POETIC SOLIDARITY
"Syringa vulgaris"
by Menna Elfyn in 21 versions
An Exerpt of the Article HERE.
DOWNLOADABLE FILES FOR EACH VERSION (Work in Progress)
Heartfelt thanks to the following authors and translators:
ANDERMANN, Felicitas > ASMUS, Sabine > AYMERICH-LEMOS, Sílvia > BORZYKOWSKI, Michel > BRUN, Joan-Frederic > CENTELLES, Josep-Joan > CAMPO, Marica > CRISTOFOR, Ion > CSICSERY-RONAY, Elizabeth > DE PAOR, Emma > DERMARK, Sandra > DREAN, Patrig EGIA, Lutxo > ELFYN, Menna > FLORES ABAT, Lluís-Xavier > HIRABAYASHI, Yoshie > ISELLA, Gilberto > KLEIN, Thomas > LUTZE, Elija > NARIOO, Gilabèrt > NOGUÉ, Bruna > PUJAS, Philippe > WALTHER, Liza > WEINSTEIN, Glorice
(ar garchariad Carme Forcadell, LLywydd Senedd Catalwnia, am ddeng mlynedd)
Drwy’r bore – murmuri*
yn fy nghlyw wrth feddwl am gyff yr olewydd,
brigyn o’i thangnefedd ymysg y leilac
sy’n lliwio gwledydd yn dyner.
‘Sdim inc ar ôl’, meddai Carme
wrth y sawl a dynnodd ei beiro
mud o’r bin sbwriel.
‘ Dim ots,’ meddai’r gaethferch,
‘ Rwy am ei ddal fel y gallaf
ryw ddydd , ysgrifennu fel chi,
--mewn leilac.’
Yn ei chell, heb foethau,
holodd ymwelydd pa enllyn a garai
i godi calon yno.
‘Bwndel o feiros’, meddai,
rhai leilac cofiwch --- fel y gall y merched
ysgrifennu eu hanesion eu hunain.
*
Pwy a ŵyr pa eiriau a wasgarwyd
ar ddalen lân, yn amrwd neu’n gain,
llinellau llaes efallai am Lywydd gwlad
a heriodd reoliadau ymerodraeth.
*
Daw pob ysgrifbin i ben yn ei dro,
ond daw eraill i blannu coed ,
blaendarddu mewn gerddi a chaeau.
A bydd petalau’n ymestyn
yn uwch na waliau’r carchar,
min eu blodau’n feiros leilac,
wrth lunio cân yr awyr i’w rhyddid.
*
Murmuri—teitl y gyfrol o farddoniaeth Gatalaneg o’r Gymraeg Murmur gan awdur y gerdd. Anfonodd Carme Forcadell feiro at y bardd, un o’r rhai a roddodd i’r carcharorion yn y carchar. Ar bob beiro ceir y geiriau escrivim el futur amb tinta lila- Dedfrydwyd Carme i ddeng mlynedd o garchar am weinyddu refferendwm ar annibyniaeth i Gatalwnia.