Golygwyd gan Rhian Lloyd
Os hoffech gopi o Lais yr Andes wedi ei argraffu, e-bostiwch Rhian ar lloydr263@hwbcymru.net ar gyfer opsiynau os gwelwch yn dda.
Pennaeth: Patricia Urrutia
Llywydd: Alwen Green
Ysgrifennydd: Noe Sanches Jenkins
Trysorydd: Juliana de Oro
Llywodraethwyr
1 : Gwion Elis-Williams
2: Jessica Jones
3: Rudi Tardon
Llywodraethwyr dirprwyol:
1: Ivan Ganga
2: Juan Chiro
3: Evangelina Davies
4: Erica Hammond
Archwilwyr cyfrifon
1: Andrea Davies
2: Denise Mauro
Cynrychiolydd Cyfreithiol:
Margarita Green
Bu i'r Pennaeth a'r staff groesawu’r dysgwyr yn ôl i'r ysgol am y flwyddyn newydd - gan ddathlu 8fed pen-blwydd yr ysgol. Cyffrous iawn oedd cael agor dosbarth cyntaf lefel uwchradd yr Ysgol am y tro cyntaf!
Mawrth
Daeth holl dîm yr ysgol at ei gilydd am ddiwrnod o waith paratoi'r ysgol am flwyddyn newydd. Braf oedd gweld rhieni ac athrawon yr ysgol yn cydweithio i ail beintio'r gemau llawr yn neuadd a choridor yr ysgol.
Cafodd y rhieni gyfle i gwblhau arolwg am ddwyieithrwydd a chymhellion i rieni/gofalwyr ddewis addysg ddwyieithog i’w plant ym Mhatagonia.
Diolch yn fawr iawn Avery Vernon, telynores o Montana am ddod i ymweld â'r ysgol a rhannu ei cherddoriaeth hyfryd.
Daeth criw o ffrindiau o 6ed dosbarth Coleg Dewi Sant, Caerdydd draw am dro i'r ysgol. Roedd y plantos wedi mwynhau treulio amser hefo'r criw yn canu ac yn siarad yn fawr iawn.
Diolch mawr i Jorge de Oro am ddod draw i rannu sesiwn cerddoriaeth hyfryd - cafodd y dysgwyr amser bendigedig yn mwynhau cymaint o alawon hyfryd!
Bu Athrawon Eluned a Rhiannon yn helpu'r myfyrwyr yn ystod y Cwrs lefelu. Da iawn pawb am eich gwaith caled!
Ebrill
Fe groesawyd Athrawes Rhian i'r ysgol o Gymru - bydd yn yr ysgol hyd nes mis Rhagfyr fel rhan o brosiect Iaith Gymraeg y Cyngor Prydeinig.
Cafodd y plantos fwynhau drama bypedau yn cyfleu stori Troy er mwyn dysgu am bwysigrwydd heddwch.
Roedd y dysgwyr ieuengaf wrth eu boddau yn cael stori gan eu ffrindiau Bl6!
Mai
Gyda balchder, aeth holl ddysgwyr Ysgol y Cwm ati i rannu neges gyda phlant Cymru yn cefnogi neges heddwch Urdd Gobaith Cymru
Braf oedd gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ar gyfer drama'r Chwyldro Mis Mai. Cawsom berfformiadau trawiadol gan y plantos - diolch anferthol i'r staff am eu paratoi ac i'r rhieni am ddarparu gwisgoedd hyfryd. Diolch hefyd i staff y gegin am baratoi gwledd ar gyfer pawb wedyn!
Mae Blwyddyn 4 wedi bod yn brysur yn codi arian ar gyfer eu taith i weld y morfilod - cawsom sêl cawl llwyddiannus iawn yn yr ysgol - diolch i bawb a fu'n mor barod i gefnogi!
Roedd dathliadau Diwrnod y Feithrin gwerth chweil yn yr ysgol gyda holl blant y ddau ddosbarth wedi mwynhau llu o weithgareddau amrywiol egnïol a llawn hwyl! Yn ogystal â'r hwyl yn yr ysgol - gafodd y criw i gyd fynd i'r Ganolfan Hamdden i fwynhau hefo gweddill blantos Meithrin y dref - am wych!
Da iawn i holl blantos Ysgol y Cwm a fu'n cystadlu yn Eisteddfod Trevelin - roeddech i gyd yn wych! Diolch mawr i'r holl staff a'r rheini am gefnogi ymarferion a pharatoadau'r plant.
Mehefin
Ydw, dw i'n addo meddai myfyrwyr Gradd 4 wrth iddynt wneud addewid o ffyddlondeb i’w baner. Bu yna ddiwrnod hyfryd o ddathlu yn yr ysgol ar gyfer y plantos a’u teuluoedd gyda gwledd o ddawnsio, canu….ac wrth gwrs, teisen!
Ar Ddiwrnod y Llyfr, bu'r dysgwyr hynaf yn darllen hefo gweddill y plant - cafodd pawb fwynhau llyfr neu ddau.
Bu i'r plantos fwynhau wythnos yr Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn o bell drwy ddilyn hanes Seren yno a gwylio eu ffrindiau o'r Gaiman yn cystadlu yno! Bu i bawb fwynhau addurno'r ysgol hefo lluniau o Mr Urdd a bu Blwyddyn 6 yn dylunio Coron Eisteddfod eu hunain yn ogystal!
Rhoddwyd perfformiad gwych o hanes Tywysoges Gwenllïan ymlaen gan griw Blwyddyn 5 ar ddiwrnod ei chofio! Roedd yr actio a'r gwisgoedd a'r lleisio i'r dim - da iawn wir bawb!
Gorffennaf
Mae'r staff wedi bod yn brysur yn coladu a chatalogio'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y Llyfrgell Gymraeg. Braf yw gweld y plantos yn pori drwyddynt liwt eu hunain yn ystod amseroedd egwyl neu gyfnodau rhydd. Mae plant o bob oedran yn mwynhau gwrando ar stori gan oedolyn neu gan ffrind hefyd! Mae Athrawes Rhian wedi graddoli'r cyfresi darllen fel eu bod yn gallu cael eu defnyddio i ymarfer sgiliau darllen Cymraeg yn wahaniaethol.
