History‎ > ‎

Initial History

My father, Mr William Roberts, laid the Golf Links at Rhosneigr during the 1930's and due to his experience and knowledge of the sub-soil in the area he was appointed as a Foreman on the Groundsmen in Valley RAF Camp in 1941. The MOD needed to extend the runways for the incoming American 17 ton Flying Fortresses due to arrive at the base. My father decided to dredge the peaty bog area by the camp and Llyn Cerrig Bach, in order to spread this on the ground as a firm base for the contractors, and also to stop the sand from being blown into the working parts of the aircrafts. Had he not decided on this procedure, then the artefacts may never have been discovered.

The peaty material was lifted by dredgers into lorries, and at one stage a lorry became stuck due to its heavy load. Attempts to dislodge it failed until my father noticed an old chain nearby. This was hooked to the lorry and on to a tractor, which duly pulled the lorry free. The chain was in fact, the Gang Chain, which is now the most significant exhibit of the whole collection!

Below is an excerpt from my father's interview on the BBC, 17th June 1947, describing how he found the artefacts and how a complete wheel was retrieved and thrown back into the lake before they had realised their significance. He also mentions how he wanted some of the artefacts kept in North Wales, but the engineer was from South Wales and he insisted that they all went to Cardiff. However, my father did bring some items home and I remember taking these wrapped in old newspaper on the train with him to Bangor, to the University Museum in Bangor. These must at some later date, have been removed to Cardiff as they are no longer there.

 

