraedd yno yn ddigonol.
Dyma’ch briffiad hanfodol ar y newid technolegol mwyaf yn ein cyfnod, gyda ffocws ar y cyfleoedd a’r heriau moesegol ar gyfer ein staff a thenantiaid.
Jon Cocker, Platform Housing
4.15yp Mewn sgwrs gyda Vicky Spratt: Llwybr ymlaen ar gyfer tai yng Nghymru
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ddiddorol tu hwnt wrth i Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol CHC, eistedd i lawr gyda Vicky Spratt – un o newyddiadwyr ac ymgyrchwyr tai mwyaf craff Prydain. Bydd y sgwrs strwythuredig hon yn symud o’ch cyd-destun presennol i’n llwybr ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn ymchwilio effeithiau byd go iawn yr argyfwng tai ar bobl a chymunedau heddiw, cyn gwylio’r gorwel i ddadansoddi’r newidiadau polisi allweddol (yng Nghymru a hefyd y Deyrnas Unedig) fydd yn dylanwadu ar ein cyd-destun am flynyddoedd i ddod. Yn olaf, byddant yn trafod beth yw’r cyfle unigryw ar gyfer Cymru. Fel “cyfaill beirniadol”, bydd Vicky yn rhannu ei sylwadau ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o daith Lloegr a sut y gall cymdeithasau tai Cymru baratoi i chwarae ei rhan yn llawn yn ystod y cyfnod gwleidyddol ac economaidd newidiol hwn.
3.15yp Lluniaeth, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
4.45yp Diwedd Diwrnod 1 – Sylwadau’r Cadeirydd
5.00yp Derbyniad diodydd a dangosiad ffilm, gyda chodi arian ar gyfer Cymru Football Foundation
7.00yp Diodydd rhwydweithio yn The Dock
8.45yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
9.50yb Cyflwyniad i Ddiwrnod 2 – Sian Lloyd, cadeirydd y gynhadledd
10.10yb Prif Araith: Map gwleidyddol newydd i Gymru
Bydd etholiad 2026 i Senedd Cymru yn wahanol i bob un a fu o’r blaen. Mae Senedd fwy a system bleidleisio newydd sbon yn golygu fod map gwleidyddol Cymru ar fin cael ei ail-lunio. Yn y brif araith hanfodol hon bydd Dr Jac Larner o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol dybryd yr ychydig flynyddoedd diwethaf cyn esbonio yn union sut y bydd y system etholiadol sefydliadol newydd yma yn gweithio. Bydd wedyn yn rhoi rhagolwg arbenigol o ganlyniadau 2026. Yn hanfodol i ni, bydd Dr Larner yn rhannu gwybodaeth seiliedig ar ddata ar yr hyn mae pleidleiswyr Cymru yn ei feddwl go iawn am y materion allweddol sy’n eu hwynebu, eu cymunedau a’r wlad – a lle mae tai yn ffitio mewn i’r darlun hwnnw.
10.40yb Sesiwn Panel - Y flwyddyn i ddod: Gwleidyddiaeth, polisi a phobl
Sut mae cynllunio ar gyfer dyfodol sydd mor ansicr? Bydd y sesiwn panel hollbwysig yma yn gwylio’r gorwel am y newidiadau allweddol y gallwn eu disgwyl, gan roi’r ddealltwriaeth strategol sydd ei hangen i ganfod eich ffordd drwy’r heriau a’r cyfleoedd i ddod.
Dyma’ch briffiad lefel uchel gan dri o brif arbenigwyr Cymru, fydd yn cysylltu’r dotiau rhwng:
Gwleidyddiaeth: Dr Jac Larner (Prifysgol Caerdydd) fydd yn rhoi dadansoddiad gwleidyddol a’r hyn i’w ddisgwyl yn y cyfnod cyn etholiadau 2026 i Senedd Cymru.
Polisi: Nerys Evans (Cavendish Cymru) fydd yn cynnig cipolwg o’r tu mewn ar y datblygiadau polisi a’r realaeth wleidyddol sy’n llunio penderfyniadau’r llywodraeth.