Mae'r plantos i gyd yn mwynhau'r Copa America - ac mae cynnwrf mawr nawr fod Argentina yn y gemau cynderfynol! Mae criw Blwyddyn 6 wedi creu fideo bach yn disgrifio eu teimladau am y twrnamaint mawr - Amdani Argentina!
Roedd pawb yn yr ysgol wrth eu boddau yn croesawu Athrawes Jessica a Seren adref ar ôl eu cyfnod hir i ffwrdd yn teithio Cymru hefo'r Mudiad Meithrin. Diolch mawr i Athrawes Fran ac i Athrawes Sara am helpu i gyflenwi'r gwersi Cymraeg yn ystod y cyfnod. Roedd gan blantos Blwyddyn 6 lu o gwestiynau i ofyn i'r teithwyr ar eu dychweliad!
Mae grŵp Dysgu Cymraeg - Mynediad - gydag Athrawes Xime yn parhau i symud ymlaen a gwneud cynnydd pendant. Maent yn cyfarfod ar fore Sadwrn yn Ysgol y Cwm. Diolch mawr i Xime am ei gwaith hefo'r criw ac i bawb sydd wedi ymweld â'r gwersi er mwyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer eu sgiliau sgwrsio!
Mae Ysgol y Cwm yn cydymdeimlo â theulu Charles Arch ac yn cofio yn ddiolchgar am ba mor hael y buodd tuag at yr ysgol a'r gymuned Gymraeg yma yng Nghwm Hyfryd.
Roedd Charles Arch yn aelod o Gymdeithas yr Hoelion Wyth, a ymwelodd ag Ysgol y Cwm, Hydref 2018.
Alwen Green - Llywydd yr Ysgol
Llongyfarchiadau i Ddawnswyr Mynydd Llwyd am ennill y wobr gyntaf ym MHOB dawns iddyn nhw gystadlu ynddi yn Eisteddfod Trevelin - am gamp! Diolch mawr i Sibyl am ei gwaith yn paratoi'r plantos a da iawn chi genod am eich gwaith caled a'ch ymdoddiad!
Mae Clwb Plant Esquel yn parhau i ffynnu o dan ofalaeth Athrawon Noe a Diana ac wedi mwynhau nifer o weithgareddau yn ystod y tymor, megis: gemau, dawnsio hefo Jessi, sgwrsio, coginio, ysgrifennu a llawer mwy!
Mae'r dosbarthiadau'r oedolion yn symud ymlaen ar wib gyda bob criw awyddus a chydwybodol yn gwneud cynnydd cadarn o dan arweiniad y tiwtoriaid. Llongyfarchiadau mawr i'r rheini ohonynt sydd wedi sefyll arholiadau CBAC a diolch i'r tiwtoriaid a fu'n rhan o'r trefniadau hynny.
Fe drefnwyd swper arbennig o hyfryd ar gyfer croesawu ymwelwyr o Gymru - am garedig! Roedd yn gyfle am sgwrs, i rannu hanesion ac i gyd-ganu caneuon ac emynau Cymreig bendigedig. Bu i bawb fwynhau’r noson yn fawr iawn - diolch o galon i bawb a fu'n rhan o'r trefniadau.
Cafodd y dosbarthiadau ymweliadau arbennig gan fyfyrwyr o Goleg Dewi Sant - braf oedd eu croeswu i ymweld a'r grwpiau oedolion.
Ar Chwefror 25, bu i'r Gymdeithas Gymraeg gymryd rhan mewn Gorymdaith pen-blwydd Esquel. Tywynnodd yr haul ar y diwrnod ac fe gafodd y dorf olygfa arbennig o hardd o wisgoedd traddodiadol a baneri yn y dref.
Daeth Mari Lwyd ei hun i Esquel ar gyfer dathliadau Heuldro'r Gaeaf - roedd pawb yn edrych yn wych yn eu gwisgoedd ar gyfer y noson ysbrydol yma.
Diolch yn fawr i Sebastian Perez Parry hefyd am alw heibio'r Gymdeithas. Mae Sebastian yn aelod o grŵp Tŷ Toshke o Buerto Madryn ac wedi gweithio i greu casgliad o gerddoriaeth draddodiadol ar gyfer dawnsio. Daeth draw i Esquel i gyflwyno ei lyfr 'Cancianero de Musica', sy'n cynnwys rhai o'r sgoriau cerddoriaeth offerynnol Cymraeg a ddefnyddir fwyaf ym Mhatagonia.
Bu Cyngerdd a the Cymreig: "Melodías del mundo " gyda Arturo Lowndes yn y Ganolfan lle gafwyd gwledd o gerddoriaeth gyda'r cerddor. Braf oedd cael cyfle i ffrindiau o Esquel a Trevelin yn dod at eu gilydd i fwynhau. Diolch mawr i bawb a fu mor brysur yn coginio'r danteithion blasus ar ein cyfer!
Am Eisteddfod wych a chafwyd eto eleni yn Nhrevelin gydag ein ffrindiau, cydweithwyr a theuluoedd yn tyrru o bob rhan o'r dalaith i Neuadd Ysgol 57 er mwyn cael ymuno yn y cystadlu, y cefnogi a'r cymdeithasu.
Gwelwyd toreth o dalent ar y llwyfan, gyda misoedd o waith paratoi, ymarfer a mireinio diddiwedd yn amlwg wedi bod er mwyn gallu cyflawni perfformiadau ar y safon uchel a welwyd.
