Trefnwyr | Organisers

Ers 2017, Silva Nurmio (Prifysgol Helsinki), Peredur Webb-Davies (Prifysgol Bangor), a Jonathan Morris (Prifysgol Caerdydd) sy'n trefnu'r Seminar.

From 2017, Silva Nurmio (University of Helsinki), Peredur Webb-Davies (Bangor University), and Jonathan Morris (Cardiff University) will be organising the Seminar.

Dr Silva Nurmio

Mae Silva yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Helsinki, ac ar hyn o bryd mae hi'n ymchwilio teipoleg enwau unigolynnol (singulatives). Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar forffoleg, semanteg a diacroni o rif gramadegol yn yr ieithoedd Celtaidd ac yn draws-ieithyddol. Gallwch ddarllen rhagor am waith Silva yma.

Silva is a postdoctoral researcher at the University of Helsinki, currently working on the typology of singulatives. Her research interests centre around the morphology, semantics and diachrony of grammatical number, both in the Celtic languages and cross-linguistically. You can read more about Silva's work here.

Ebost (ymholiadau cyffredinol a rhaglen y Seminar) | Email (general enquiries and the Seminar programme): silva.nurmio@helsinki.fi

Dr Peredur Webb-Davies

Mae Peredur Webb-Davies yn Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth y Gymraeg yn yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, Prifysgol Bangor. Archwiliodd ei Ph.D. ar gydgyfeiriant cystrawennol yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfnewid cod. Mae ei ddiddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys sosioieithyddiaeth y Gymraeg, dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg, a newid morffo-gystrawennol yn y Gymraeg. Gallwch ddarllen rhagor am waith Peredur yma.

Peredur Webb-Davies is a Senior Lecturer in Welsh Linguistics at the School of

Linguistics and English Language, Bangor University. His Ph.D. investigated syntactic convergence in Welsh, including code-switching. His research interests also include the sociolinguistics of Welsh, Welsh–English bilingualism and morphosyntactic change in Welsh. You can read more about Peredur's work here.

Ebost (ymholiadau am gofrestru)| Email (enquires about registration): p.davies@bangor.ac.uk

Dr Jonathan Morris

Mae Jonathan Morris yn Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau sosioieithyddol ar ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith. Yn benodol, mae ganddo ddiddordeb mewn amrywio seinegol a ffonolegol yn lleferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg. Gallwch ddarllen rhagor am waith Jonathan yma.

Jonathan Morris is a Senior Lecturer in Linguistics at the School of Welsh, Cardiff University. His research focuses on sociolinguistic aspects of bilingualism and second language acquisition.

In particular, he is interested in phonetic and phonological variation in

Welsh–English bilinguals’ speech. You can read more about Jonathan's work here.

Ebost (ymholiadau am y wefan) | Email (enquiries about the website): morrisj17@caerdydd.ac.uk