Pobl: Dr Steffan Evans (Sefydliad Bevan) fydd yn dadansoddi’r rhagolygon economaidd a’r tueddiadau cymdeithasol sy’n effeithio ar ein tenantiaid, o gostau byw i dlodi ac anghydraddoldeb.
11.10yb Diogelwch Adeiladau: Ydych chi’n barod?
Mae’r don nesaf o ddeddfwriaeth diogelwch adeiladau ar ei ffordd ac mae’r goblygiadau i arweinwyr yn sylweddol. Yn y briffiad hanfodol hwn, bydd Mark London o Devonshires yn torri drwy’r cymhlethdod. Bydd yn rhoi canllawiau lefel uchel ar y camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd nawr i reoli risg, sicrhau cydymffurfiaeth a sefydli diwylliant o ddiogelwch cyn i’r newidiadau ddod i rym.
11.30yb Lluniaeth, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
11.50yb Gweithdai
Tu hwnt i’r strwythur: Arwain uno a diwylliant gyda meddwl systemau
Y Lab
Yn aml caiff uno – neu unrhyw newid sefydliadol mawr – ei weld fel rhywbeth strwythurol. Ond caiff ei lwyddiant gwirioneddol ei benderfynu gan ddiwylliant, arweinyddiaeth a dealltwriaeth ddofn o wasanaeth tenantiaid. Mae’r sesiwn yma yn ymchwilio sut mae meddwl systemau yn rhoi dull arweinyddiaeth cadarn i lywio’r ffordd drwy’r cymhlethdod hwn. Clywch gan arbenigwyr yn Vanguard Wales ar yr hyn y mae’r egwyddor hon yn ei olygu’n ymarferol, cyn i Debbie Green, Prif Swyddog Gweithredol Beacon rannu ei stori ei hun o ddefnyddio’r egwyddorion hyn i arwain eu huno yn ddiweddar, gan sicrhau ffocws di-baid ar ddiwylliant, rhagoriaeth a’r effaith ar denantiaid.
Debbie Green, Beacon Cymru
Patrick Hoare, Beacon Cymru
Toby Rubbra, Vanguard Wales
Delio yn sensitif gyda chamwybodaeth: Pecyn cymorth ar gyfer ymgysylltu
Yr Hwb Dysgu
Bu newid sylweddol mewn arferion gweithio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae’r angen yn parhau i ganfod ffyrdd arloesol i ddenu a chadw staff talentog. Yn y sesiwn yma, byddwn yn ymchwilio’r cymhlethdodau sy’n wynebu sefydliadau wrth arbrofi gyda dulliau gweithredu newydd drwy drafod profiadau go iawn Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol. Byddwn yn clywed gan arbenigwyr cyfreithiol a seicolegol ar sut i gydbwyso arloesedd a risg tra’n sicrhau y caiff y canlyniadau a ddymunir eu cyflawni mewn gwirionedd.
Gan ddod ynghyd ag arbenigedd Rhiannon Dale, partner yn nhîm Cyflogaeth a Gwasanaethau Adnoddau Dynol Hugh James, Pip Gwynn o Insight HRC yn ogystal ag Emma Howells a Gail Walker o Cymoedd i Arfordir a Stacy Thomas a Ruth Llewellyn o Cartrefi Cymoedd Merthyr, bydd y drafodaeth hon yn ymchwilio realaeth ymarferol gweithio hyblyg ac arferion gweithio arloesol eraill, yn ogystal â’r fframwaith cyfreithiol i ddatblygu’r math o sefydliad rydych eisiau bod a sicrhau’r diwylliant gweithle sy’n cyflawni eich amcanion strategol.
Catherine Evans, Trivallis
Glasbrint ar gyfer y dyfodol: Tu mewn i brosiect Tai ar y Cyd
Theatr Gwyddoniaeth
Mae Tai ar y Cyd yn un o’r cynlluniau ar y cyd mwyaf uchelgeisiol yn hanes tai yng Nghymru. Gan ddod â 25 landlord cymdeithasol ynghyd, mae’r prosiect wedi cyd-greu llyfr patrwm a manyleb perfformiad a gaiff eu rhannu i chwyldroi’r ffordd yr ydym yn adeiladu cartrefi newydd. Mae hwn yn gyfle gwych i glywed am gynnydd y prosiect, heriau cydweithio ar raddfa fawr a sut mae landlordiaid yn prototeipio yr adnoddau newydd hyn. Dewch i weld sut olwg sydd ar ddyfodol datblygu tai yng Nghymru yn y dyfodol a sut y gallwch chwarae eich rhan.