Llongyfarchiadau arbennig i enillwyr y prif gystadlaethau llenyddiaeth:
Medal Cerdd hyd at 16 oed: Clara Di Nonno
Coron yr Eisteddfod: Noe Sánchez Jenkins
Cadair yr Eisteddfod: Ana Chiabrando Rees
Diolch mawr i'r beirniaid:
Llinos Howells ac Ana Chiabrando Rees - llefaru Cymraeg
Viviana Tymoczuk, Karen Roberts a Sylvia Baldor - cyflwyniadau cerddorol
Rhaid diolch hefyd am yr holl roddion ar gyfer gwobrwyo ac i'r unigolion oedd wedi cydweithio i baratoi'r neuadd ac i ddarparu adnoddau. Ni fyddai'r digwyddiad yn bosib heb ymrwymiad y gwirfoddolwyr dygn hyn.
Yn ngardd fy mhlentyndod
ro’n i’n cydio yn fy hafod,
ac wrth fwynhau’r tawelwch,
dyna oedd fy lle heddwch.
Ac er aeth blynyddoedd heibio
nid ydy o’n hawdd anghofio
holl anturiaethau bob gwyliau
rhwng y teisennau a´r blodau.
Teisennau Nain a’i straeon
hen feddyliau o’i harferion.
Blodau Taid a’u persawr braf
a’i falchder o’i gynhaeaf.
Hoffais weld ymwelwyr Nain
yn swyno gan aroglau ei chegin,
Garais glywed piano Taid
a’i eiriau hudol yn fy enaid.
Daeth ystorom di-ben-draw
a thynnu eu bywydau wrth fy llaw.
Llifodd dagrau a throi’n law
a’i adael fy myd yn ddistaw.
Gwna i guddio eto yn fy lle heddychlon
bob tro mae fy mywyd yn greulon.
Gwna i gasglu yn ôl fy adfeilion
a’u rhoi yn ei lle fy mreuddwydion.
Yma fydd o hyd lle heddwch,
dyma le mae fy niolchgarwch
Dyna’r lle dw i’n teimlo’n ddiogel
dyma le y mae fy ngorwel.
A nawr, wrth edrych yn ôl - synna’ n rhwth
swyn yr addawol
ac ar fenter amserol,
Ionawr roedd y sawr siriol.
Gernoswen
Cystadleuaeth Rhif 3: Hunangofiant
“Hen goeden yr ardd”
Teimlaf yn hapus iawn am y cyfle yma o ddweud fy hanes. Maitén yw fy enw.
Hedyn bach yn hedfan yn yr awyr oeddwn i, llawer blwyddyn yn ôl nes cefais ddisgyn mewn gardd hynod o arbennig mewn lle a elwir Cwm Hyfryd.
Mewn blwyddyn roeddwn wedi eguno a dechre thyfu dim yn bell o goeden tamarisco ynghanol blodau Lizzie Mary, merch ifanc a ddaeth o Gymru . Roedd hi´n hynod o weithgar ac yn gofalu am roi cylch o gerrig o´m cwmpas i gadw´r defaid i ffwrdd. Daeth hi i fyw yma pan briododd â Griffith a derbyn hanner lîg o dir gan ei dad yntau, sef John Griffiths.
Roedd tywydd wrth droed yr Andes yn ddelfrydol i ni y Maitenes. Digon o law i´n cadw yn wyrdd gydol y flwyddyn a thir ffrwythlon y ffarm yn rhoi egni a maeth oedd angen i dyfu yn gryf. Cofiaf weld y cnwd cyntaf o wenith cafod ei hau ganllath i ffwrdd. Roedd llawenydd yn y Cwm i gyd pan ddath y peiriant dyrnu?i gynhaefu? I godi´r cynheuaf i wneud blawd oedd mor bryn i wneud bara.
Ymhen amser cafodd y teulu blant. Dau fachgen i ddechre a wedyn tair merch cyn i´r olaf gyrraedd, oedd yn fachgen eto. Cefais fy amgylchynu wedyn gyda bariau pren uchel i gadw´r gwartheg i ffwrdd . Erbyn hyn oeddwn yn rhan o´r teulu gan fy mod yn sefyll o flaen y ty. Deuau y plant a ffrindiau i eistedd dan fy nghysgod i gael mate yn gynnar yn y pnawn, a dyna beth oedd sgwrsio. Dyna pryd glywais am briodas gyntaf y mab iengaf, sef Gwili. Well gan ei gariad oedd cael paned o dê yn lle mate, gwledd i mi oedd g weld y bwrdd yn dod i´r ardd gyda´r holl ddanteithion o fara a menyn cartre a chacennau o bob lliw, a´r chwarae a´r chwerthyn yn dechre a mynd ymlaen tan i´r haul ostwng.
Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth newyddion da eto, un o´r merched tro yma oedd yn mynd i briodi . Digon o waith i baratoi gan fod y seremoni a´r parti yn cael ei gadw dan fy nghysgod. Roedd y gwair yn cael ei gadw yn fyr gan y defaid a´r glaw yn ddigon i’w ddyfrhau.
Fy nghyfaill hoff oedd Lizzi, deiau i eistedd wrth fy ochor i orffwys weithiau, neu i ddarllen a gweddio. Roeddwn yn gwrando arni yn canu hefyd ac yn gwybod am phob un o’i phryderon a’i llawenydd. Cofiaf pobol o Gymru o gwmpas y lle, daeth yr awdur Richard Llewelyn aí wraig yma hefyd a chlywais nhw´n siarad Saesneg, oedd yn hollol ddiarth i fi.
Daeth tro ar fywyd , ac fe gollais ei chwmni yn fawr. Roedd hi mor hoff. Deuau meddyg draw yn amal i gael pwysau ei gwaed i lawr, gan adael ei gar yn fy ngofal. Gofalodd y plant am dani, yn enwedig y tair ferch, tan y funud olaf. Cafodd ei chorff orffwys ym mynwent y dref. Gwelais llawer i angladd wedi hynny.
Rwyf wedi bod yn hafan deg i phob math o adar, y rhai duon yn dod yn haid cyn glaw, y corchwiglan yn nythu o´m cwmpas yn flynyddol, a´r gilfinhir yn dod am ddwr o ffos oedd yn rhedeg allan o’r ardd ffrwythau.
