Cliciwch y botwm isod i gael gwybodaeth am y lleoliad, parcio, arlwyo, cod gwisg a mwy.
8.45am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
9.30yb Croeso gan y Cadeirydd — Sian Lloyd
Yn newyddiadurwraig a darlledydd profiadol, mae Sian yn wyneb cyfarwydd i wylwyr ledled Prydain o gyflwyno rhaglenni yn cynnwys BBC Breakfast, BBC Crimewatch Roadshow a Panorama. Mae hefyd wedi gohebu ar rai o’r digwyddiadau allweddol mewn hanes diweddar fel uwch ohebydd newyddion ar gyfer rhwydwaith y BBC.
9.40yb Croeso a Gosod y Llwyfan
Gerraint Oakley, Cadeirydd, Cartrefi Cymunedol Cymru
10.00yb Sesiwn Panel — Diwylliant Ystafell Fwrdd: Gwersi o Grenfell
Roedd trychineb Grenfell yn ein atgoffa’n glir am ganlyniadau methiannau llywodraethiant a pheidio gwrando ar lais tenantiaid, gan ysgogi newid sylweddol mewn diwylliant ystafell fwrdd. Bydd y panel yn ymchwilio’r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny - yn y gorffennol a hefyd yn parhau – i sicrhau nad oes trychineb o’r fath byth yn digwydd eto. O’r cynnydd mewn llais tenantiaid i ffocws cryfach ar EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant), byddwn yn trafod sut gall swyddogion llywodraethiant gynnal ac adeiladu ar y cynnydd hwn. Mewn tirlun sy’n esblygu, lle mae pwysau allanol a chynnydd athroniaethau de-pell yn achosi heriau newydd, sut y gall byrddau barhau i feithrin atebolrwydd, cynhwysiant ac ymddiriedaeth? Ymunwch â ni mewn trafodaeth sy’n codi cwr y llen ar ddyfodol diwylliant ystafell fwrdd.
Mewn sgwrs gyda:
David Wilton, TPAS Cymru
Olu Olanrewaju, Altair
Dominic Mika, SWFRS
Alicja Zalesinska, Tai Pawb
11.00yb Egwyl Coffi, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
11.30yb Prif araith — Gwrando, gweithredu, gwella: defnyddio dealltwriaeth strategol o gwynion
Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae gan yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus safbwynt unigryw a gwerthfawr ar berfformiad cymdeithasau tai a gwasanaethau cyhoeddus. Gan ddefnyddio profiad helaeth a chyfoeth o astudiaethau achos, bydd yn rhannu ei dealltwriaeth o ddarpariaeth gwasanaeth cymdeithasau tai, ynghyd ag ystyried yr amodau diwylliannol i greu sefydliadau ffyniannus sy’n cyflawni dros ein cymunedau.
Bydd yn ystyried yr ymagwedd ragweithiol ac ymatebol i drafod cwynion gan gymdeithasau tai mewn modd sydd yn cynyddu bodlonrwydd tenantiaid, adeiladu perthynas gryfach gyda’u cymunedau a hefyd yn arddangos eu hymroddiad i atebolrwydd a llywodraethiant da.
12.10pm Gweithdai
Cryfnau ein hymagwedd at ddeddfwriaeth
Ymunwch â Stuart Ropke, Prif Weithredwr CHC i ystyried y gwersi a ddysgwyd o ddatblygiadau a gweithredu deddfwriaeth ddiweddar, a sut y gallwn barhau i gryfhau ein hymateb ar y cyd.
Llywio caffael: Llywodraethiant, effaith a chyfle
Gyda deddfwriaeth caffael yn esblygu, mae’n rhaid i sefydliadau addasu i barhau i gydymffurfio a hefyd i ddefnyddio’r cyfleoedd a ddaw’r newidiadau hyn. Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio effeithiau ehangach y ddeddfwriaeth caffael newydd, gyda ffocws ar rôl aelodau bwrdd a gweithwyr proffesiynol llywodraethiant wrth sicrhau gweithredu effeithlon. Gyda sylwadau gan Carl Thomas o Lywodraeth Cymru, byddwn yn trafod sut olwg sydd ar lywodraethiant da ar waith – yn cynnwys ymatebion strategol, rheoli risg a sut y gall sefydliadau ymwreiddio arferion gorau i hybu gwerth ac effaith gymdeithasol.
