Os am gysylltu â'r Gerddorfa Ukulele, gwnewch hynny drwy ...
Rhif ffôn: 029 20689888 ebost: post@mentercaerdydd.cymru
Sefydlwyd y Gerddorfa Ukulele yn 2014 dan arweiniad Mei Gwynedd a thrwy drefniant Menter Caerdydd. Mae'r nifer o aelodau wedi cynyddu'n flynyddol ac mae'r Gerddorfa yn mynd o nerth i nerth. Maent wedi perfformio mewn nifer o gigs lleol, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng Ngŵyl Ukulele Caerdydd ac yng Ngŵyl Tafwyl. Yn ystod 2016 bu'r Gerddorfa yn recordio CD o ganeuon poblogaidd. Gweler y dudalen 'Siop' am fanylion pellach.
Cliciwch ar bennawd yr eitem o newyddion (isod) i'w agor ....``
Bydd Tymor yr Hydref 2026 ar gyfer Gerddorfa Ukulele yn cychwyn ar Nos Fercher, Medi 23ain. Ceir 10 sesiwn wythnosol o 7:00 hyd at 9:00 yr hwyr dan arweiniad Mei Gwynedd, yng Nghanolfan Chapter (CF5 1QE). Mae'r sesiynau hyn yn addas i chwaraewyr o bob safon - Croeso mawr i chwaraewyr newydd.
Cysylltwch â Menter Caerdydd i gofrestru neu os am fanylion pellach.
Cliciwch/gwasgwch yma os am fynd yn uniongyrchol at y dudalen cofrestru ar gyfer sesiynau'r Gerddorfa Ukulele ar wefan Menter Caerdydd. https://mentercaerdydd.cymru/event/y-gerddorfa-ukulele-hydref-2026-cy