Fideos / Videos

Meysydd Dysgu a Phrofiad / Areas of Learning and Experience

Cyfarfod â rhai o'n staff a'u clywed yn siarad am eu Meysydd Dysgu.

Meet some of our staff and hear about their Areas of Learning.

Communications, English & Literacy

Yn Ysgol Llanfyllin, ein nod yw sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r gallu i gyfathrebu mewn amryw o ffurfiau sy’n eu galluogi i fod yn ddinasyddion byd-eang hyderus a pharchus. Dylent fod yn ddysgwyr gwydn ac uchelgeisiol sydd yn medru cyfathrebu o fewn gwahanol ddiwylliannau a chymunedau. Gan ddefnyddio ein hethos TEULU, maent yn cydymdeimlo ag eraill drwy eu gwerthfawrogiad ehangach o lenyddiaeth. Maent yn ymateb yn greadigol i ystod o destunau ac yn eu defnyddio i ddylanwadu ar y ffordd y maent yn cyfathrebu.


At Ysgol Llanfyllin, our goal is to ensure that learners develop the ability to communicate in a variety of forms that enables them to be confident and respectful global citizens. They should be resilient and ambitious learners who are able to communicate within different cultures and communities. Using our TEULU ethos, they empathise with others through their wider appreciation of literature. They respond creatively to a range of texts and use this to influence the way they communicate.

Cyfathrebu Cymraeg a Ieithoedd

Yn Ysgol Llanfyllin ein nod yw sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu i fod yn ieithyddion uchelgeisiol sydd ddim ofn bod yn greadigol wrth ddysgu a defnyddio ieithoedd. Rydym am i’n dysgwyr fod yn gyfathrebwyr hyderus sydd wedi’u cyffroi gan gyfoeth o lenyddiaeth. Rydym ni am i’n dysgwyr ddod yn ymholwyr wrth iddynt wneud cysylltiadau rhwng ieithoedd a cheisio cyfleoedd i ymarfer. Drwy ein hethos TEULU, ein nod yw ysbrydoli dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesol sy’n cofleidio Cymru ddwyieithog ac yn parchu ieithoedd a diwylliannau eraill.


In Ysgol Llanfyllin our aim is to ensure that our learners grow into ambitious linguists who are not afraid to be creative whilst learning and using languages. We want our learners to be confident communicators that are excited by a wealth of literature. We want our learners to become enquirers as they make connections between languages and seek opportunities to practice. Through our TEULU ethos, our aim is to inspire learners to be moral citizens who embrace a bilingual Wales and respect other languages and cultures.

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Mae amgylchedd gofalu y Celfyddydau Mynegiannol yn annog dull blaengar ac arloesol o fynd i’r afael a phrosiectau sydd yn sicrhau fod myfyrwyr yn ffynnu yn greadigol. Bydd y gyfadran yn rhoi cyfleoedd cynhwysol i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau creadigol ymhellach drwy gysylltiadau diwydiant , ymarferwyr a chydweithrediad cyfoedion, gan ganiatáu iddynt ddod yn unigolion iach ac uchelgeisiol gyda hyder i ymdrechu a llwyddo gyda Teulu yn ganolog iddo.


The Expressive Arts caring environment encourages a progressive and innovative approach to projects that ensure students thrive creatively. The faculty will provide students with inclusive opportunities to further their creative skills through industry links, practitioners and peer collaboration, allowing them to become healthy and ambitious individuals with confidence to strive and succeed with Teulu at its heart.

Dyniaethau / Humanities

Yn Ysgol Llanfyllin ein nod yw sicrhau bod dysgwyr, yn dod yn ddinasyddion moesegol, a gwybodus o Gymru a’r byd. Rydym yn ymdrechu i hyrwyddo dealltwriaeth o sut y mae pobl Cymru, ei chymunedau, hanes diwylliant, tirwedd, adnoddau a diwydiannau yn cydberthyn a gweddill y byd. Gyda Teulu wrth wraidd ein cwricwlwm newydd, ein gweledigaeth yw meithrin ymdeimlad o “berthyn” sydd yn annog dysgwyr i gyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau. Ein nod yw ysbrydoli dysgwyr i werthfawrogi’r rôl sylfaenol mae’r Dyniaethau yn chwarae wrth greu unigolion uchelgeisiol , mentrus, hyderus a rhagweithiol , yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.