Carl Thomas, Llywodraeth Cymru
Llywio’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol: heriau a strategaethau
Mae’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol wedi wynebu heriau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda dewis cyfyngedig, darparwyr allweddol yn gadael y farchnad gan greu cyfyngiadau galluedd a gorfodi llawer o sefydliadau tai i geisio datrysiadau eraill. Mae bellach arwyddion fod y farchnad yswiriant tai cymdeithasol yn dechrau gwella. Bydd y sesiwn yma yn edrych ar yr esblygiad yn nhirwedd yswiriant tai cymdeithasol, gyda ffocws ar lywodraethiant, rheoli risg a dulliau strategol i sicrhau sicrwydd digonol. Byddwn yn trafod goblygiadau newidiadau yn y farchnad ar gyfer byrddau a gweithwyr proffesiynol risg, ymchwilio arferion gorau ar gyfer lliniaru cysylltiad ac ystyried sut y gall sefydliadau lywio amgylchedd yswiriant cynyddol gymhleth.
Jill Jones, Gallagher
Diogelu rhag Bygythiadau Seiber sy’n Esblygu’n Barhaus
Yn y sesiwn yma, bydd yr Hyb Arloesedd Seiber yn rhoi gwybodaeth ar sut y gall sefydliadau eu diogelu eu hunain yn effeithlon rhag risgiau seiber. Mae bellach yn achos o pryd, nid os, y bydd eich sefydliad yn dioddef ymosodiad seiber. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut i reoli digwyddiadau, rhai egwyddorion pwysig ar gyfer cyfathrebu a rhai camau ymarferol i wella sefyllfa seiberddiogelwch eich sefydliad. Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwella cydnerthedd eu sefydliad ac aros ar flaen bygythiadau seiberddiogelwch.
Andy Dodge, Hyb Arloesedd Seiber
1.10pm Cinio, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
2.00yp Prif Araith — Arloesi gyda hyder tra'n diogelu rhag risg
David Jones, Cadeirydd Anweithredol y DVLA a Chyfarwyddwr Anweithredol yn Ofwat
Mewn byd o ddatblygiadau technolegol cyflym, mae sefydliadau’n wynebu her allweddol: croesawu arloesedd tra’n diogelu rhag risg.
Yn arweinydd profiadol mewn technoleg, rheoleiddio a llywodraethiant, mae gan David Jones wybodaeth werthfawr tu hwnt ar sut i daro’r fantol firain.
Gyda gyrfa yn cwmpasu entrepreneuriaeth technoleg, buddsoddi ac arweinyddiaeth anweithredol ar draws sectorau yn cynnwys gofal iechyd, telathrebu a rheoleiddio ariannol, mae gan David safbwynt unigryw ar ryngdoriad arloesedd a rheoli risg. Ar ôl cynghori sefydliadau fel Ofcom, Ofwat ac Awdurdod Refeniw Cymru, mae’n deall cymhlethdodau llywio newid tra’n cadw cydnerthedd.
Yn y brif araith yma, bydd David yn ymchwilio sut y gall sefydliadau ddefnyddio cyfleoedd newydd heb agor eu hunain i fygythiadau diangen. Gyda phrofiad go iawn a strategaethau ymarferol, bydd yn amlinellu cynllun ar gyfer arweinwyr sy’n dymuno hybu cynnydd tra’n sicrhau llywodraethiant a diogelwch.
Ymunwch â ni am sesiwn ddefnyddiol fydd yn herio syniadau confensiynol a rhoi’r dulliau rydych eu hangen i arloesi yn hyderus.
