Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2020-2021, mae gan ysgolion, lleoliadau, awdurdodau lleol a rhanbarthau chwe thymor ar gyfer ymgysylltu â Chwricwlwm i Gymru, ei gynllunio a dechrau ei addysgu, gan greu cwricwlwm lleol o'r fframwaith cenedlaethol. Maent yn gwneud hynny mewn hinsawdd na allem fod wedi'i ddychmygu pan gyhoeddwyd y fframwaith a'r canllawiau ym mis Ionawr eleni. Er y bydd y siwrnai i ddiwygio'r cwricwlwm ychydig yn wahanol i'r hyn y gallech fod wedi'i gynllunio, mae egwyddorion a dibenion Cwricwlwm i Gymru yn fwy perthnasol nag erioed mewn byd sy'n newid yn gyflym, ac sy'n aml yn peri syndod. Nawr yw’r amser i ailwampio'r ffyrdd yr ydym yn dysgu, addysgu ac asesu er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i genhedlaeth newydd.

Bydd y gyfres hon o weithdai ar-lein yn eich galluogi ysgolion o fewn rhanbarth ERW i barhau â'ch taith i ddiwygio, a hynny trwy ddarparu ystyriaethau ysgol gyfan ac ymgysylltiad â'r MDPh, ni waeth le yr ydych o ran eich datblygiad. Mae Taith i'r Cwricwlwm i Gymru ERW yn cynnwys fideos rhagarweiniol a fydd yn darparu cymorth i ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth o fodel cysyniadol y cwricwlwm. Dilynir y modelau cwricwlwm hyn gan set o bedwar gweithdy ysgol gyfan a fydd yn galluogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu neu ddiweddaru eu gweledigaeth ar y cyd â rhanddeiliaid lleol, i ystyried cydweithio, ac i werthuso eu haddysgeg a'u harfer asesu mewn perthynas â'u hanghenion datblygu ysgol gyfan. Yn ogystal, mae chwe gweithdy Meysydd Dysgu a Phrofiad unigol yn eich cefnogi chi i ystyried y weledigaeth ar gyfer pob MDPh. Cyn pob cyfres o weithdai mae yna dudalen sy'n eu cyflwyno, sef "Ymagwedd Ysgol Gyfan" a "Meysydd Dysgu a Phrofiad".

Bydd iteriadau yn y dyfodol yn cefnogi ysgolion i ddechrau cynllunio cwricwlwm ac asesu o lefel uchel wrth iddynt ddechrau treialu agweddau ar y cynllun, dulliau newydd ac addysgeg greadigol, ynghyd â gwerthuso a mireinio eu hymagwedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau ar ddysgu i ysgolion o dymor yr hydref, ac mae'r canllawiau hyn yn awgrymu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno tynnu ar ganllawiau Cwricwlwm i Gymru wrth iddynt gynllunio ar gyfer dysgu ac iddo ffocws penodol ar y pedwar diben. Mae'r canllawiau hefyd yn annog ysgolion i fod yn uchelgeisiol yn eu hymagwedd at ddysgu. Ar hyn o bryd, mae'r gofynion sylfaenol o ran y cwricwlwm ac asesu yn parhau i fod wedi'u haddasu, gan roi'r amser sy'n ofynnol ar ysgolion i newid i ffyrdd newydd o weithio.

Mae'r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn eglur nad yw tynnu ar Gwricwlwm i Gymru ar yr adeg hon yn gyfystyr â pharatoi ar gyfer diwygio. Fodd bynnag, mae ysgolion a lleoliadau yn cael eu tywys i fod yn fwy cyson ag egwyddorion ac ethos Cwricwlwm i Gymru. Bydd Taith i'r Cwricwlwm i Gymru ERW yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i ddarparu dysgu proffesiynol perthnasol a fydd yn bodloni'r disgwyliadau hyn.

Gall unigolion ddefnyddio gweithdy unigol i wella eu gwybodaeth, ond, lle bynnag y bo modd, mae'n well eu defnyddio ar y cyd er mwyn ennyn trafodaeth. Fe'u cynlluniwyd i alluogi ysgolion i'w defnyddio mewn modd hyblyg i ategu eu datblygiad proffesiynol arfaethedig, i ddarparu sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol yn ystod sesiynau hyfforddi neu ddiwrnodau HMS, neu i fod yn rhan o gynlluniau datblygu hir dymor ysgol/rhwydwaith a gweithgareddau ymchwil tymor. Gall pob un gymryd cyn lleied ag awr iatgyfnerthu dealltwriaeth neu sawl wythnos ar gyfer adolygu mwy manwl. Dylai ysgolion sicrhau bod gan yr holl staff a llywodraethwyr ddealltwriaeth gadarn o'r model cwricwlwm newydd hwn, pwysigrwydd datblygiad ysgol gyfan-a'r weledigaeth ar gyfer y chwe maes dysgu, a hynny cyn dechrau cynllunio profiadau dysgu. Lle yr hoffai ysgolion gael cymorth pellach, gall ERW eu cefnogi, yn ôl y gofyn, trwy ddull cyfunol.

Mae Taith i'r Cwricwlwm i Gymru ERW yn adnodd datblygiad proffesiynol ar-lein a chyfunol, sy'n cael ei ategu gan y wefan Trawsnewid Eich Cwricwlwm a'r rhaglenni hyfforddi addysgeg, Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth a Dysgu ar gyfer Rhagoriaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni hyn.