R. HUGHES: Wel 'rwan W. O. Roberts - chi fedr ddeud hanes y trysor wrthan ni - roeddach chi yn y fan a'r lle pan codwyd o o'r gors. 
W. O. ROBERTS: Tydw i ddim ishio brolio, ond fi gafodd hyd i lawer iawn ohono fo.
R. HUGHES: Felly - ond sut oeddach chi'n gwybod fod y petha o werth? Mi welis i rai ohonyn nwy - a faswn i fy hun yn meddwl dim ohonyn nhw.
W. O. ROBERTS: Doeddan ninnau ddim yn gwybod ar y dechra chwaith - dyna sut yr aeth cymaint ohono ar goll.
R. HUGHES Wel deudwch yr hanes wrthan ni o'r dechra Mr. roberts! Nid cael hyd i ryw "chain" ddaru nhw?
W. O. ROBERTS: Fel hyn 'roedd hi. 'Roeddan ni'n paratoi lle i'r Americanwyr. Yno 'roedd yr awyrennau mwya i fod i lanio, ac oddi yno ar ddiwedd y rhyfel, y ffliodd yr 8th Air Force yn ôl i'r Merica. Welsoch chi rioed y fath le - wn i ddim be fasa Madam Wen yn ddeud! Beth bynnag - 'roeddan ni wrthi hi'n paratoi y runways, ac yn codi mawn o'r gors hefo peiriant a rhyw fath o grafangau mawr arno fo. Wedyn 'roeddan ni'n gosod y mawn yn bentyrrau yma ac acw ar yr erodrom, yn barod i'w daenu a'i lyfnu. Un diwrnod mi ddaru 'na chain fawr fachu yn yr og. Ac wedi'i chael hi'n rhydd mi cymerwyd hi gan ddreifar tractor, i lusgo lorries o'r mwd ac ar draws y tywod, am fod y chain oedd ganddo fo wedi torri. Dyna sut y dechreuodd petha.
R. HUGHES: Sut chain oedd hi Mr. Roberts?
W. O. ROBERTS: 'Roedd hi'n mesur rhyw ddeg troedfedd o hyd, ac yma ac acw, 'roedd ynddi hi fodrwy neu link yn ddigon mawr i fynd rownd gwddw rhywun - 'roedd 'na bump os 'dw i'n cofio'n iawn. Ac erbyn gweld, chain i ddal pump o garcharorion efo'i gilydd oedd hi - neu bump o gaethweision - a'r modrwya mawr 'ma yn mynd rownd 'u gyddfa - y creaduriaid!
R. HUGHES: Ond wrth gwrs doeddach chi ddim yn gwbod hynny ar y pryd.
W. O. ROBERTS: O nag oeddan. Fi ddaru ddeud amdani wrth yr Engineer, Mr Jones, a mi welodd hwnnw bod hi allan o'r cyffredin, ac yn debyg o fod yn hen iawn. A dyma nhw'n anfon am Syr Cyril Fox.
R HUGHES: Mi 'dw i'n cofio'i weld o o gwmpas y lle.
W. O. ROBERTS: Mi welodd ar unwaith fod 'na drysor Celtaidd wedi cael ei gladdu rywdro neu'i gilydd yn y gors. Yn anffodus 'roedd llawer iawn ohono wedi cael ei chwalu ar hyd a lled yr erodrom. Mae un dyn yn cofio taflu cylch olwyn yn ôl i'r gors, a dydi hwnnw byth wedi dwad i'r golwg wedyn. Ond o hynny ymlaen, 'roedd y gweithwyr i gyd ar y "look out" wrth daenu'r mawn.
R. HUGHES: A mi ddowd o hyd i bob math o betha on'd do?
W. O. ROBERTS: Do - bob math. Darnau o harnis ceffylau, darnau o olwynion a cherbyda, cleddyfau a gwawywffyn ag ôl rhyfela arnyn nhw. A mi ges i hyd i gryman yno hefyd, yn debyg iawn i gryman heddiw, ond yn llai.
R. HUGHES: Mi glywis i sôn am ryw utgorn yno hefyd - welsoch chi hwnnw?
W. O. ROBERTS: Dim ond darn o hwnnw ddaeth i'r golwg. Mae nhw'n deud mai dim on dau utgorn o'r fath sy'n bod, a rheiny yn y Werddon.
R. HUGHES: Oedd rhywun yn medru rhoi rhyw syniad pa mor hen oeddan nhw?
W. O. ROBERTS: Dwy fil o flynyddoed!
R. HUGHES: Ac i feddwl fod chain gafodd 'i gneud ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn dal yn ddigon cry' i dynnu lorriau trymion y'n dyddia ni! Mae o'n wyrthiol o beth cofiwch!
W. O. ROBERTS: Ydi mae o.
J. OWEN: Mi glywis i nad oedd 'na ddim byd Rhufeinig yn 'u mysg nhw, yn profi 'u bod nhw i gyd yn y gors cyn dyfodiad y Rhyfeiniaid i Fôn yn y flwyddyn 61. A bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yno ers dau gant o flynyddoedd cyn Crist.
R. HUGHES: 'Roedd 'na bobol yn byw yn yr ardal pryd hynny felly!
W. O. ROBERTS: 'Roedd 'ma le prysur iawn yn ôl bob arwydd. Mae'n debyg y bydda llongau o Iwerddon yn hwylio i fyny afon Cymyran, yn cario caethweision ar 'u ffordd i Rufain. 'Roedd yno arwyddion masnach hefyd, am mai nid pethau wedi cael eu gwneud yn Sir Fôn yn unig oedd yn y gors, ond o bob rhan o'r byd.
R. HUGHES: Welsoch chi rywfaint o arian yno - ceinioga a phetha felly?
W. O. ROBERTS: O - nid efo petha felly oedda nhw'n prynnu a gwerthu ond efo barrau o hearn, dwy droedfedd o hyd - 'roedd 'na lawer iawn o rheiny o gwmpas.
R. HUGHES: Pa hyd ddeudsoch chi?
W. O. ROBERTS: Dwy droedfedd.
R. HUGHES: Bobol bach leciwn i ddim cael llond pocad o rheiny yn newid!
W. O. ROBERTS: Na finna - a mi oedd 'na rai ohonyn nhw wedi cael eu torri a'u toddi, yn dangos fod yma efail wrth law medda Syr Cyril Fox - a mi oedd ôl trwsio ar rai o'r petha hefyd.
R. HUGHES: Ymhle mae nhw rwan?
W. O. ROBERTS: Mae 'na betha yn dal i ddwad i'r golwg o hyd - mae gen i ddau neu dri yn y ty 'rwan yn barod i'w hanfon i ffwrdd. Ond yng Nghaerdydd y mae'r rhan fwyaf. A deud y gwir 'roedd hi wedi mynd yn ffrae rhwng yr engineer a finna ynglyn â hynny. Un o'r De oedd o, ac wrth gwrs ishio anfod popeth i Gaerdydd, a finna ishio cael 'u cadw nhw ym Mangor.
J. OWEN: 'Roeddach chi'n y'ch lle hefyd. A mae'n biti garw na fasa plant yr ardal wedi cael gwell cyfle i'w gweld nhw, cyn iddyn nhw gael 'u danfon i ffwrdd.
R. HUGHES: 'Roedd 'no esgyrn hefyd onid oedd?
W. O. ROBERTS: O oedd, lawer iawn.
R. HUGHES: Oes gan rywun ryw syniad sut a phan y rhoddwyd yr holl betha yn y gors yn y lle cynta?
W. O. ROBERTS: Wyr neb yn iawn. Petha'n perthyn i ddynion oeddan nhw i gyd bron - dim ond un freichled yn perthyn i ddynes ddaeth i'r golwg.
J. OWEN: Ac efallai mai arfau rhyfel rhyw hen bennaeth oeddan nhw, yn cael eu bwrw i'r llyn rhag gorfod eu rhoi i fyny i'r Rhufeiniaid. Neu, medda nhw, mi allan fod wedi cael eu hoffrymu gan y Derwyddon, a'u rhoi mewn llyn cysegredig yn ôl eu harferiad.
R. HUGHES: Fasa dim syndod i hynny fod wedi digwydd ym Môn - hen gartref y Derwyddon.

Photographs copyright by permission of the National Museum, Wales