Pan oeddwn wedi tyfu i fynny yn goeden hardd daeth pedwar o wyrion Lizzie i fyw i´r hen dy cafodd ei adeiladu yn 1915 a’i alw yn Troedd yr Orsedd, dyna fuodd amser hapusaf fy mywyd. Carau´r plant ddod i chwarae wrth fy nrhaed tu mewn i´r bariau a dyna lle´r oedd y cyffylau yn cael ei gerio a gwisgo ei cyfrwy i´r plant fynd i´r ysgol pob dydd. Cafodd lawer i ymwelwr fynd ar gefn y cefyllau i fyny i´r goedwig i weld rhaiader Nant Irfon sy´n rhedeg ger y ty.
Aeth y blynyddoedd heibio a theimlaf fy nghangennau yn sychu a syrthio, a nid yw´r lliw gwyrdd mor llachar ac a fu ond rwyf yma o hyd yn dyst i flynyddoedd cynnar y Cwm……
Maitén
Cystadleuaeth Rhif 2: Stori fer neu ysgrif
"Y tren bach"
Nid cymaint o weithiau es i ar y hen drên bach, ond digon i wybod pa mor bwysig oedd (a dal yn bod) i’r gymuned. Pob tro, pan dw i’n cwrdd â fo ar ei ffordd i Nahuel-Pan, dw i’n sefyll wrth ochr y traciau yn disgwyl amdano i pasio. Mae sŵn ei gorn yn amgylchu Esquel bob bore am deg o’r gloch, yno mae’r bobl yn gallu ei wrando ac efallai mae swn yn gweithio fel larwm i rai sy’n hoffi codi yn hwyr, pam lai?
Mae gan y trên bach enw: ‘La Trochita’ dyn ni’n ei galw. Mae twristiaid eisiau ei adnabod, ond gallwn fwynhau ei fodolaeth pob dydd gyda falch anferth i gael rhan o’r hanes y rheilffordd yn ein pentref.
Mae La Trochita yn derbyn ei enw o'r pellter rhwng y traciau sy'n fesur dim ond 0.75 centimetr. Dyna pam mae'n drên unigryw yn y byd, achos un metr yw'r mesuriad safonol yn y trenau eraill.
Ar y dechrau, roedd y trên yn cludo bwyd ac anifeiliaid yn unig, ond gan ddechrau yn 1950 daeth yn gyfrwng cludiant sylfaenol i’r bobl gogledd-orllewin Chubut. Yn 1993 penderfynodd y llywodraeth genedlaethol gau La Trochita, ymhlith llawer o drenau eraill, yno troddodd y tren yn drên twristiaid mewn ffordd i cadw’r lle gweithio i’r holl gweithywr.
Mae ei daith yn gychwyn yn Esquel ac yn gorffen 129 cilomedr i ffwrdd, yn El Maiten (Talaith Chubut).
Mae La Trochita yn dal i wneud ei daith pob wythnos, a dyn ni’n cael cyfle i fwynhau ei sŵn. Fy hoff tymor i’w weld o ydy’r Hydref, yno, dw i’n fanteisio ar gyfer mynd am dro o gwmpas y traciau i drio tynnu lluniau o’r hen drên bach yn pasio trwy’r coed anlliwiodd.
Elsi
cynllun yr iaith gymraeg
Rhian Lloyd
Swyddog Datblygu Iaith o Gymru 2024
Fedrai’m coelio ‘mod i bron i 100 diwrnod i mewn i fy antur fawr Patagonia yn barod - mae’r amser wedi hedfan! A dyma fi – yn gweithio fel athrawes yn Ysgol y Cwm, Trevelin ac yn diwtor Cymraeg i oedolion yn Esquel. Roeddwn i wedi bod yn croesi’ ‘mysedd mai yn yr Andes y byddai’r Cyngor Prydeinig yn fy anfon i weithio fel Swyddog Datblygu Iaith o Gymru ac felly wedi mopio pan ges i’r newyddion fy mod am fy lleoli yma. Mae hi’n wirioneddol brydferth yma ac mae Trevelin ac Esquel yn hyfryd - y ddaearyddiaeth, y bobl a’r plantos a’r holl ddiwylliannau amrywiol sydd yn gwneud yr ardal yn un mor arbennig.
'Dwi’n hynod o falch o fod yn cael y profiad arbennig yma ac yn teimlo balchder mawr fy mod yn rhan weithredol o’r arfer gyfoes ym myd addysg Cymru o allu cefnogi a chryfhau’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg fel ail iaith yn Chubut.
Rwy’n mwynhau fy swydd yn fawr iawn - mae teulu Ysgol y Cwm wedi bod yn hynod o groesawus o’r cychwyn.
Mae’r tîm bach o athrawon Cymraeg sydd yma’n cydweithio’n ddygn i ddarparu dilyniant a pharhad yn natblygiad sgiliau’r dysgwyr. Mewn cyfarfod staff yn ddiweddar fe gydnabuwyd cryfderau’r Adran Gymraeg fel y canlyn:
Mae dysgwyr ysgol gyfan yn cael eu cyfle i gymryd rhan mewn Eisteddfodau lleol a thu hwnt yn y Gymraeg
Mae cyfleoedd cyson i ddysgwyr integreiddio â'r gymuned a chymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol amrywiol
Mae’r athrawon yn weithredol wrth godi ymwybyddiaeth y dysgwyr o ddiwylliant a thraddodiadau Cymru
Mae’r athrawon yn weithredol iawn o ran gwneud cysylltiadau cyson ag ysgolion Cymraeg y dalaith yn ogystal â gydag ysgolion yng Nghymru er mwyn gwella sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg
Mae cyswllt aml gydag ymwelwyr o Gymru
Mae’r amserlen yn sicrhau gwersi Cymraeg dyddiol ysgol gyfan ar lefelau gwahaniaethol.
Mae staff yn cydweithio wrth gynllunio er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad drwy’r ysgol.
Mae staff yn rhoi sylw i gyfleoedd pontio eang er mwyn sicrhau cysondeb o’r feithrin i’r Uwchradd
Mae gwaith Cymraeg dysgwyr yn cael ei arddangos mewn mannau cyffredin er mwyn codi ymwybyddiaeth holl rhandeiliaid yr ysgol o’r arferion da.
