Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n astudio cyrsiau gwyddoniaeth sy’n cynnwys elfennau o Ffiseg, Cemeg a Bioleg. Byddi di’n dilyn UN o’r pwyntiau bwled canlynol:
• TGAU Bioleg + TGAU Cemeg + TGAU Ffiseg
• TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd)
• TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dwyradd)
• TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol)
Wrth astudio’r themâu, byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau gwyddonol. Bydd y gyfadran yn dewis pa gyrsiau sydd fwyaf addas ar dy gyfer.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu am y themâu gwahanol yn eu tro gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau astudio. Bydd gwaith ymarferol yn rhan allweddol o’r cyrsiau er mwyn datblygu dy sgiliau ymarferol. Byddi di’n derbyn gwaith cartref a phrofion rheolaidd er mwyn gwella dy sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, gwella dy dechneg arholiad ac atgyfnerthu dy ddealltwriaeth o’r themâu pynciol.
Oes angen offer arnaf fi?
Cyfrifiannell wyddonol, fel yr un sydd angen ar gyfer Mathemateg.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Mae trefniadau asesu unigol gan bob cwrs, ond bydd pob cymhwyster yn cael ei ddyfarnu ar sail asesiadau ysgrifenedig mewnol (rhwng 10% a 30% yn dibynnu ar y cymhwyster) ac arholiadau diwedd blwyddyn (Bl 10 ac 11). Bydd yr adran yn dy arwain at y cyrsiau mwyaf addas i ti o ganlyniad i’r wybodaeth a’r sgiliau rwyt ti wedi eu datblygu yn ystod Cyfnod Allweddol 3.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Mae’n bosibl astudio Lefel A Bioleg/Cemeg/Ffiseg yn dilyn y cyrsiau TGAU Gwyddoniaeth. Mae’n bosibl astudio Lefel A Gwyddoniaeth Gymhwysol yn dilyn y cwrs TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dwyradd).
Syniadau am swyddi
Unrhyw beth sy’n gofyn am unigolion sydd â meddwl treiddgar, rhesymegol a dadansoddol. Gwyddonydd ymchwiliol, gwyddonydd fforensig, pob maes peirianneg, bancio, y sector fusnes, addysg a llawer mwy.
Eisiau gwybod mwy?
Dere am sgwrs yn y Gyfadran Gwyddoniaeth.
What will I learn?
You will study science courses containing elements of Biology, Chemistry and Physics. You will follow ONE of the following bullet points:
• GCSE Biology + GCSE Chemistry + GCSE Physics
• GCSE Science (Double Award)
• GCSE Applied Science (Double Award)
• GCSE Applied Science (Single Award)
Whilst studying the themes, you will develop your scientific skills. The faculty will decide which courses are most suitable for you.
How will I learn?
You will learn about the individual topics using a variety of study styles. Practical work will be a core part of the courses in order to develop your practical skills. You will receive regular homework and tests in order to improve your written communication skills, improve your examination technique and reinforce your understanding of the subject.
Do I need any equipment?
A scientific calculator, like the one required for Mathematics.
How will I be assessed?
Each course has individual assessment requirements; however, every qualification will be awarded on the basis of internal written assessments (between 10% and 30% depending on the qualification) and end of year examinations (Years 10 and 11). The department will guide you to the most suitable courses for you as a result of the skills and knowledge you have developed during Key Stage 3.
What is the next step after this course?
It is possible to study A Level Biology/Chemistry/Physics following the GCSE Science courses. It is possible to study an A Level in Applied Science following the GCSE Applied Science (Double Award) course.
Ideas for jobs
Anything that requires an individual who possesses an inquisitive, logical and analytical mind.Research scientist, forensic scientist, every engineering disciplines, banking, the business sector, education and much more.
Want to know more?
Come for a chat with us in the Faculty of Science.