Gwersi / Sesiynau Ymarfer Y Gerddorfa Ukulele

Mae'r Gerddorfa Ukulele yn cwrdd yn wythnosol ar gyfer gwersi / sesiynau ymarfer am 7:00 (hyd at 9:00) ar Nos Fercher (am 10 wythnos bob tymor). Mae croeso i aelodau newydd sy'n gallu chwarae'r ukulele ymuno. 

Cynhelir y dosbarth dan arweiniad Mei Gwynedd, yng Nghanolfan Gelf Chapter (Chapter Arts Centre), Caerdydd.

Gellir cofrestru i ymuno â'r sesiynau trwy gysylltu â Menter Iaith Caerdydd

Cyfeiriad lleoliad y sesiynau:
Canolfan Gelf Chapter (Chapter Arts Centre),
40, Ffordd y Farchnad,
Caerdydd.
CF5 1QE

Canolfan Gelf Chapter