Mae llyfrgell adnoddau Cymraeg gwerthfawr ar gael i ddefnydd cyffredin yr adran.
Mae’r staff yn cynllunio sesiynau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored
Mae cyfleoedd addysgu amrywiol er mwyn ymarfer sgiliau trawsgwricwlaidd :
Daearyddiaeth: edrych ar fap o Gymru
Coginio - dysgu enwau bwydydd yn y Gymraeg
Hanes Cymru
Tasgau Dylunio a Chelf Gymreig
Mathemateg - rhifau, siapiau, lliwiau ayyb
Cerddoriaeth - amrywiaeth o ganeuon Cymreig
Drama - perfformio straeon Cymreig
Addysg Gorfforol - Dawnsio, gemau a symud
Mae creu dolenni rhwng Ysgol y Cwm a sawl ysgol yn Ynys Môn - wedi bod yn brofiad cyffrous a gwerthfawr tu hwnt i’r holl blant a staff sydd wedi cyfrannu. Diolch mawr i Benaethiaid ac athrawon ysgolion Henblas, Y Graig a Rhosybol am eu parodrwydd i gydweithio ar y cysylltiadau.
Mae rhaid i mi ddiolch yn arbennig wrth gwrs, i Ysgol Pencarnisiog, lle rwy’n Bennaeth adref. Mae fy nosbarth Blwyddyn 6 yma yn Ysgol y Cwm wedi bod wrth eu boddau yn ysgrifennu llythyrau i ddysgwyr Ysgol Penc er mwyn dysgu am fywyd eu cyfoedion ym Môn. Drwy lwc, roedd Seren, un o'm dysgwyr yma yn mynd ar daith i Gymru fel rhan o brosiect wedi ei drefnu gan y Mudiad Meithrin. Golygai hynny fod hi wedi gallu danfon y llythyrau’n bersonol - am arbennig! Roeddwn wrth fy modd yn edrych ar luniau ohoni yn cael ei chroesawu gan fy nghydweithwyr a phlantos Penc! Wedi iddi ddychwelyd adref, roedd dysgwyr Ysgol y Cwm wedi mopio yn derbyn eu llythyrau'n ôl gan griw Ysgol Pencarnisiog drwy law Seren - am hwyl yn darllen am ddiddordebau a theuluoedd eu ffrindiau newydd! Diolch hefyd i Ysgol Pencarnisiog am eu rhodd garedig o faner mawr Yma o Hyd - bydd yn cymryd ei le'n smart yma!
‘Rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn gychwyn ar bartneriaeth ryngwladol tymor hir llwyddiannus rhwng y ddwy sefydliad yma sydd mor agos i'm calon.
Mae hi wir yn fraint cael bod yn rhan o dîm y tiwtoriaid Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg Esquel. Mae cynnal gwersi i oedolion yn brofiad newydd sbon i mi - ond yn dilyn arweiniad proffesiynol gan fy nghydweithwyr rwyf bellach yn mwynhau cynnal sesiynau yn annibynnol. Mae’r dysgwyr yn gyfeillgar a chlên ac rwy’n wirioneddol edmygu'r brwdfrydedd, ymroddiad ac ymdrech sydd ganddynt tuag at ddysgu iaith eu Neiniau a’u Teidiau.
Braf yw bod mewn cyswllt parhaol hefo fy nghymheiriaid yn y Dyffryn - mae gen i berthynas agos a chadarn gyda nhw ac rydym wedi mwynhau sawl cyfle i gydweithio i gymdeithasu a chynllunio o ran ein swyddi a’n profiadau yma. Yn yr un modd - rwy’n gwerthfawrogi’r cymorth yr wyf wedi gael gan gyn-diwtoriaid o Gymru cyn teithio ac wrth i fy nghyfnod yma barhau. Maent bob amser yn barod gyda gair o gyngor neu anogaeth pan rwyf angen hynny. Gwelaf fod swydd Swyddog Datblygu Iaith o Gymru 2025 bellach ar agor - braf bydd gallu rhannu fy mhrofiadau, cyngor ac awgrymiadau gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus!
Gyda gwyliau’r Gaeaf yn prysur agosáu, ‘rwy’n edrych ymlaen yn awyddus at ail hanner fy nghyfnod yma. Ni anghofiaf fyth y croeso cynnes a gefais wrth i mi gyrraedd maes awyr Esquel am y tro cyntaf, y wên gyfeillgar, y cwtsh caredig a'r paned o de cysurus - ac rwy'n ymwybodol iawn y bydd yr amser trist i mi orfod ffarwelio yn dod o gwmpas yn llawer rhy fuan! Ac felly, ‘rwy’n bwriadu parhau i wneud y mwyaf o weddill fy amser yn yr Andes, wrth wneud y gorau o bob cyfle i gefnogi gwaith y tiwtoriaid Cymraeg a throchi fy hun yn y dreftadaeth gyfoethog yr wyf nawr yn rhan fach ohono am byth.
Bu i Gapeli Seion Esquel a Bethel, Trevelin gynnal Cyfarfodydd Diolchgarwch lliwgar a chain eto eleni - diolch i Barchedig Lucas Gibbon am arwain y gwasanaethau ac i bawb a fu'n rhan o'r trefniadau.
Am ffordd fendigedig o gloi Eisteddfod yw a chymanfa ganu draddodiadol! Roedd hi'n anodd dod o hyd i set wag yng Nghapel Bethel y Cwm ar hwnnw. Cafodd y canu ei annog yn fentrus gan yr arweinyddion a'r cyfeilyddion arbenigol oherwydd hynny, fe glywyd sŵn canu emynau swynol ar hyd y dref - da iawn pawb wir!