2.45yp Gweithdai
Cipolwg Cyfreithiol ar gyfer Cymdeithasau Tai: Newidiadau Diweddar Na Fedrwch eu Hanwybyddu
Mae’r sesiwn yma yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol o gonsyrn i chi drwy dynnu sylw at y tri phrif fater fydd yn effeithio arnoch yn 2025 , dynodi tri newid deddfwriaethol i gadw golwg amdanynt a dategu’r tri phrif ddarn o gyngor mae chleientiaid tai eu hangen nawr.
Harriet Morgan, Hugh James
Rheoli risg deallus: Cydbwyso diogeliad a chyfle
Yn aml caiff rheoli risg ei weld fel rhwystr i arloesedd, ond gyda’r ymagwedd gywir, gall fod yn ysgogydd grymus ar gyfer llwyddiant. Yn y gweithdy rhyngweithiol yma, bydd Barcud Shared Services yn ymchwilio sut y gall sefydliadau drin risg yn effeithlon heb fygu cyfleoedd ar gyfer twf ac arloesedd.
Gydag arbenigedd mewn archwilio manwl, caffael, llywodraethiant a rheoli risg, mae Barcud Shared Services yn helpu sefydliadau i gynyddu cydnerthedd, gwella effeithiolrwydd a chyflawni amcanion strategol. Bydd y sesiwn yn rhoi cipolwg ymarferol, astudiaethau achos go iawn a strategaethau llwyddiannus i’ch helpu i ymwreiddio diwylliant rheoli risg rhyngweithiol sy’n cydbwyso cydymffurfiaeth gyda chynnydd.
Wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr, gwneuthurwyr penderfyniadau a gweithwyr proffesiynol risg, bydd y gweithdy hwn yn rhoi’r dulliau i chi droi risg er mantais strategol – hybu effeithiolrwydd, gostwng gorbenion a datgloi cyfleoedd newydd.
Ymunwch â ni i ddysgu sut y gall rheoli risg deallus rymuso dyfodol eich sefydliad, ac nid ei gyfyngu.
Nigel Ireland, Barcud Shared Services
Mae’r cyfan am yr ased! Sut y gall Aelodau Bwrdd siapio pa wasanaethau rheoli asedau a ddarperir a sut y gwneir hynny
Bydd ffocws y sesiwn ar ddefnyddio amser aelodau bwrdd yn well i yrru pa a sut y caiff gwasanaethu rheoli asedau eu darparu. Bydd Kieran yn canolbwyntio ar bwysigrwydd allweddol strategaeth a sicrhau bod ffocws craffu a throsolwg yn parhau ar y pethau sy’n wirioneddol bwysig.
Kieran Colgan, Ark Consultancy
Llywodraethu am effaith – a beth sydd gan ungornau i wneud â’r peth
Ymunwch â Kirsten, Cadeirydd y Bwrdd Caredig a Marcia, y Prif Weithredwr, i glywed sut y bu Caredig yn dysgu cyrsiau o tu hwnt i’r sector i lywio eu dull gweithredu o fewn y Bwrdd ac draws y sefydliad i lywodraethu gydag argraff. Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno’r methodolegau sydd ganddynt.
Marcia Sinfield a Kirsten Achtelstetter, Caredig
3.45yp Egwyl Coffi, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
4.10yp Prif Araith — Seiberddiogelwch fel Rhwymedigaeth Arweinyddiaeth
Andy Dodge, Hyb Arloesedd Seiber
Mae bron bob sefydliad yn dibynnu ar dechnoleg ddigidol i weithredu. Felly mae seiberddiogelwch yn agwedd sylfaenol o waith unrhyw sefydliad. Eto, er ei natur hanfodol, mae llawer o sefydliadau yn dal i ystyried mai technoleg gwybodaeth sy’n llwyr gyfrifol amdano. Mae’r ffordd hon o feddwl yn hen ffasiwn a hefyd yn beryglus. Mae seiberddiogelwch yn gonsyrn ar draws sefydliad, ac mae’r cyfrifoldeb pennaf gydag arweinyddiaeth ar y lefelau uchaf. Mae’n anodd meintioli’r risgiau i enw da sefydliad ond gall y gost bosibl o unioni digwyddiad seiber fod yn sylweddol. Bydd hyn i gyd yn rhoi’r sbotolau ar y tîm arweinyddiaeth.
