Beth fydda i’n ei ddysgu?
Mae’r cwrs wedi'i gynllunio i sicrhau fod ymgeiswyr yn cael cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Mae hyn yn cynnwys edrych ar fyd gwesty, bwyty, caffi, arlwyo mewn ysgol a llawer o gyddestunau eraill.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu drwy astudio dwy uned. Yn yr uned gyntaf byddi di’n datblygu dealltwriaeth o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo fydd yn cael ei asesu ar ffurf arholiad allanol. Yn yr ail uned byddi di’n astudio lletygarwch ac arlwyo ar waith. Dyma elfen ymarferol y cwrs. Byddi di’n paratoi, coginio a chyflwyno prydau bwyd maethlon yn ddiogel gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd angen dy Chromebook ac hefyd bydd angen dod a cynhwysion bob wythnos ynghyd a bocs gyda caead i fynd a'r bwyd adref.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Mae’r cwrs yn cynnwys arholiad ysgrifenedig ar-lein 40% ac asesiad ymarferol pan fydd angen i ti goginio sydd yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig 60%.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Ar ôl i ti ennill y cymhwyster Lefel 1 neu 2 hwn, bydd modd i ti fynd ymlaen i astudio cyrsiau sy’n ffocysu’n bellach ar y byd arlwyo gan gynnwys cyrsiau BTEC lefel 3.
Syniadau am swyddi ...
Mae’r cwrs yma’n ddefnyddiol iawn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau mynd ymlaen i weithio ym myd bwyd, lletygarwch ac arlwyo. Enghreifftiau o lefydd posibl i weithio gyda’r cymhwyster hwn fyddai gwestai, bwytai, caffis, ffreutur, lleoliadau digwyddiadau, cartrefi gofal ayb neu swyddog iechyd yr amgylchedd.
What will I learn?
The course has been designed to give learners the opportunity to develop an understanding of the hospitality and catering industry. You will look at the world of hotels, cafés, school catering as well as lots of other contexts.
How will I learn?
You will study two units. In the first unit you will develop your understanding of the hospitality and catering industries. In the second unit you will develop hands-on experience of catering and hospitality. This is the practical part of the course and will include planning, preparing, cooking and presenting nutritional meals safely.
Do I need any equipment?
The school will provide you with the units of work and your Chromebook.
How will I be assessed?
The course includes a written on-line exam and a practical assessment when you will need to cook.
What is the next step after this course?
After gaining this Level 1 or 2 qualification, you will be able to go on to study courses which focus further on the catering sector such as BTEC Level 3 courses.
Ideas for jobs ...
This qualification is an ideal first step for anyone planning on working with food, hospitality and catering. Examples of specific workplaces would be hotels, restaurants, cafés, canteens, event venues, care homes etc.
Want to know more?
Come and speak to Mrs Hook.