Am gyffrous oedd ffarwelio ag Athrawes Jessica o Ysgol Y Cwm a'i merch Seren, sydd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 6 ar eu siwrne draw i Gymru fel rhan o gynllun Taith.Cymru y Mudiad Meithrin. Ynghyd a dwy athrawes arall, fe dreuliwyd pythefnos yn ymweld â chylchoedd a meithrinfeydd dydd ynghyd ag ysgolion Cymraeg ymhob cwr o Gymru i rannu profiadau a chyfnewid syniadau ar weithio yn y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roeddem oll wrth ein boddau yn dilyn eu taith gyffrous ar fap o Gymru - ac ers iddi ddychwelyd adref, mae Jessica wedi sôn am y croeso cynnes gafodd y grŵp gan bob un o'r sefydliadau hyfryd iddynt ymweld â nhw:
Meithrinfa Camau Bach, Aberystwyth
Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, Caerdydd
Ysgol Hamadryad
Cylch ac Ysgol Groeswen
Meithrinfa Cywion Bach, Sir Gaerfyrddin
Ysgol Rhydaman
Ysgol Ystalyfera
Cylch Meithrin Dyffryn Banw ac Ysgol Dyffryn Banwy
Cylch Meithrin Bro Alun, Yr Wyddgrug.
Cylch Meithrin Min y Ddol
Cylch Meithrin Dyffryn yr Enfys, Dolgarrog
Cylch Meithrin Maesincla
Ysgol Gynradd Pencarnisiog
Ysgol Gymraeg Morswyn
Yn ogystal â'r holl ymweliadau uchod, roedd llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol a chymdeithasol gyda'r nos wedi eu trefnu ar eu cyfer - swper, dawnsio gwerin , cyngherddau o bob math! Uchafbwynt - cael cwrdd â Dafydd Iwan ei hun yng Ngŵyl Cefni efallai?
Ond er y daith hir adref....doedd dim seibiant i gael wedi cyrraedd adref gan fod Jessica ar dan i ddychwelyd i'r ysgol i gael rhoi ei syniadau newydd ar waith yn syth yn nosbarthiadau Ysgol y Cwm!
Croeso adref Jessica a Seren a diolch am fynd ar yr helfa arbennig yma er mwyn dod o hyd i arferion da i'w defnyddio yma yng Nghwm Hyfryd...a diolch i'r Mudiad am wneud i'r cwbl ddigwydd!
Ar Fehefin 1, yn Amgueddfa Trevelin; fe gynhaliwyd aduniad o ddisgynyddion teuluoedd Thomas Tegai Austin, Dalar Evans a Joseph Williams i ddathlu eu dyfodiad i’r mynyddoedd, ar ôl taith hir drwy’r dalaith. Braf oedd gweld ystafell llawn disgynyddion traws- cenhedlaeth yn dod at eu gilydd i edmygu dewrder dygnwch eu hynafiaid.
Mae Grŵp Dawnswyr Cwm Hyfryd yn ymarfer yn wythnosol yn y Salon yn Nhrevelin o dan ofalaeth Jessi. Llongyfarchiadau mawr iddynt ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod - yn dod a'r wobr gyntaf adref hefo nhw am eu perfformiad 'cain' yng Nghystadleuaeth Rhif 8. Diolch mawr i Iriel am helpu i arwain yr ymarferion yn ystod taith Jessica i Gymru.
Diolch yn fawr i Irving Evans am baratoi’r Côr ar gyfer cymryd rhan mewn sawl cystadleuaeth yn yr Eisteddfod. Diolch i bawb a fu mor barod a chydwybodol i fynychu'r holl ymarferion angenrheidiol er mwyn sicrhau perfformiadau mor swynol ar y diwrnod mawr!
Llongyfarchiadau i Griw'r Cwm am eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth 23 yr Eisteddfod: Cydadrodd Agored "Cwyn y Gwynt". Dyna hwyl gawson nhw'n paratoi - roedd addewid o deisen siocled yn Nhŷ Capel yn ddigon o anogaeth i gael pawb at eu gilydd ar fore Sadwrn i ymarfer!
Bu i bawb fwynhau gwrando ar yr awdur, Aled Gwyn Job yn siarad am ei lyfr 'Llythyr Noel' yn ystod ei ymweliad i Batagonia'n ddiweddar. Anodd oedd coelio'r stori am ŵr o Fôn yn trechu anghyfiawnder ar ôl brwydr hir yn erbyn y Swyddfa Bost Brenhinol.
Braint oedd cael Gwilym Bowen Rhys, y canwr llên gwerin Gymreig yn perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau yn yr Andes yn ddiweddar. Roedd pawb o bob oedran wedi mwynhau gwrando ar ei berfformiadau unigryw a'i sgwrs ddifyr.
Dymunwn yn dda i bob un o'n ffrindiau sydd wedi mynd, neu ar eu ffordd i Gymru ar daith - am gyffrous iddynt i gyd a braf i'r rheini ohonynt a fydd yn cael treulio amser hefo'u teuluoedd adref. Diolch i chi gyd am rannu eich lluniau a hanesion a brysiwch adref yn ddiogel.
Roeddem oll wrth ein boddau yn clywed hanes Alun a Sibyl yn ymweld â Chanolfan Cymry Llundain wrth ymweld â'r ddinas! Bu iddynt fwynhau'r Clwb sgwrsio yn fawr - braf oedd cael cwmni difyr eu cyfeillion Cymraeg yno. Diolch mawr i Athrawes Rhian Lloyd a'i ffrind Bado Evans o'r Ganolfan am helpu i drefnu'r ymweliad. Bu i Alun a Sibyl hefyd cwrdd â ffrindiau yng Nghylch Siarad Cymraeg Brighton, diolch i Gordon Leoch am ei gymorth. Tydi'r Cymry i'w darganfod ym mhobman 'dwch!
Bu Llinos, Megan, Richard, Catrin a Dyfanwen - athrawon Cymraeg Ysgol Gaiman draw am dro yma i'r Andes sawl gwaith yn ystod y tymor - gan gynnwys dros benwythnos yr Eisteddfod. Mae hi bob amser yn bleser cael eu croesawu yma ac yn gyfle gwerthfawr i'r athrawon o Gymru gael trafod syniadau a rhannu arferion da. Bu Rhian yn ymweld â'r Gaiman yn ogystal lle gafodd daith o amgylch y dref gan ei chyd-weithwyr - diolch o galon am y croeso a'r llety iddi bryd hynny!
