Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n dilyn dwy uned orfodol y gellir eu cymhwyso i unrhyw sector neu faes galwedigaethol. Yn y cymhwyster hwn, byddi di’n defnyddio trin gwallt a harddwch i ddatblygu dy hunan ac yn dilyn y sgiliau a’r priodweddau sy’n werthfawr i gyflogwyr, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch.
Dyma’r unedau sy’n ffurfio’r cymhwyster:
Uned 1 - Deall y sector gwallt a harddwch. Yn yr uned hon byddi di’n datblygu dealltwriaeth o strwythur a phwysigrwydd y sector gwallt a harddwch. Byddi hefyd yn dysgu am y cynnyrch a ddefnyddir, a’r gwasanaethau a’r triniaethau a ddarperir ar draws y sector yn ogystal â chyfleoedd gyrfa.
Uned 2 - Prosiect ymchwil Gwallt a Harddwch. Yn yr uned hon byddi di’n dysgu sut i gynllunio prosiect ymchwil gwallt a harddwch. Wedyn byddi di’n llunio a chynnal ymchwil i faes pwnc penodol o’r sector gwallt a harddwch.
Sut fydda i’n dysgu?
Mae hwn yn gwrs technegol, yn benodol ar gyfer disgyblion 14-16 oed. Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi pobl ifainc i wneud y canlynol:
Datblygu dealltwriaeth eang a chynhwysfawr o’r sector gwallt a harddwch
Datblygu gwybodaeth sy’n rhan o’r sector galwedigaethol cyfan a’r diwydiannau cysylltiedig
Datblygu sgiliau sy’n benodol i’r maes trin gwallt a harddwch yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd yr ysgol yn darparu’r holl offer.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Byddi di’n cwblhau asesiadau mewnol ac yn cynhyrchu prosiect ymchwil gwallt a harddwch.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Gelli di fynd ymlaen i astudio cymwysterau trin gwallt a harddwch lefel 3.
Syniadau am swyddi ...
Swyddi mewn salon trin gwallt, siopau harddwch e.e. trin ewinedd, gweithio mewn sba mewn amryw o westai ac ar longau moethus. .
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda Mrs Milton, sef y Tiwtor Trin Gwallt a Harddwch.
What will I learn?
You will follow two compulsory units that can be applied to any vocational sector. In this qualification you will use the hair and beauty industry to develop yourself and learn the skills and attributes valued by employers, further education colleges and higher education establishments.
The qualification comprises of two units:
Unit 1 – Understanding the hair and beauty sector. In this unit you will develop an understanding of the structure and importance of the hair and beauty sector. You will also learn about the products used, and the services and treatments offered across the sector as well as job prospects.
Unit 2 – Hair and Beauty Research Project. In this unit the you will learn how to plan a research project in hair and beauty. You will then design and undertake research in a subject specific area of the hair and beauty sector.
How will I learn?
This is a vocational course designed for students aged 14-16 years old. The qualification supports young people in:
Developing a wide-ranging understanding of the hair and beauty sector.
Developing their knowledge of the whole vocational sector as well as related industries.
Developing skills that are specific to the hair and beauty sector as well as other transferable skills
Do I need any equipment?
The school will provide all the required equipment.
How will I be assessed?
You will complete internal assessments as well as a hair and beauty research project.
What is the next step after this course?
You will be able to progress onto level 3 qualifications in hair and beauty
Ideas for jobs ...
Working in hairdressing salons, beauty boutiques such as nail bars, hotel spas or on cruise ships.
Want to know more?
Come and speak to Mrs Milton the Hair and Beauty Tutor.