Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n dysgu sut i ddatblygu’r sgiliau sydd yn berthnasol ar gyfer y byd gwaith. Byddi di hefyd yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn sicrhau dy fod yn llwyddiannus yn y broses o wneud ceisiadau ar gyfer swyddi. Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ystod y cwrs a byddi di’n derbyn nifer o gyfleoedd i gyflwyno gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys gwneud cyflwyniadau.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n gweithio ar nifer o unedau yn ystod y cwrs gan gynnwys astudio gwaith gwirfoddol, ysgrifennu CV, rheoli dy arian dy hunan, gwneud cais am swydd a pharatoi am gyfweliad. Byddi di’n datblygu dealltwriaeth o sgiliau byd gwaith drwy wneud gwaith ymchwil er mwyn cwblhau’r aseiniadau ym mhob uned.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy uned a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Asesiadau mewnol (100%)
Asesir safon aseiniadau’r ymgeiswyr ym mhob uned yn fewnol gan yr ysgol. Nid oes unrhyw arholiadau’n rhan o’r cwrs. Enghreifftiau o aseiniadau yw gwneud cyflwyniadau, cyflwyno gwybodaeth ar ffurf poster a phrosiectau byr.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd y cwrs yn dy baratoi di ar gyfer y cyfnod pan fyddi di’n gwneud ceisiadau am swyddi. Mae hefyd yn bosib mynd ymlaen i astudio cyrsiau BTEC sydd yn ffocysu ar swyddi penodol e.e. trin gwallt, adeiladu a mwy.
Syniadau am swyddi ...
Mae’r cwrs yma’n dy baratoi i wneud ceisiadau am unrhyw swydd ond bod y cymwysterau perthnasol gyda ti.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda Mrs Matthews.
What will I learn?
You will learn about and you will develop the relevant skills required for the world of work. You will also develop the skills required to succeed in the process of making job applications. There will be number of opportunities to develop your literacy and numeracy skills and you will be given a number of opportunities to present information in a variety of ways including making presentations.
How will I learn?
You will work on a number of units during the course including studying the voluntary sector, writing a CV, managing your own money, applying for jobs and preparing for interviews. You will develop your understanding of the skills required for the world of work by completing an assignment in each unit.
Do I need any equipment?
You will not require any special equipment, apart from your unit and Chromebook.
How will I be assessed?
Internal Assessment (100%)
The standard of all the assignments will be assessed internally by the school. There are no examinations in this course. Examples of assignments are presentations, presenting information in the form of a poster and short projects.
What is the next step after this course?
The course will prepare you for the time when you will be applying for jobs. It is also possible to go on to study BTEC courses which focus on specific jobs such as hairdressing, construction and many more.
Ideas for jobs ...
This course prepares you for making an application for any job provided that you have the relevant qualifications.
Want to know more?
Come and speak to Mrs Matthews.