Dwyieithrwydd ac Addysg yn Rhanbarth Patagonia
Dr. Sara Borda Green
Ar amser mor arwyddocaol â Dydd Owain Glyndŵr yng Nghymru, bydd y I Jornada Patagónica de Bilingüismo yn cael ei chynnal eleni yn Rawson, Chubut. Ar 16eg Medi 2024 rydym yn gobeithio dod at ein gilydd er mwyn trafod a rhannu gwahanol brofiadau ym maes addysg ddwyieithog ar lefel meithrin, gynradd ac uwchradd yn rhanbarth Patagonia, sy’n cynnwys talaith Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz a Tierra del Fuego. Bydd yr athrawon yn cwrdd â’r nod o wrando ar ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caeredin, ac arbenigwyr mewn technoleg a dwyieithrwydd yn sôn am eu gwaith diweddaraf. Bydd yr athrawon hefyd yn rhannu eu profiadau mewn sefydliadau sy’n cynnig Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg neu Almaeneg fel ail iaith, a bydd Ysgol y Cwm (Trevelin), Ysgol yr Hendre (Trelew) ac Ysgol Gymraeg y Gaiman yn cael cyfle arbennig i ledaenu a thrafod cyfleoedd a heriau dysgu Cymraeg i blant Patagonia heddiw dydd.
Rydym wrthi’n trefnu rhaglen sy’n cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr rhyngwladol adnabyddus megis Dr Antonella Sorace (Bilingualism Matters) a Mr Aran Jones, sefydlydd y system a’r app saysomethingin. Cyflwynir hefyd papurau gan ddwy ymchwilydd Prifysgol Bangor, Bethany Collins a Marian Brosschot (swyddog y Prosiect Cymraeg yn Chubut yn ystod 2020-2021 a sefydlydd sianel YouTube Galés con Marian). Bydd Dr Nadibel Laporte, o’r Dyffryn, a Clare Vaughan, Cydlynydd y Prosiect, yn arwain sesiynau gyda’r athrawon ac yn cyflwyno deunyddiau digidol. I orffen bydd Fernando Doural, cyfarwyddwr rhaglen ddogfen am brofiad ysgol ddwyieithog Galisieg-Sbaeneg yn Buenos Aires, yn cael ei holi am ei ffilm.
Yn hael iawn mae llywodraeth Chubut wedi cynnig lleoliad (a choffi a chacennau!) ar gyfer y digwyddiad yn Llyfrgell Senedd y Dalaith, ac rydym yn gweithio ar y posibilrwydd o ffrydio'r digwyddiad yn fyw. ‘Gwyliwch y gofod hwn’ fel y dywedir, gyda mwy o wybodaeth i ddod yn fuan.
Trevelin
Gorffennaf 2024
Pwy sydd yn cofio edrych ymlaen at gael y copi diweddaraf o Gymru'r Plant? Mae Athrawes Rhian wedi bod yn pori drwy hen gopïau ac wedi darganfod ambell beth difyr i ddiddanu ein darllenwyr - hanes Cymro bach yn ymsefydlu yng Nghwm Hyfryd a phôs bach i gael yr hen ymennydd yn symud, mwynhewch!
Mae'r Andes bob amser yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer unigolion o Gymru sydd yn dymuno astudio neu fyfyrio rhyw elfen o Gymreictod yma ym Mhatagonia - doedd y tymor yma dim eithriad! Dyma eiriau caredig gan rhai o'n ffrindiau mwyaf diweddar:
Oni'n ffodus dros ben o allu dod i´r wladfa am yr ail waith yn fy mywyd yn ddiweddar. Ddes i am y tro cyntaf yn 2017 gyda fy nwy chwaer i ganu yng ngŵyl Patagonia Celtica yn Nhrevelin, ond ar y pryd don i ddim yn siarad gair o Sbaeneg. Y tro yma nes i ddod i ffilmio rhaglen deledu ar gyfer S4C. 'Gwladfa' yw enw´r rhaglen - rhaglen sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth, ac bydd o ar gael i wylio yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Mae'r ffaith fy mod i wedi dysgu Sbaeneg i lefel eitha da ers 2017 wedi gwneud fy mhrofiad ym Mhatagonia y tro yma gymaint fwy cyfoethog. Nes i siarad a chanu ar Radio Chubut ac ar ragleni radio lleol yn Esquel a Trelew. Hefyd ges i´r cyfle i ganu yn y Teatro Español yn Nhrelew a chwrdd â´r maer, oedd yn awyddus i gryfhau´r cysylltiad rhwng Trelew a Chaernarfon, tref genedigol Lewis Jones.
Dwi hefyd yn falch iawn mod i wedi cwrdd a sgwrsio gyda phobol hyfryd o´r gymuned frodorol, sy'n cynnal traddodiadau ac yn ymladd am eu hawliau, gan gynnwys Rosa Chiquichano a Juan Lucas Antieco.
Profiad byth gofiadwy oedd ymuno yn y canu yn angladd Vicente Evans, er ges i fyth y pleser o gwrdd â´r gŵr ei hun.
Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fy ymweliad nesaf â´r wladfa, bydd cyn hir gobeithio.
“Ar gyfer fy mlwyddyn olaf yn astudio ffotograffiaeth yn Llundain defnyddiais ysgoloriaeth enillais yn yr Eisteddfod Genedlaethol i drafeilio i Argentina am bythefnos i ddechrau ar brosiect ffotograffeg newydd. Bwriad fy prosiect yw i ddogfenu y bywydau a’r profiadiau yn y cymunedau Cymreig yng Nghymru a Patagonia, ac arddangos y treftadaeth a’r hunaniaeth diwyllianol sy’n gyffredin y ddau leoliad. Nod fy mhrosiect yw i herio’r camsyniadau presennol am y Gymraeg fel “iaith sy’n marw” ac am y cyd-destyn daeryddol mae’r iaith yn bodoli ynddo - trwy cyfres o boreadau o unigolion sy’n bresennol yn y cymunedau hyn. Roedd y croeso yn hyfryd gan pawb, ac er oedd fy ymweliad yn fyr dwi’n methu’r pobl a’r tirwedd - dwi eisiau dod yn ôl !”