Bydd Andy yn trafod y tirlun bygythiad seiber sy’n esblygu’n barhaus a’r dystiolaeth ddiweddaraf o’r ‘Cyber security breaches survey’ (DSIT, 2024).
4.40yp Diwedd Diwrnod 1 — Sylwadau’r Cadeirydd
5yp Rhwydweithio gydag arddangoswyr
5.30yp - 6.30yp Derbyniad diodydd a canapes CCC
8.45yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
9.30yb Cyflwyniad i Ddiwrnod Dau
Sian Lloyd, Cadeirydd Cynhadledd
9.40yb Prif Araith — Pam fod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Bwysig ar eich Bwrdd
Claris D'Cruz
Mae Claris D’cruz yn Ymgynghorydd a Hyfforddydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) gyda dros 25 mlynedd o brofiad o gefnogi byrddau nid-er-elw. Bydd Claris yn trafod pam fod EDI a phrofiad bywyd yn bwysig ar eich bwrdd a sut y bydd yn galluogi eich cymdeithas tai i gyflawni ei gweledigaeth a chenhadaeth gyda mwy o effaith. Gan ddefnyddio profiadau byrddau y bu’n eu cefnogi ar eu taith EDI, bydd Claris yn trafod pam fod rhai byrddau yn cwtogi eu hymrwymiadau EDI tra bod eraill yn bwrw ati a beth fedrai canlyniadau gwneud y naill neu’r llall fod.
10.15yb Sesiwn panel — Byrddau cymdeithasau tai: o’r sylfeini i’r dyfodol
Bydd ein panel yn trafod heriau bod yn aelod bwrdd a sicrhau llywodraethiant effeithlon mewn amgylchedd cynyddol gymhleth. Byddwn yn trafod sut mae byrddau wedi esblygu, ymchwilio anghenion y dyfodol a chlywed gwahanol safbwyntiau ar drin llywodraethiant mewn cymdeithasau tai.
Mewn sgwrs gyda:
Tobi Owolabi
Olubunmi Ajayi-Obanewa
Wiard Sterk
Gemma Watkins
10.45yb Egwyl Coffi, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
11.10am Gweithdai
Safonau Iaith – beth allai hyn olygu i’r sector tai?
Bydd Osian Llywelyn, y Dirprwy Gomisiynydd Iaith, yn ymuno â ni i drafod goblygiadau’r Safonau Iaith a’r hyn y gallai’r pontio i’r safonau hyn ei olygu’ yn ymarferol i’r sector. Bydd yn amlinellu sut y bydd swyddfa’r Comisiynydd yn cydweithio gyda chymdeithasau tai ac yn ateb cwestiynau i gefnogi cymdeithasu tai i baratoi ar gyfer y newid yma.
Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd Iaith
Egluro Cyllid: Gweithdai ar gyfer Byrddau
Mae deall y rhifau yn allweddol i wneud pendefyniadau gwybodus – ond gall adroddiadau ariannol weithiau deimlo fel iaith arall. Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn esbonio’r eirfa, gan roi’r dulliau hanfodol i aelodau Bwrdd (a thimau gweithredol) i ddehongli gwybodaeth ariannol yn hyderus, gofyn y cwestiynau cywir a gyrru penderfyniadau strategol. Perffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno cryfhau eu trosolwg ariannol heb fynd ar goll yn y manylion.