Steve Cranston, Llywodraeth Cymru
Y flwyddyn i ddod: Gwleidyddiaeth, polisi a phobl
Prif Lwyfan
Mae angen strategaeth glir, gweithlu medrus a modelau cyflenwi a gafodd eu profi i gyflawni ein huchelgais am sero net. Mae’r sesiwn lefel uchel yma yn rhoi’r darlun strategol cyflawn. Clywch yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru wrth iddi osod y trosolwg strategol cenedlaethol a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer datgarboneiddio. Wedyn bydd Pobl yn trafod y bwlch sgiliau hanfodol, gan amlinellu datrysiadau gweithlu newydd tebyg i’r Llwybr Gyrfaoedd Gwyrdd. Yn olaf, bydd Nesta yn rhannu tystiolaeth hanfodol ar yr hyn sydd yn gweithio go iawn ar lawr gwlad, yn seiliedig ar ei hymchwil ddiweddaraf ar sut i gynyddu cyflenwi yn llwyddiannus a Start at Home, cynllun newydd i adeiladu gweithlu cadarn ar gyfer gosod pympiau gwres.
Rhiannon Phillips, Llywodraeth Cymru
Samantha Howells a Tim Beckinsdale, Grŵp Pobl
Marine Furet, Nesta
1.00yp Y llawlyfr strategol newydd: Pam fod Technoleg bellach yn fusnes i bawb
Carl Miller
Nid dim ond “mater TG “ yw technoleg bellach – mae’n rym strategol creiddiol. Yn y brif araith yma, bydd yr awdur blaenllaw Carl Miller (Demos) yn dadlau fod grymoedd fel deallusrwydd artiffisial, cyflymder camwybodaeth a deinameg newydd ymddiriedaeth yn ail-lunio’r tirlun busnes yn sylfaenol. Bydd yn rhoi briffiad lefel uchel ar sut mae’r realaeth newydd yma yn newid disgwyliadau tenantiaid ac yn creu risgiau a chyfleoedd strategol newydd ar gyfer pob cymdeithas tai. Bydd y sesiwn yn eich herio i feddwl tu hwnt i “dŵls technoleg” a dechrau adeiladu eich llyfr strategol newydd eich hun.
1.30yp Sesiwn Panel - Her ymddiriedaeth: Dysgu gan iechyd, ffydd a’r gymuned
Ymddiriedaeth tenantiaid yw ein hased fwyaf gwerthfawr, eto mae’n fregus ac yn aml yn anodd ei ennill. Mewn oes o gyfryngau cymdeithasol cyflym a chamwybodaeth, sut mae adeiladu cysylltiadau go iawn a pharhaus? Bydd y panel unigryw hwn yn dadlau na all cymdeithasau tai ei wneud ar eu pen eu hunain.
Ymunwch â ni am drafodaeth hollbwysig gyda phanel amrywiol o arweinwyr sy’n meithrin ymddiriedaeth mewn cyd-destunau gwahanol iawn:
Bill Rowlands (Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru)
Leah Morantz (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Catherine Evans (Trivallis)
Matt Batten (Esgobaeth Bangor)
Byddwn yn clywed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am gyfathrebu’n glir ac ateb camwybodaeth; gan y sector ffydd am adeiladu gwreiddiau cymunedol hirdymor a gan y sector digartrefedd am ymgysylltu â’n dinasyddion mwyaf bregus ac anodd eu cyrraedd. Cewch weld sut y caiff y gwersi hyn ei rhoi ar waith yn un o’n cymdeithasau tai mewn sesiwn a gynlluniwyd i roi safbwynt newydd ar adeiladu ymddiriedaeth gwirioneddol a chynaliadwy.
2.00yp Diwedd Diwrnod 2 – Sylwadau’r Cadeirydd
2.10yp Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
3.00yp Diwedd y gynhadledd