Fy Anturiaethau yn Nhrevelin!
Helo! Rhiannon dw i, a dwi’n byw yng Nghaerdydd…ond am chwech wythnos arbennig eleni, gwnes i byw yn Nhrevelin.
Ers astudio Cymraeg yn yr ysgol, fi wastad wedi ishe ymweld y Wladfa. Felly, ar ôl ychydig bach o gynllunio, nes i gadael Caerdydd am Ariannin. Pan cyrhaeddais i yn Nhrevelin, ces i croeso cynnes iawn o bawb, ac ymwelais i Ysgol y Cwm bron yn syth! Barod i ddechrau helpu mas gyda wersi Gymraeg y ddiwrnod nesa. Roedd fy mhrofiad weithio yn Ysgol y Cwm yn arbennig iawn - dod i nabod y plant, y seremoni ddechrau’r blwyddyn, seremoni agored yr Ysgol Uwchradd… amser bythgofiadwy.
Un atgof arbennig iawn i mi, oedd teithio dros y paith (“Taith y paith!”) i Gaiman. Ces i Dydd Gŵyl Dewi anhygoel ymweld â’r hen capeli y Gaiman, a fynd i’r cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yn Capel Bethel.
Roedd fy amser yn Nhrevelin a Gaiman yn hynod o wych - diolch o galon i’r bobl fendigedig wnes i gyfarfod yno, a’r croeso cynnes a gefais.
Gwnes i gadael Trevelin diwedd mis Mawrth i archwilio mwy o Dde America. Dwi nôl yng Nghaerdydd nawr, gyda llawer o atgofion hyfryd!
Roedd y profiad o deithio trwy'r Wladfa yn ddiweddar gyda'r gwyliau gorau erioed yn fy hanes. A'r hyn a welais ac a brofais y tu hwnt i'm disgwyliadau mewn difri.
Ron i'n ffodus iawn yn hyn o beth cael Gwion Elis Williams o Drevelin yn dywysydd imi ar hyd y daith. Trysorfa o wybodaeth am Y Wladfa ei hun ac arbenigwr hefyd ar dirwedd a daeareg unigryw Patagonia. Yn ystod y pythefnos, cefais weld y cwbl ganddo.
Y Dyffryn i ddechrau. Goleuni hyfryd Porth Madryn, Cymreictod arbennig Gaiman, a'r gof-golofn anhygoel honno i Lewis Jones yn Nhrelew.
Y daith ryfeddol honno ar draws y Paith wedyn. Ar adegau, ron i'n teimlo mod i ar ryw 'timeline' arall, mewn dimensiwn gwahanol oherwydd mor arallfydol oedd y tirwedd o nghwmpas!
Cwm Hyfryd yn olaf a gweld y gobaith newydd i'r Gymraeg sy'n cyniwair yno ar ffurf Ysgol y Cwm, Trevelin. A chyfnod yn nhref hyfryd Esquel wedyn hefyd yn un o'r uchafbwyntiau'n sicr.
Patagonia- mi ddoi nol yn sicr! Flwyddyn nesaf gobeithio. A hynny'n anogaeth imi wella'r Sbaeneg erbyn tro nesaf hefyd!
Am dair wythnos fendigedig ym Mis Mai, bues i’n ffodus o ddod draw i Batagonia er mwyn imi ymchwilio ar gyfer fy thesis yn y brifysgol. Pwnc y traethawd oedd effaith twristiaid ar yr Iaith Gymraeg yn ardal Chubut.
Roeddwn i’n ffodus iawn o allu siarad gyda chymaint o bobl diddorol a oedd eisiau helpu. Roedd cyfeillgarwch pob un yn hael iawn.
Ar ôl treulio deg diwrnod ar yr arfordir dwyreiniol ac ymweld â byd natur Peninsular de Valdes a’r Gaiman, teithiais ar y bws nos dros y paith a digwydd eistedd drws nesa i ddyn a oedd yn siarad Cymraeg. Roedd hyn yn syndod mawr gan nid yw hwn hyd yn oed yn digwydd i mi nol adre, yn Abertawe!
Lwcus iawn oedd allu treulio bron a bod wythnos yn llety hyfryd newydd Gwion a Nia, a chael cwmni Celyn Mai ac Arth y ci. Roedd golygfa o’r gegin yn hudol o Gwm Hyfryd. Tafliad carreg o’r tŷ roedd Eisteddfod Trevelin yn cael ei gynnal. Roedd clywed plant bach yn canu Iesu Tirion, grwpiau yn dawnsio gwerin a chorau yn canu hen emynau Cymraeg yn brofiad emosiynol iawn, a gallu cwrdd â chymaint o bobl ar draws Patagonia yn uchafbwynt i’r cyfan.
Wedi gwledd o draddodiad dros y penwythnos, manteisiais ar fyd natur yr Ariannin a cherdded i lynoedd cyfagos a chopaon mynyddoedd. Roedd prydferthwch yr ardal yn anhygoel a gwerthfawrogais yr olygfa o Gwm Hyfryd o’r safleoedd uchel.
Ar ôl treulio amser yn y Wladfa, es i i Bariloche ac yna Buenos Aires i orffen y daith. Rwyf nawr nôl yn y brifysgol, yn Llundain yn ysgrifennu fy nhraethawd hir, gan feddwl pob dydd yr hoffwn fod nôl yn nhir hardd y Wldfa. Diolch yn fawr i chi am y croeso.
ER COF ANNWYL am y cyfeillion hynny sydd wedi ymadael a ni yn ystod y tymor. Cydymdeimladau dwysaf a'u teuluoedd a'u ffrindiau.
Elved Vincente Evans
Edith Wyn
Charles Arch