Beth yw Siwrne Sgiliau?:
Mae'r Siwrne Sgiliau yn adnodd a ddefnyddir i gefnogi arweinwyr ysgolion, athrawon a chynghorwyr gwella wrth werthuso ansawdd sgiliau ysgrifennu dysgwyr ar draws y cwricwlwm o 3-16 oed. Mae'r adnodd yn darparu enghreifftiau dilys a disgrifiadau byr i fesur pa mor dda y mae dysgwyr yn datblygu mewn elfennau penodol o'u sgiliau ysgrifennu gan ddefnyddio'r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol, gan gynnwys: eu defnydd o eirfa, sillafu, gramadeg, cysyllteiriau, brawddegau, atalnodi, cynllunio a golygu/ailddrafftio.
Mae gan bob disgrifiad enghreifftiau o waith ysgrifennu disgyblion dilys ar draws awdurdodau lleol Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe sydd wedi'u cymedroli gan ysgolion, arweinwyr rhanbarthol ac arweinwyr awdurdodau lleol i enghreifftio'r elfen ysgrifennu honno ar waith ac i fesur pa mor dda y caiff ei wneud gan y dysgwr hwnnw. Cymerir pob enghraifft o wahanol bynciau a themâu ar draws y cwricwlwm.
Bydd yr enghreifftiau go iawn hyn yn cefnogi arweinwyr ac athrawon wrth werthuso safonau datblygiad ysgrifennu disgyblion yn eu cyd-destunau, o'i gymharu â disgyblion o ysgolion eraill ar draws y rhanbarth.