Croeso i Goleg Cambria!
Mae’r wefan hon wedi’i chynllunio i’ch arwain drwy bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i gadw’n ddiogel, beth sy’n ddisgwyliedig ohonoch fel dysgwr, a sut i gael mynediad at y cymorth, y systemau a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi.
Mae eich cyfnod sefydlu wedi’i rannu’n ddwy ran. Bydd rhai sesiynau’n cael eu cwblhau gyda’ch tiwtor (Cyfnod Sefydlu dan Arweiniad Tiwtor), ac eraill bydd angen i chi eu cwblhau’n annibynnol (Eich Hanfodion Sefydlu). Mae’r ddwy ran yn bwysig ac yn ffurfio rhan ofynnol o’ch cyfnod sefydlu.
Cymerwch eich amser, ewch drwy bob adran yn ofalus, a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth i’w wneud, dyma bethau y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich amser yn y coleg.
Os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, mae cymorth ar gael bob amser drwy eich tiwtor neu eich Hyfforddwr Cynnydd.