Beth fydda i’n ei ddysgu?
Mae’r cymhwyster newydd hwn yn gyfuniad o Saesneg Iaith a Llenyddiaeth. Byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg. Fe fydd pwyslais ar gywirdeb sillafu, atalnodi a gramadeg, gan gynnwys sgiliau golygu. Bydd cyfle i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd a phwrpasau amrywiol. Byddi di’n datblygu sgiliau darllen llenyddol ac anllenyddol. Byddi di’n dangos dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau ysgrifenedig a digidol. Byddi di’n dysgu sut i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu’n rhugl ac yn feirniadol. Byddi di’n datblygu sgiliau rhesymu trwy ystod o dasgau darllen, ysgrifennu a thasgau llafaredd gwahanol er mwyn datblygu sgiliau i dy helpu mewn addysg bellach, yn ogystal â gyda chyflogwyr o fewn cymdeithas a byd gwaith.
Sut fydda i’n dysgu?
Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs TGAU Saesneg i gyd ar dy Google Classroom. Byddi di hefyd yn defnyddio dy Chromebook er mwyn dysgu geirfa, creu cyflwyniadau, recordio llais a fideo, chwilio am eirfa newydd a gwneud gwaith ymchwil. Bydd gwaith cartref cyson er mwyn gwella dy sgiliau ieithyddol.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy unedau, dy lyfrau Saesneg, a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Fe fydd unedau 1, 4b a 6 yn cael eu asesu trwy arholiad allanol gwerth 60% o’r cymhwyster. Hyd yr arholiadau yw 90 munud yn cynnwys cwestiynau tariff isel, ymateb traethawd estynedig a darn o ysgrifennu creadigol ffuglen neu ffeithiol. Mae Unedau 2, 3 a 5 yn asesiadau di-arholiad; fydd yn werth 40% o'r cymhwyster. Bydd pob uned yn cynnwys dwy dasg: un a fydd yn asesu dy ymateb ysgrifenedig i'r testun(au) perthnasol ac un a fydd yn asesu dy sgiliau llafaredd.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Os wyt ti hefyd wedi llwydo i gael ‘C’ yn Llenyddiaeth Saesneg yna bydd modd i ti astudio Lefel A Llenyddiaeth Saesneg (AS ac yna A2) os wyt ti’n dymuno.
Syniadau am swyddi …
Mae TGAU Saesneg Iaith yn gymhwyster angenrheidiol i bawb ar gyfer y byd gwaith. Mae gradd ‘C’ yn y pwnc yn dangos i gyflogwyr fod gennyt ti’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur. Mae’r cymhwyster yn profi dy fod yn gallu darllen a deall canllawiau, gwybodaeth a syniadau. Mae yna ystod eang o swyddi a chyfleoedd ar gael i gyfathrebwyr hyderus sef: y byd busnes, twristiaeth, addysg, cyfieithu, ond hefyd mae angen pobl gyda sgiliau ieithyddol da ym myd peirianneg, meddygaeth, masnach, ac unrhyw sefydliadau neu gwmnïau rhyngwladol. I’r rheini sydd am arbenigo mewn Saesneg, mae cyfleoedd o ran newyddiaduraeth, y cyfryngau, byd addysg ac unrhyw swydd ble mae sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu’n hanfodol.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda ni yn yr Adran Saesneg.
What will I learn?
The GCSE English Language and Literature Double Award enables you to appreciate how language connects you to the world around you, to engage with a rich range of texts from different periods and by diverse writers, and to develop and apply your own use of language, through written and verbal communication.
How will I learn?
All resources for the GCSE English course will be on your Google Classroom. You’ll also use your Chromebook and classwork to learn vocabulary, create presentations, make voice and video recordings and for research and wider reading tasks. Homework will be consistently set to build skills and confidence with literacy.
Do I need any equipment?
You will not need special equipment, except for your units, your English books, and your Chromebook.
How will I be assessed?
Units 1, 4b and 6 are examined units, together worth 60% of your qualification. Each exam lasts 90 minutes and will consist of low-tariff extract-based questions, an extended essay response and a piece of creative fiction or non-fiction writing. Units 2, 3 and 5 are non-examined assessments, together worth 40% of your qualification. Each unit will consist of two tasks, one that will assess your written response to the relevant text(s) and one that will assess your oracy skills.
What is the next step after this course?
It will be possible for you to continue studying (AS and then A2) if you also study English Literature. The literacy skills you develop throughout GCSE will also help you with all AS and A Level English courses.
Ideas for jobs ...
English Language GCSE is an essential qualification for every workplace. Achieving a ‘C’ grade in this subject demonstrates to employers that you have the ability to communicate effectively, both orally and on paper. The qualification proves that you can read and understand instructions, information and ideas. For those who wish to specialise in English, there are opportunities in journalism, the media, education and any jobs where writing and oral skills are essential. GCSE English Language and Literature is designed to equip you with a rich variety of skills for your future in education and the workplace. It is a widely valued qualification that provides a strong foundation for further study of literature, language, and a wide range of other academic subjects at A level and beyond. It can open the door to an array of career paths such as law, journalism, media production, advertising, marketing, teaching, politics, public relations, and publishing.
Want to know more?
Come and speak to us in the English department.