Croeso i wefan newydd Ysgol Gymuned Llannerch-y-Medd
Mae Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd yn ysgol gymuned Gymraeg sy’n darparu addysg ddwyieithog ar gyfer plant 3 - 11 oed mewn ardal amaethyddol. Mae wrth galon y gymuned, efo cysylltiadau agos rhwng y rhieni, busnesau lleol, cyrff crefyddol a’r Cyngor Cymuned. Pwysleisir dysgu pynciau thematig trwy ddarparu profiad eang thrwy ymweliadau disgyblion, a chanolbwyntio ar yr ardal leol. Hyn er mwyn ennyn parch tuag at eiddo, adeiladau, cyd-ddyn a’n gilydd.
Mae gan yr ysgol berthynas agos iawn â’r holl rieni ac mae gennym bolisi drws agored er mwyn trafod unrhyw bynciau sy’n peri pryder. Mae yna awyrgylch cyfeillgar iawn ac y mae’r holl blant yn caru dod i’r ysgol.
Welcome to the new website of Ysgol Gymuned Llannerch-y-Medd.
Ysgol Gymuned Llannerch-y-Medd is a Welsh-medium community school that provides bilingual education for children aged 3-11 in a rural area. It is at the heart of the community, with close connections between parents, local businesses, religious bodies, and the Community Council. We emphasize thematic learning by providing a broad experience through student visits and focusing on the local area. This is to foster respect for property, buildings, fellow individuals, and each other.
The school has a very close relationship with all parents, and we have an open-door policy to discuss any concerns. There is a very friendly atmosphere, and all children love coming to school.
Mrs F Wyn
Iach a hapus - Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion (Mehefin 2019)
"Mae dysgu proffesiynol sy’n cefnogi iechyd a llesiant disgyblion weithiau’n gysylltiedig â gwella medrau staff yn yr ysgol i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo eu bod o’r un gwerth â phawb yng nghymuned yr ysgol. Er enghraifft, yn Ysgol Gymunedol Llannerch-y-Medd, mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant iaith arwyddion i gynorthwyo plentyn byddar yn y dosbarth meithrin. Mae hyn yn golygu bod yr holl staff yn yr ysgol yn gallu cyfathrebu â’r disgybl hwn ar lefel sgwrsio sylfaenol, er enghraifft trwy ei gyfarch pan fydd yn cyrraedd neu gadarnhau ei fod yn iawn yn ystod amser egwyl"
Healthy and happy - School impact on pupils’ health and wellbeing (June 2019)
"Professional learning that supports pupils’ health and wellbeing is sometimes about upskilling staff in the school to make sure that every child feels like an equally valued member of the school community. For example, in Ysgol Gymunedol Llannerch-y-Medd, all staff have received training in sign language to support a deaf pupil in the nursery. This means that all staff in the school can communicate with this pupil at a basic conversational level, for example by greeting them on arrival or checking they are well during break time".