At Ysgol Llanfyllin our aim is to ensure that learners, become ethical, informed citizens of Wales and the world. We strive to promote an understanding of how the people of Wales, its communities, history, culture, landscape, resources and industries, interrelate with the rest of the world. With Teulu at the heart of our new curriculum, our vision is to foster a sense of “belonging” that encourages learners to contribute positively to their communities. We aim to inspire learners to appreciate the primary role Humanities plays in creating ambitious, enterprising confident and proactive individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Gwyddoniaeth / Science

Mae’r Maes Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Llanfyllin yn ymdrechu i herio ein disgyblion i fod yn arloesol a chreadigol. Rydym yn gwneud hyn drwy addysgeg ddyheadol i ddatblygu unigolion iach, hyderus a gwydn. Mae datblygu gwybodaeth, cysylltu damcaniaeth a sgiliau ymchwil yn meithrin chwilfrydedd gwyddonol cryf yn ein dysgwyr gydol oes.


The Science and Technology Area of Learning at Ysgol Llanfyllin strives to challenge our pupils to be innovative and creative. We do this through aspirational pedagogy to develop healthy, confident and resilient individuals. Developing knowledge, linking theory to research and investigative skills fosters a strong Scientific curiosity in our lifelong learners.

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Yn Ysgol Llanfyllin, ein nod yw sicrhau bod lles corfforol, meddyliol ac emosiynol ein dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn ymdrechu i greu diwylliant ysgol sydd yn galluogi ein dysgwyr i fod yn unigolion iach, hyderus a gwydn sy’n dangos meistrolaeth mewn llythrennedd corfforol. Drwy ddefnyddio ein hethos TEULU yn sylfaen ar gyfer ein cwricwlwm newydd, ein nod yw ysbrydoli dysgwyr i gydnabod a gwerthfawrogi'r rôl sylfaenol y mae iechyd a lles yn ei chwarae wrth greu unigolion uchelgeisiol, llawn cymhelliant sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.


At Ysgol Llanfyllin, our goal is to ensure that learners’ physical, mental and emotional well-being is at the very heart of everything we do. We strive to create a school culture that enables our learners to be healthy, confident, resilient individuals who demonstrate mastery in physical literacy. Using our TEULU ethos as the foundation for our new curriculum, we aim to inspire learners to acknowledge and appreciate the fundamental role played by health and well-being in creating ambitious, motivated individuals who are ready to learn throughout their lives.

Mathemateg a Rhifedd / Maths and Numeracy

Yn Ysgol Llanfyllin, rydym yn gweithio i sicrhau fod ein holl ddysgwyr yn defnyddio eu sgiliau mathemateg a rhifiadol hyd eithaf eu gallu. Ein nod yw datblygu hyder disgyblion wrth wneud penderfyniadau rhifiadol gwybodus y gallant wedyn eu defnyddio yn eu bywydau a’u gyrfaoedd. Er mwyn cyflawni hyn, ein nod yw rhoi cyfleoedd i bob disgybl gymhwyso eu sgiliau tra’n mwynhau profiad dysgu gwerth chweil.


At Ysgol Llanfyllin, we work to ensure that all of our learners use their mathematical and numerical skills to the best of their ability. Our goal is to develop pupil confidence in making informed numerical decisions that they can then apply in their lives and careers. In order to achieve this, we aim to provide all pupils with the opportunities to apply their skills whilst enjoying a rewarding learning experience.

Technoleg / Technology

Mae’r Maes Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Llanfyllin yn ymdrechu i herio ein disgyblion i fod yn arloesol a chreadigol. Rydym yn gwneud hyn drwy addysgeg ddyheadol i ddatblygu unigolion iach, hyderus a gwydn. Mae datblygu gwybodaeth, cysylltu damcaniaeth a sgiliau ymchwil yn meithrin chwilfrydedd gwyddonol cryf yn ein dysgwyr gydol oes.


The Science and Technology Area of Learning at Ysgol Llanfyllin strives to challenge our pupils to be innovative and creative. We do this through aspirational pedagogy to develop healthy, confident and resilient individuals. Developing knowledge, linking theory to research and investigative skills fosters a strong Scientific curiosity in our lifelong learners.