Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n parhau i ddatblygu sgiliau hanesyddol o ddadansoddi a gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau ac yn ystyried achosion a chanlyniadau digwyddiadau hanesyddol. Byddi di’n dysgu am wahanol gyfnodau hanesyddol, gan ganolbwyntio ar gyfnod penodol yn hanes Cymru a Phrydain, un o agweddau mawr hanes fyd-eang a thema hanesyddol ar hyd yr oesoedd.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu un uned ar y tro ac yn gwneud gwaith pâr a grŵp er mwyn trafod syniadau a pharhau i ddatblygu dy sgiliau hanes. Bydd pob uned ar iTunesU a rhoddir unedau gydag enghreiftiau o gwestiynau i chi ymarfer drwy gydol y ddwy flynedd. Byddi di’n derbyn ymchwil, tasgau estynedig ac ymarferion arholiad fel gwaith cartref.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy uned a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Arholiad Hanes Prydain (25%)
Arholiad Hanes Byd-Eang (25%)
Arholiad Thematig (25%)
Gwaith Cwrs (25%)
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Hanes (AS ac yna A2) os wyt ti’n dymuno.
Syniadau am swyddi ...
Unrhyw swydd sy’n gofyn am sgiliau ymchwilio, megis byd busnes, cyfryngau, addysg, meddygaeth (gallu i wneud penderfyniadau doeth yn seiliedig ar dystiolaeth feddygol), peirianneg a nifer fawr o swyddi eraill. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn hoff o weld TGAU Hanes ar CV gan ei fod yn bwnc traddodiadol sy’n dangos nifer o sgiliau sy’n gweddu i’r byd gwaith. Dangosa hefyd eich bod yn unigolyn sy’n deall y byd o’ch amgylch, yn prosesu gwybodaeth, yn gallu cwestiynu syniadau a dod i gasgliad yn annibynnol.
Eisiau gwybod mwy? Dere i siarad gyda ni yn yr Adran Hanes.
What will I learn?
You will continue to develop the historical skills such as how to analyse historical sources, assess the reliability of sources and consider the effect and causes of historical events. You will be studying various topics such as a specific period in Welsh and British history, one of the important aspects of world history and a thematic topic across the ages.
How will I learn?
You will study one unit at a time and do group and pair work in order to discuss ideas and continue to develop your historical skills. The units are provided via our course on iTunesU and you will also receive a unit to practise examination question throughout the two years. You will receive research, extended writing and examination practices as homework.
Do I need any equipment?
No special equipment is required, apart from your unit, and Chromebook.
How will I be assessed?
British history examination (25%)
Global history examination (25%)
Thematic examination (25%)
Coursework (25%)
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A Level History (AS and then A2) if you wish.
Ideas for jobs ...
Any job that requires research skills, such as the business world, media, education, medicine (the ability to make confident decisions based on medical evidence), engineering and many other jobs. Employers and universities appreciate GCSE History on a CV as it is a traditional subject that demonstrates many skills that are useful in the world of work. It shows that you are an individual who understands the world around you, that you can process information, question ideas and draw conclusions independently.
Want to know more? Come and speak to us in the History Department.