Canlyniadau
Dyddiad cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch ydi Dydd Iau, Awst 14eg 2025. Bydd modd i chi gasglu eich canlyniadau o’r ysgol rhwng 9:00am a 12:00pm.
Dyddiad cyhoeddi canlyniadau TGAU ydi Dydd Iau, Awst 21ain 2025. Bydd modd i chi gasglu eich canlyniadau o’r ysgol rhwng 9:00am a 12:00pm.
Os nad ydych yn medru dod i gasglu eich canlyniadau, gallwch:
Ffonio’r ysgol - 01745 582611
Ofyn i ffrind/perthynas – gall ffrind neu berthynas gasglu eich canlyniadau ar eich rhan, ond mae’n rhaid iddynt ddangos llythyr wedi ei arwyddo gennych chi yn rhoi caniatâd.
Post – rhowch amlen gyda eich cyfeiriad a stamp yn y Dderbynfa.
Ymholiadau am Ganlyniadau
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau, mae’r byrddau arholi yn cynnig nifer o wasanaethau os oes gennych bryder am eich canlyniad. Dylech drafod eich pryderon gyda’r athro pwnc a’ch rhieni cyn gwneud cais.
Nid yw hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim - trafodwch a cysidrwch yn ofalus os ydych eisiau gwneud cais. Mae ffioedd yn cael eu codi fesul papur (felly os oes mwy nag un papur ar gyfer uned, bydd rhaid talu am y ddau bapur).
Gwasanaeth 1: Gwiriad clerigol (gwirio bod y marciau wedi eu cyfrifo’n gywir)
Gwasnaeth 2: Ail-wiriad clerigol (adolygiad o’r marcio – sicrhau bod yr arholwr wedi dilyn y cynllun marcio)
Gwasanaeth 3: mynediad at sgript (cael eich papur yn ol er mwyn edrych drosto)
Bydd Arweinydd Maes pob pwnc yn cael ffurflen gan y Swyddog Arholiadau i nodi pob cais sydd i’w wneud i’r Gwasanaeth Ymholiadau am Ganlyniadau.
Unwaith fydd cais wedi ei wneud, ni fydd modd ei ganslo – bydd rhaid talu. Os yn berthnasol, bydd unrhyw ffi yn cael eu rhoi ar ParentPay. Ni fydd unrhyw sgript neu ganlyniad yn cael ei ryddhau tan fydd taliad wedi ei dderbyn.
PWYSIG – mae gwneud cais am YAG1 a YAG2 yn golygu gall eich marc aros yr un fath, gall fynd i fyny, neu gall fynd i lawr. Mae’r risg o golli marciau yn golygu bod rhaid cael eich caniatâd ysgrifenedig cyn gwneud y cais yma. Os nad ydych yn cytuno â’r ymateb i’r ymholiad, mae’n bosib apelio – dylid trafod hyn ymhellach os bydd angen.
Bydd mwy o wybodaeth am y broses YAG ar gael ar ddiwrnod canlyniadau.
Tystysgrifau
Mae tystysgrifau fel arfer yn cyrraedd yr ysgol erbyn diwedd mis Tachwedd. Bydd yr ysgol yn cysylltu efo rhieni pan fyddant yn barod i'w casglu. Mae eich tystysgrifau yn ddogfennau cyfreithiol - dylech wneud trefniadau i'w casglu cyn gynted a phosib. Os nad ydych yn medru dod i’w gasglu eich hun ac eisiau gyrru ffrind/perthynas i’w gasglu, rhaid gadael i'r ysgol wybod o flaen llaw.
Os ydych yn colli eich tystysgrif, nid yw'n bosib i'r ysgol gael copi - bydd rhaid i chi gysylltu â’r bwrdd arholi i gael ‘Datganiad Ardystio Canlyniadau’ neu ‘Llythyr Cadarnhad’. Bydd y bwrdd arholi yn codi tâl am hyn.