Sarah Prescott, Rhedyn Consulting
Mapio diwylliant eich sefydliad
Bydd y sesiwn yma yn rhoi diffiniad clir o beth yw “diwylliant” a’r effaith y gall ei gael ar berfformiad sefydliad. Cewch cyfle i ddefnyddio Map Diwylliant Insight i adnabod y cryfderau a’r risgiau posibl yn eich diwylliant presennol. Bydd y Map yn eich helpu i ganfod “enillion cyflym” i gefnogi’r diwylliant rydych eisiau ei gryfhau a lle i ddechrau newid mwy sylweddol. Yn olaf, bydd y gweithdy yn edrych sut mae diwylliant sefydliadol wedi newid fel canlyniad i weithio hybrid a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer gweithgareddau newid diwylliant.
Pip Gwynm, Insight HRC
Diweddariad Rheoleiddio
Ymunwch â’r gweithdy hanfodol hwn a gyflwynir gan y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol lle bydd cynrychiolwyr yn ystyried materion rheoleiddiol allweddol sy’n llunio’r sector. Bydd y sesiwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr ar yr heriau rheoleiddiol cyfredol ac yn cynnig arweiniad ymarferol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth a gwella safonau tai. Mae’n gyfle i weithwyr proffesiynol tai i gysylltu gyda’r rheoleiddiwr a chael dealltwriaeth ddyfnach o’r datblygiadau diweddaraf yn y sector.
Maria Round ag Amy Bailey, Llywodraeth Cymru
12.10pm Cinio
1.1pm Prif Araith — Creu diwylliant gyda chysylltiad: Deall y profiad dynol
John Sills
Bydd John Sills, awdur blaenllaw a phartner yn The Foundation yn trafod arwyddocâd y profiad dynol. Bydd yn defnyddio ei ymchwil helaeth ac enghreifftiau go iawn i ddangos pam fod profiadau emosiynol yr un mor bwysig â rhai swyddogaethol, a sut y gall sefydliadau ac arweinwyr ddefnyddio hyn.
1.50yp Gweithdai
Diogelu rhag Bygythiadau Seiber sy’n Esblygu’n Barhaus
Yn y sesiwn yma, bydd yr Hyb Arloesedd Seiber yn rhoi gwybodaeth ar sut y gall sefydliadau eu diogelu eu hunain yn effeithlon rhag risgiau seiber. Mae bellach yn achos o pryd, nid os, y bydd eich sefydliad yn dioddef ymosodiad seiber. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut i reoli digwyddiadau, rhai egwyddorion pwysig ar gyfer cyfathrebu a rhai camau ymarferol i wella sefyllfa seiberddiogelwch eich sefydliad. Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwella cydnerthedd eu sefydliad ac aros ar flaen bygythiadau seiberddiogelwch.
Andy Dodge, Hyb Arloesedd Seiber
Llywio’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol: heriau a strategaethau
Mae’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol wedi wynebu heriau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda dewis cyfyngedig, darparwyr allweddol yn gadael y farchnad gan greu cyfyngiadau galluedd a gorfodi llawer o sefydliadau tai i geisio datrysiadau eraill. Mae bellach arwyddion fod y farchnad yswiriant tai cymdeithasol yn dechrau gwella. Bydd y sesiwn yma yn edrych ar yr esblygiad yn nhirwedd yswiriant tai cymdeithasol, gyda ffocws ar lywodraethiant, rheoli risg a dulliau strategol i sicrhau sicrwydd digonol. Byddwn yn trafod goblygiadau newidiadau yn y farchnad ar gyfer byrddau a gweithwyr proffesiynol risg, ymchwilio arferion gorau ar gyfer lliniaru cysylltiad ac ystyried sut y gall sefydliadau lywio amgylchedd yswiriant cynyddol gymhleth.
Jill Jones, Gallagher
Effaith Rheoliadau Defnyddwyr yn Lloegr
Dywedwyd fod cyflwyno safonau defnyddwyr newydd ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr yn ffordd o hybu gwelliant i safonau tai cymdeithasol yn Lloegr. Yn y gweithdy yma bydd Ceri Victory-Rowe yn edrych ar yr effaith a gafodd y safonau hyd yma.
Ceri Victory-Rowe, Campbell Tickell
2.50yp Diwedd y gynhadledd